Adroddiad Misol Medi 2015

15/10/2015

Dechreuodd y mis gydag wythnos o wyliau yn beicio ar y Cyfandir. Wedyn cefais wythnos i weithio yn yr etholaeth cyn mynd yn ôl at y drefn gyfarwydd o deithio i Gaerdydd ar ddydd Llun ar gyfer gwaith y Cynulliad, ac yn ôl i Arfon, nos Iau fel arfer, i gyfarfod ag etholwyr ac ymwneud â materion yr etholaeth. 

PIGION DYDDIADUR Y MIS

Mercher 9 Medi

Cyfarfod busnesau Denis Ferranti ym Mangor ac ISC yn Llandygai

Cyfarfod yn Llandudno i drafod gwasanaeth iechyd Gogledd Cymru

Iau 10 Medi

Cyfarfod i drafod cynllun atal llifogydd Talybont

Cymhorthfa, Caernarfon

Gwener 11 Medi

Ymweld â fferm Cae Glas, Llanwnda efo Hywel Williams AS i drafod trafferthion y diwydiant llaeth, cyfarfod a drefnwyd gan yr NFU

Cymorthfeydd

Sadwrn 12 Medi

Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru

Noson lansio ymgyrch etholiadol Siân Gwenllian

Sul 13 Medi

Teithio i Gaerdydd

Llun 14 Medi

Cynnal cyfweliadau am swydd ymchwilydd i Grŵp Plaid Cymru - penodi Rhun Erddin Davies o Lanwnda

Mawrth 15 Medi

Cyfarfod briffio’r Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod Llawn

Dathliad 25 mlynedd Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

Mercher 16 Medi

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod Llawn

Lansio Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm

Iau 17 Medi

Pwyllgor Cyllid

Gwener 18 Medi

Agoriad Parc Solar Gelli Gyffwrdd

Cymhorthfa Bangor

Cymhorthfa Caernarfon

Sul 20 Medi

Sul y Maer, Caernarfon

Llun 21 Medi

Cyfarfod Cwmni’r Fran Wen, Porthaethwy

Mawrth 22 Medi

Cyfarfod Grŵp y Blaid

Cyfarfod Llawn

Lansio ymgyrch RCN Cymru am fwy o nyrsys

Pwyllgor Deisebau

Mercher 23 Medi

Pwyllgor Cyllid

Cyfarfod Llawn

Iau 24 Medi

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cyhoeddi adroddiad ar Ddatganoli gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Gwener 25 Medi

Cadeirio cyfarfod ar Ynni Hydro gyda grwpiau cymunedol yn Llanberis

Cymhorthfa, Caernarfon

Galw mewn ymgynghoriad ar Lonydd Seiclo Arfon

Sadwrn 26 Medi

Bore coffi Plaid Cymru Dyffryn Ogwen

Llun 28 Medi

Ymweld â chylchdro tafarn y Goat, Llanwnda lle mae pryderon am ddiogelwch llwybr beicio.

Taith fferm Undeb Amaethwyr Cymru yn y Parc, Bala.

Cyfarfod Cyfoeth Naturiol Cymru ym Mangor i drafod Llyn Padarn.

Mawrth 29 Medi

Cyfarfod Llawn

Grŵp trawsbleidiol Cyfathrebu Digidol.

Mercher 30 Medi

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Lansiad maniffesto Dyfodol i’r Iaith.


CWESTIYNAU AC AREITHIAU YN Y CYNULLIAD

15 Medi

Gweithlu’r Gwasanaethau Cyhoeddus

A.Ff.J.  Rydym ni ar yr ochr yma yn croesawu sefydlu Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus, gan obeithio y bydd yn cyflawni gobeithion y Gweinidog. Mae yna gwestiynau yn codi o hyn, wrth gwrs. Mae’r comisiwn yno i gynghori, ac rwy’n cymryd mai cynghori’r Gweinidog y mae’r comisiwn yn wneud. A fydd y cyngor yma yn cael ei gyhoeddi, a fydd yn gyhoeddus, a hynny’n gyson? Wedi’r cwbl, rydych chi wedi sôn am y comisiwn yn cydgysylltu â staff ar hyd a lled Cymru. Mi fyddwn i’n disgwyl felly y byddai trafodaethau, ac yn sicr ganlyniadau’r trafodaethau hynny, yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.

Rydych chi’n defnyddio’r dywediad yn y datganiad am yr angen am newid trawsffurfiannol yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a bod hynny’n gwbl angenrheidiol. A allech esbonio sut y bydd gwaith y comisiwn yn arwain at y newid sylfaenol yma? Roedd comisiwn Williams, er enghraifft, yn nodi un gwendid o fewn llywodraeth leol, sef diffyg arweinyddiaeth gref. Beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod y diffyg hwn yn cael sylw? A fydd yn rhan o waith y comisiwn?

