Adroddiad Misol Hydref 2015

26/11/2015

AELOD CYNULLIAD ARFON

ALUN FFRED JONES AC

HYDREF 2015

Pigion Dyddiadur Hydref

Iau, 1 Hydref

Pwyllgor Cyllid

Gwener, 2 Hydref

Cymhorthfa Dyffryn Owen – Talybont

Cymhorthfa Dyffryn Nantlle – Penygroes

Llun, 5 Hydref

Cymhorthfa, Caernarfon

Ymweld ag Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen

Mawrth, 6 Hydref

Cyfarfod Grŵp Plaid Cymru

Cyfarfod Llawn

Mercher, 7 Hydref

Pwyllgor Cyllid

Cyfarfod Llawn

Agoriad arddangosfa o waith yr arlunydd Eirian Llwyd yn y Senedd

Iau, 8 Hydref

Y Pwyllgor Amgylchedd ymweld â Tŷ Solcer, tŷ ynni ‘gwyrdd’ carbon-isel

ger Penybont ar Ogwr

Gwener, 9 Hydref

Ymweld â Pontio, Bangor

Ymweld â chanolfan amgylcheddol Moelyci ger Bethesda efo’r Cynghorydd Siân Gwenllian

Llun, 12 Hydref

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn cyfarfod yn Abertawe

Mawrth, 13 Hydref

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Caerdydd

Cyfarfod Grŵp Plaid Cymru

Cyfarfod Llawn

Mercher, 14 Hydref

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod Llawn

Iau, 15 Hydref

Bws Oxfam – Cynulliad

Pwyllgor Cyllid

Gwener, 16 Hydref

Cyfweliad cylchgrawn Golwg

Cymhorthfa Caernarfon

Cymhorthfa Bangor

Seremoni gwobrwyo, Coleg MPCT, Bangor

Llun, 19 Hydref

Ymweld â Chyngor Ysgol Friars

Cymhorthfa, Bangor

Mawrth, 20 Hydref

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyfarfod Grŵp Plaid Cymru

Fforwm cadeiryddion pwyllgorau’r Cynulliad

  Cyfarfod Llawn

Mercher, 21 Hydref

Pwyllgor Cyllid

Cyfarfod Llawn

Iau, 22 Hydref

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Gwener-Sadwrn 23-24 Hydref

Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru, Aberystwyth

Llun, 26 Hydref

(Wythnos hanner tymor)

Cymhorthfa, Caernarfon

Cyfweliad Golwg

Mawrth, 27 Hydref

Cymhorthfa, Caernarfon

Ymweld â Chanolfan Lôn Abaty, Bangor

Cwestiynau ac Areithiau yn y Cynulliad

6 Hydref

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Amgueddfeydd Lleol

A.Ff.J.  O gofio penderfyniad y Llywodraeth i ddileu CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru ac awgrym adroddiad Dr Haydn Edwards ar ran y Llywodraeth ei hun i greu tri chorff rhanbarthol i gefnogi amgueddfeydd lleol, sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu cynnal a datblygu amgueddfeydd lleol yng Nghymru i’r dyfodol, o gofio eu rôl bwysig o fewn y diwydiant twristiaeth?

C.J. Wel, rŷm ni’n gwybod pa mor bwysig yw amgueddfeydd lleol; rŷm ni’n gwybod eu bod nhw’n gallu creu storïau i ymwelwyr, nad ydynt yn cael eu rhoi gan amgueddfeydd mawr…

Y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi

A.Ff.J. Diolch am y diweddariad diwethaf yma ar ddatganoli’r trethi yma. Nid ydynt yn codi arian sylweddol, ond mae’n bwysig ein bod yn gwneud hyn mewn ffordd drefnus, fel paratoad ar gyfer datblygiadau mwy sylweddol nes ymlaen. O ran treth gwarediadau tirlenwi, mae’r cynigion am y dreth yma yn eithaf syml, ac ni fyddai Plaid Cymru am wneud dim yn sylweddol wahanol I Loegr yn y tymor byr. Rydym ni wedi clywed gan randdeiliaid, wrth gwrs, am y problemau a allai godi petai hynny yn digwydd.

Mewn egwyddor, rydym ni’n cefnogi’r cynnig i wyro peth refeniw i gynllun cymunedol, ac yn nodi bod hyn yn boblogaidd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ond, wrth gwrs, mae hyn, mewn ffordd, yn rhyw fath o ymrwymiad gwario, gan wybod y cefndir ariannol yr ydych yn gweithio arno fel Llywodraeth. A gawn ni, felly, glywed gan y Gweinidog pa fath o refeniw mae hi’n rhagweld bydd yn cael ei gyfeirio at gronfa gymunedol?

 O ran treth trafodion tir, yn amlwg mae datblygu treth trafodion tir yn hynod ddeniadol yn lle treth stamp, a bydd hyn yn agor cyfleoedd polisi sylweddol yn y dyfodol, er bod y sgôp, efallai, wedi’i gyfyngu ryw ychydig oherwydd bod newidiadau wedi digwydd yn Lloegr yn dilyn y cynigion, wrth gwrs, yn yr Alban. Mae’n ymddangos bod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr fel petaen nhw’n cefnogi datganoli’r dreth yma, ond, fel roeddwn yn ei ddweud, yn bryderus am amrywiadau tymor byr. Bydd yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru edrych eto ar gyfraddau Lloegr yn 2018 i weld a oes yna le i newid y bandiau a’r cyfraddau.

O ran y cwestiynau sydd gen i, a oes gan y Gweinidog unrhyw bryderon am ddyfodol cofrestru tir, sydd yn dal i gael ei wneud ar sail Cymru a Lloegr, ac a fydd yn gweithio i ofalu y bydd map swyddogol yn pennu eiddo preswyl a dibreswyl sydd yng Nghymru? Yn ail, mae’r Gweinidog wedi gweithio ar y cynigion hyn yn unig o safbwynt cyllid cyhoeddus; nid ydym wedi clywed llawer gan weddill y Llywodraeth am bolisi tai nac yn benodol am beth mae’r Llywodraeth am wneud ar berchnogaeth tai. A ydy’r Gweinidog yn gweithio gyda’i chydweithwyr ar fodelu effaith treth stamp ar brynwyr tro cyntaf ac a fyddai lliniaru peth o’r gost honno yn ddefnydd da o arian cyhoeddus ai peidio? Yn olaf, bydd treth trafodion tir yn amrywio’n arw o ran perfformiad, yn unol â newidiadau yn y farchnad dai, a bydd treth stamp, wrth gwrs—. Oherwydd yr amrywiadau hynny, mi allai hynny greu trafferthion yn y dyfodol. Felly, beth ydych chi’n rhagweld yn y dyfodol fydd cyfraniad y dreth arbennig hon pan ddaw i rym yma yng Nghymru?

Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Jane Hutt: Diolch i Alun Ffred Jones am ei sylwadau a’i gwestiynau, yn nodi eu safbwyntiau, safbwyntiau Plaid Cymru, ynglŷn â’r cyfeiriad teithio o ran datblygu polisi…

7 Hydref

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sergeant

Gwarchod Adar

A.Ff.J.     Mi awn ni yn ôl at yr adar gwyllt yr oeddech chi’n cyfeirio atyn nhw. O’r rhywogaethau adar hynny sy’n cael eu gwarchod yma yng Nghymru, yn y pum mlynedd diwethaf hyn, faint ohonyn nhw sydd wedi dangos cynnydd yn eu niferoedd?

C.S. Nid oes gennyf y manylion wrth law, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ac yn gosod nodyn yn y Llyfrgell mewn perthynas â’r cwestiwn a ofynnodd yr Aelod.

Cwestiynau I’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Lesley Griffiths

Tlodi Plant

A.Ff.J. Fel y dywedoch chi wrth ateb fy nghyfaill, Rhodri Glyn Thomas, Cymunedau’n Gyntaf yw prif arf strategol y Llywodraeth er mwyn lleihau tlodi ymysg plant, ac mae’r ardaloedd hynny wedi’u diffinio, wrth gwrs, gan y ‘Welsh index of multiple deprivation’. Faint o’r 100 cymuned dlotaf yna a adwaenwyd yn y rhestr wreiddiol sydd wedi codi allan o’r rhestr honno yn dilyn llwyddiant y cynllun hwn?

L.G. Nid oes gennyf y ffigurau hynny wrth law, ond rwy’n hapus i ysgrifennu at yr Aelod.

13 Hydref

Rhaglenni Ariannu’r UE

A.Ff.J. Diolch yn fawr am y datganiad. Jest ychydig o gwestiynau: rydych yn cyfeirio at y prosiect STEM Cymru 2 er mwyn annog plant ysgol i gymryd diddordeb mewn peirianneg. Ydy’r gronfa hon wedi’u thargedu ar gyfer ardaloedd penodol neu ar gyfer ardal y cronfeydd strwythurol yn gyffredinol? Dyna fy nghwestiwn cyntaf.

Rydych yn cyfeirio at bwysigrwydd cronfa Horizon 2020. Byddwn i gyd yn cytuno bod y gronfa hon yn un eithriadol o bwysig, yn arbennig i brifysgolion ac i rai diwydiannau yma yng Nghymru. Rydych yn dweud bod dechrau boddhaol wedi bod a bod swm o tua £22,000 wedi’i hennill gan gyrff o Gymru. Beth yw eich nod chi mewn perthynas â’r gronfa arbennig yma? Beth fydd llwyddiant yn edrych yn debyg iddo fo—ai £100 miliwn neu £200 miliwn? Faint ydych yn meddwl ydy’r capasiti yng Nghymru i ddenu arian o’r gronfa arbennig yma?

Yn olaf, rydych yn dweud y bydd cynhadledd IQ-Net yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ac y bydd y cynrychiolwyr yna’n trafod symleiddio—‘simplification’—am dri diwrnod, mae’n debyg. Beth ydy eich dealltwriaeth chi o’r gair ‘simplification’ a beth ydych yn gobeithio fydd yn deillio o’r gynhadledd honno?

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Alun Ffred Jones. Fe wnes i lansio prosiect STEM Cymru 2 yn Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn rhan o fuddiolwyr y Gorllewin a'r Cymoedd o ran y rhaglen honno… 

14 Hydref

Cyllid Gwaelodol

A.Ff.J. Weinidog, mae’r blaid Geidwadol wedi ymrwymo yn ei maniffesto i gyflwyno cyllid gwaelodol. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw rôl yn y broses hon, neu a yw Llywodraeth y DU yn cynllunio ei chyllid gwaelodol ei hun heb drafod gyda chi na’r Llywodraeth?

Jane Hutt: Wel, cefais gyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys bedair wythnos yn ôl yn unig, ychydig cyn fy set olaf o gwestiynau cyllid. Yn y cyfarfod hwnnw, buom yn trafod y cyllid gwaelodol, a phwysleisiais yr angen i Lywodraeth y DU ddod yn ôl atom ar frys yn awr i egluro sut y rhoddir y cyllid gwaelodol ar waith yn unol â’r adolygiad o wariant.

A.Ff.J. Gyda chyllid gwaelodol—diolch i chi am hynny—yn y manylion y mae’r diafol, wrth gwrs. Nid yw cyllid gwaelodol mewn gwirionedd yn gwarantu unrhyw gyllid ychwanegol i Gymru, ac ni fydd gwasgfa Barnett fel y’i gelwir, lle y mae Cymru ar ei cholled yn ariannol, ond yn digwydd pan fydd gwariant cyhoeddus yn cynyddu. Mae lefel y cyllid y cytunir arno’n bwysig felly. Fel Gweinidog, a allwch gadarnhau pa lefel gymharol o gyllid y pen rydym yn ei chael ar hyn o bryd ac ar ba gyfradd y dymunwch osod y cyllid gwaelodol? A oedd hyn yn rhan o’r trafodaethau a gawsoch gyda’ch Gweinidog cyfatebol?

J.H. Yn sicr cawsom drafodaethau am y sefyllfa rydym ynddi yn awr. Yn wir, mae eich cwestiwn yn berthnasol iawn…

A.Ff.J. Rwy’n cytuno ei bod yn allweddol i’n gwasanaethau cyhoeddus ein bod yn gwybod am lefelau cymharol o gyllid yn y dyfodol, ac mae pobl Cymru yn synhwyro nad yw’r wlad yn cael ei chyllido’n ddigonol, ac ni fyddant yn hapus fod hyn wedi parhau dros gymaint o flynyddoedd, gyda’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur yn arwain Llywodraeth y DU. Pa bryd y gallwn ddisgwyl gweld y cytundeb cyllid gwaelodol yn cael ei gyhoeddi, ac a yw cyhoeddiad o’r fath yn gysylltiedig â datganoli treth incwm?

J.H. Unwaith eto, rwy’n croesawu’r cwestiwn yn fawr, Alun Ffred Jones. Byddwn yn disgwyl, ac yn wir, rwy’n galw am eglurder ynghylch y cyllid gwaelodol a’r modd y caiff ei weithredu…

Cyllid Llywodraeth Leol

A.Ff.J.  Mae’r toriadau i’r grant cefnogi’r dreth wedi creu argyfwng ymhlith cynghorau ledled Cymru. Mae Cyngor Gwynedd, er enghraifft, yn paratoi i dorri ei gyllideb o £50 miliwn y flwyddyn dros y blynyddoedd nesaf yma, ac mae’r rhan fwyaf o’r arbedion hynny’n dod o newid ffyrdd o weithio a bydd hynny’n cyfrannu at yr arbedion. Ond mi fydd yna doriadau o £7 miliwn, ac mae’r cyngor yn ymgynghori gyda’r cyhoedd ar hyn o bryd i weld pa fath o wasanaethau y mae’r cyhoedd yn fodlon gwneud hebddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cau’r holl ganolfannau hamdden a chau’r mwyafrif o’r llyfrgelloedd. Pa fath o doriadau i wasanaethau fyddai’n dderbyniol gennych chi, gan fod hyn yn anochel yn yr hinsawdd sydd ohoni?

Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus:  Nid wyf yn credu ei fod yn fater o ba fath o doriadau a fyddai’n dderbyniol i mi. Dyma benderfyniadau, yn amlwg, sy’n rhaid i Wynedd eu gwneud…

20 Hydref

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Undebau Credyd

A.Ff.J. Un o’r ffyrdd gorau i helpu pobl mewn dyled ydy eu harwain i ddefnyddio undebau credyd, wrth gwrs. Yn America, mi gewch chi gyfran uchel iawn o bobl yn prynu ceir drwy ddefnyddio undebau credyd. Ond araf iawn yw’r twf yn aelodaeth undebau credyd yng Nghymru. Oni ddylid cydlynu gwaith undebau credyd Cymru a chael ymgyrch genedlaethol i gynyddu’r aelodaeth yn sylweddol?

C.J. Mae hwn yn rhywbeth rŷm ni’n mynd i’w ystyried. Mae’n wir i ddweud nad yw aelodaeth undebau credyd mor uchel ag y mae mewn rhai rhannau eraill o’r byd…

 

Bil Amgylchedd Cymru

A.Ff.J. A gaf i ddiolch ar y dechrau i staff y pwyllgor, y Gwasanaeth Ymchwil ardderchog a’r clercod am eu cefnogaeth a’u harweiniad? Rwy’n gwerthfawrogi hefyd gyfraniad gwerthfawr y nifer mawr o dystion a ddaeth o’n blaenau ac a gynigiodd dystiolaeth ac, wrth gwrs, rwy’n diolch i’r cyd-Aelodau am eu cyfraniad hwythau. Felly, am y trydydd tro, a’r tro olaf, rwy’n cyflwyno adroddiad ar un o Filiau’r Cynulliad ac mae gennyf rai sylwadau, fel o’r blaen, i’w cyfleu i’r Gweinidog o ran sut mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael â’r ddeddfwriaeth hon. Ond rwyf am ddechrau ar nodyn cadarnhaol: fel pwyllgor, rydym ni’n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Mi af i drwy bob Rhan o’r Bil a thynnu sylw at ein hargymhellion allweddol, ond a gaf i ddweud fy mod i’n croesawu sylwadau’r Gweinidog yn fawr iawn? Er fy mod i’n gwybod yn iawn mai yn y manylion y byddwn ni’n gallu barnu i ba raddau y mae o’n derbyn sylwadau’r pwyllgor, roeddwn i wedi cael fy nghalonogi gan y sylwadau a wnaeth o wrth ymateb i’r adroddiad.

Felly, os caf i edrych ar Ran gyntaf y Bil, rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol—Rhan bwysig iawn—rydym ni’n cefnogi’n fras y fframwaith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol y mae Rhan 1 yn ceisio’i sefydlu, ond mae angen mireinio agweddau ar y dull trwy’r camau diwygio, os ydy’r fframwaith yma i fod yn effeithiol. Rydym ni hefyd yn croesawu’r camau i egluro pwrpas Cyfoeth Naturiol Cymru, gan fod diffyg eglurder—sydd wedi bodoli mewn perthynas â hyn—yn ein barn ni, wedi gwneud gwaith y corff yn fwy anodd yn ei flynyddoedd cynnar, ac mae wedi achosi rhai problemau i’w bartneriaid hefyd. Yn ein barn ni, y ffordd orau i gyflawni hyn yw cysylltu amcan rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy gyda nod llesiant ‘Cymru gydnerth’. Mae argymhelliad 6 gennym ni yn rhoi sylw i hyn. Rydym ni’n credu y gellir cryfhau’r agwedd yma’n sylweddol trwy ymgorffori rhestrau bioamrywiaeth y darperir ar eu cyfer yn adran 7 mewn ffordd well yng ngweddill Rhan 1 y Bil. Mae hyn yn cael sylw yn argymhelliad 15 gennym ni.

Wedyn, Rhan 2 y Bil—yr ail Ran—newid yn yr hinsawdd, rydym ni’n falch bod Cymru wedi ymuno â’r Alban a’r Deyrnas Unedig trwy ddeddfu ar ostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Er ei bod hi’n anarferol inni fel pwyllgor fod eisiau darparu pwerau i Weinidogion Cymru, o ran 2050 fel targed, rydym ni’n credu y dylid cael hyblygrwydd i amrywio’r targed hwn ac rydym ni’n gofyn yn argymhelliad 28 i’r Gweinidog gyflwyno gwelliant i’r perwyl yma. Credwn hefyd fod angen inni symud ymlaen i sefydlu cyllidebau carbon. Mae modd gwneud hynny cyn diwedd 2018, sef y dyddiad cau ar ei gyfer yn y Bil. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i amserlen fwy uchelgeisiol, a dyna rydym ni’n galw amdano yn argymhelliad 32.

Wedyn, symud ymlaen i Ran 3 y Bil, codi taliadau am fagiau siopa —mae Rhan 3 ac ymlaen, wrth gwrs, yn ymwneud â nifer o wahanol agweddau ar yr amgylchedd. Felly, codi taliadau am fagiau siopa—mae angen ystyried manylion y cynigion ar gyfer newidiadau i’r tâl am fagiau siopa trwy is-ddeddfwriaeth pan fyddan nhw’n cael eu gwneud. Ond, yn gyffredinol, nid ydym ni’n gweld unrhyw broblemau gydag ystyried ymestyn y cynllun codi tâl. Ond, credwn y dylai’r cynlluniau presennol gael eu gadael heb lawer o newidiadau ac, wrth ymestyn y cynllun, rydym ni wedi galw am gyfeirio’r enillion a ddaw yn sgil hyn at elusennau amgylcheddol sy’n gweithredu yn Nghymru—argymhelliad 41.

Rhan 4, wedyn, casglu a gwaredu gwastraff—y brif neges sydd gennym ni o ran y Rhan yma o’r Bil sy’n ymdrin â chasglu a chael gwared ar wastraff yw bod angen mwy o ymgysylltu â’r busnesau sy’n cael eu heffeithio gan y darpariaethau hyn. Mae rhywfaint o ansicrwydd ynghylch y darpariaethau, ac mewn rhai achosion, gallent gael effaith negyddol ar gyflogaeth. Dyna nod argymhellion 42 i 48.

 Rhan 5, pysgodfeydd ar gyfer pysgod cregyn—roedd y Gweinidog yn cyfeirio at hyn—unwaith eto, mae’r diwydiant sy’n cael ei effeithio gan y cynigion hyn angen eglurder a sicrwydd y Gweinidog ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddo unwaith y bydd deddfu ar y cynigion hyn. Rydym yn argymell bod y Gweinidog yn rhoi sylw i hwn drwy gyhoeddi canllawiau, fel y nodir yn argymhelliad 49.

 O ran trwyddedu morol, mae’n bwysig bod proses ymgynghori lawn yn cael ei chynnal cyn cyflwyno cyfundrefn trwyddedu morol newydd, ac rydym yn argymell rhai ffactorau y dylid eu hystyried fel rhan o’r broses yma yn argymhelliad 51. Rydym yn falch bod y Gweinidog wedi ymrwymo i sicrhau bod y ffioedd a godir o weithgarwch trwyddedu yn cael eu hail-fuddsoddi yn y gwasanaeth trwyddedu.

O ran materion mwy cyffredinol, buaswn yn gwneud tri phwynt. Mae’r cyntaf yn un cyffredinol am yr amrywiaeth o faterion sy’n cael eu trafod yn y Bil. Mae yna wyth Rhan benodol i’r Bil yma, ac nid ydynt yn perthyn i’w gilydd yn dda iawn. Buasai rhai Rhannau o’r Bil yma yn gallu ffurfio un Bil. Fodd bynnag, mae materion eraill sy’n cael sylw yn y Bil hwn yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau deddfwriaeth ar wahân. Rwy’n cyfeirio yn benodol at ddiwygio’r dull o reoli adnoddau naturiol a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Cyflwynwyd deddfwriaeth newid yn yr hinsawdd fel un Bil i Seneddau’r Alban a’r Deyrnas Unedig. Y broblem i ni, fel rhai sy’n delio gyda deddfwriaeth fel hyn, yw nad yw’r amser yn caniatáu inni gael digon o gyfle gyda rhanddeiliaid ac Aelodau’r Cynulliad i ymchwilio i bob un o’r materion hyn mewn digon o ddyfnder a manylder. Rwy’n credu bod hwn yn fater y dylai Llywodraethau’r dyfodol ei ystyried yn fanwl cyn cyflwyno deddfwriaeth.

Mae’r ail bwynt rwy’n dymuno ei wneud yn cyfeirio at eglurder y gyfraith yn y maes hwn. Pan roeddem yn ystyried y Gorchmynion sefydlu ar gyfer un corff amgylcheddol i Gymru, awgrymodd rhagflaenydd y Gweinidog yr angen i gyfuno cyfraith amgylcheddol yng Nghymru. Rydym yn credu bod hyn yn rhywbeth y dylai Llywodraeth nesaf Cymru ei ystyried, gan fod y gyfraith fel y mae'n berthnasol i Cyfoeth Naturiol Cymru ar ei ben ei hun yn dod yn fwyfwy cymhleth ac anodd ei ddehongli. Mae'n bwysig cadw mewn cof y dylem fod yn anelu at wneud cyfreithiau y gall pobl Cymru eu deall heb orfod troi at gyngor cyfreithiol arbenigol. Mae’r pwynt hwnnw wedi cael ei wneud gan eraill mewn cyd-destun arall y prynhawn yma.

Yn olaf, rwy’n troi at fater cydsyniad Gweinidogion y Goron. O’r wybodaeth a oedd gennym ni, roedd hi’n ymddangos fel pe bai’r Gweinidog wedi ceisio cydsyniad ffurfiol yr Ysgrifennydd Gwladol ym mis Awst. Heddiw, mae’r Gweinidog wedi dweud bod llythyr wedi mynd ar 1 Ebrill gan y Prif Weinidog, ond rhaid i mi ddweud nad yw’r wybodaeth honno wedi cael ei gyflwyno i’r pwyllgor, ac felly nid oeddem ni’n ymwybodol o hynny. Byddem ni’n ddiolchgar iawn, fel pwyllgor, petaem ni’n cael copi o’r llythyr hwnnw, achos ein barn ni yw y dylid ceisio’r cydsyniad hwn cyn cyflwyno Bil. Felly, mi wnaf i aros nes y cawn ni’n wybodaeth berthnasol.

 

P’run bynnag, rydym mewn sefyllfa nawr lle bydd yn rhaid diwygio’r Bil, mae’n debyg, os na cheir cydsyniad Gweinidogion y Goron. Yn amlwg, nid yw’r Gweinidog yn mynd i dynnu’r Bil yn ôl heddiw, fel roedd wedi bygwth ei wneud yn y pwyllgor, ond mi fydd angen cefnogaeth y gwrthbleidiau arno er mwyn iddo allu gwneud hynny. Oherwydd natur sylwadau’r Gweinidog, mae’n ymddangos i mi y byddwn ni’n gallu dod i ddealltwriaeth ac y bydd llawer iawn o’r pwyntiau sydd wedi cael eu codi gan y pwyllgor yn cael sylw gan y Gweinidog, ac y bydd y Bil yn cael ei gryfhau wrth inni fwrw ymlaen yn ystod y misoedd nesaf gyda’r broses. Diolch yn fawr.

21 Hydref

Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Edwina Hart

Canolfan Moelyci

A.Ff.J. Mae sefyllfa gyffredinol economi llawer ran o Gymru yn fregus iawn, iawn, ond mae yna ymdrechion lleol llwyddiannus a dychmygus. Un ohonyn nhw yw canolfan Moelyci ger Tregarth ym Methesda. Cafodd ei sefydlu fel menter gymunedol, gydag arian y Llywodraeth yma, a, dan reolaeth newydd, mae arwyddion gobeithiol iawn o ran y siop, yr ardd a’r ganolfan. Rwy’n eich gwahodd chi i ddod i gyfarfod â rhai o’r partneriaid sydd yn gwneud llwyddiant o’r fenter honno pan mae’n gyfleus i chi.

E.H. A gaf fi ddweud ei bod bob amser yn dda clywed am fentrau cymunedol llwyddiannus, oherwydd rwy’n credu bod yn rhaid i ni gynnwys pobl mewn ardaloedd i ymgymryd â phrosiectau fel hyn, a byddwn yn fwy na hapus i ymweld â hwy…