O ran y cyflog byw a’r contractau ‘zero-hours’, wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi hyrwyddo a chefnogi cyflog byw ers y dechrau, ac rydym ni’n croesawu sylwadau’r Gweinidog. O ran gwireddu’r nod yma o fewn llywodraeth leol, sut mae’r Gweinidog yn disgwyl i gynghorau gyflawni hyn wrth wynebu’r toriadau llym sydd yn digwydd ar hyn o bryd? A ydy’r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw amcangyfrif, er enghraifft, o gost cyflwyno’r cyflog byw yma o fewn llywodraeth leol? Os nad ydy hi, a ydy’r gwaith yma yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd? Rwy’n dweud hyn fel un sydd, wrth gwrs, yn bleidiol iawn i weld gweithwyr yn cael cyflog teg, ond rwyf hefyd yn ymwybodol ei fod yn digwydd mewn cyd-destun sydd-. Mae Cyngor Gwynedd, er enghraifft, fel llawer o gynghorau eraill hefyd, yn wynebu gwneud arbedion a thoriadau o £30 miliwn yn ei gyllideb, ac mae wynebu’r math yna o ‘scale’ o doriadau tra hefyd yn chwilio am ffyrdd o wella amodau gwaith y gweithwyr yn amlwg yn fwy na her. Byddwn i’n awgrymu ei fod bron yn amhosibl. 

Yn olaf, mae cyfeiriad yma at weledigaeth y Llywodraeth Lafur o greu un gwasanaeth cyhoeddus Cymreig. Ond rwyf wedi clywed y weledigaeth yma yn cael ei datgan ers rhai blynyddoedd bellach, ac yn sicr, mae’n rhan o bolisi Plaid Cymru hefyd. Pa gynnydd sydd wedi bod yn y 12 mlynedd diwethaf yma ar gyflawni hyn? A oes amserlen gennych chi, Weinidog, ar gyfer gwireddu’r weledigaeth?

Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: A gaf i ddiolch i lefarydd Plaid Cymru am ei sylwadau a’i gefnogaeth gyffredinol i waith Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus? …

16 Medi

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Jane Hutt

Cyllid Arloesol

A.Ff.J.  A wnaiff y Gweinidog ddatgan faint o fuddsoddiadau mae hi a’r Llywodraeth wedi eu gwneud sydd i’w hariannu drwy gyllid arloesol?

J.H. Bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod ynghylch y swm penodol o gyllid o ran y gronfa arloesoi.

A.Ff.J. Wel, diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Yn anffodus, mae’n debyg na fyddwch chi’n gallu ateb yr ail gwestiwn chwaith.

Weinidog, mae’r ffaith eich bod o’r diwedd wedi denu cyllid ychwanegol- wel, rwy’n gobeithio eich bod wedi denu arian ychwanegol- o’r tu allan i’r grant bloc i’w groesawu, a dyma y bu Plaid Cymru yn ymgyrchu amdano ers amser hir. Nawr, nid mentrau cyllid preifat yw’r rhain, ond mae yna risgiau’n dal i fod wrth ddenu cyllid preifat o ran y cyfraddau ad-dalu a’r cyfnod ad-dalu, ac yn amlwg mae’n rhaid i’r arian hwnnw ddod o’r grant bloc. Yn flaenorol, fe ofynnodd y Pwyllgor Cyllid i chi ddarparu dadansoddiad o’r proffiliau ad-dalu ar gyfer y cynlluniau ariannu arloesol rydych yn gyfrifol amdanynt. Nawr te, roeddwn i’n mynd i ofyn i chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni heddiw ynglŷn â faint o gyllid refeniw y bydd y cynlluniau hyn yn ei gostio dros y blynyddoedd nesaf, ond mae’n debyg y byddwch yn gallu anfon nodyn ynglŷn â hynny.

J.H. Wel, rwy’n ymddiheuro, Alun Ffred Jones, ond rwy’n deall yn awr beth oedd diben eich cwestiwn cyntaf: roedd yn ymwneud â’r buddsoddiad a wnaethom yn y llwybrau cyllid arloesol rydym wedi’u dilyn…

Gwariant Llywodraeth y DU

A.Ff.J. Gan gyfeirio at y grant bloc, beth ydych chi a’r Llywodraeth Lafur yn ei wneud i sicrhau bod Cymru yn derbyn cyfran deg o unrhyw wariant ar gynllun yr HS2 yn Lloegr yn ystod tymor cyfredol y Senedd yn San Steffan?

J.H. Mae hwn yn fater rwyf wedi’i ddwyn i sylw Llywodraeth y DU…

Dadl Plaid Cymru: Buddsoddiad mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

A.Ff.J.  Wrth drafod gofal iechyd a gofal yn gyffredinol, mae yna ddwy thema yn codi dro ar ôl tro: faint o arian ychwanegol sydd ei angen i ddiwallu’r angen sy’n cynyddu yn ddiddiwedd, ac, yn ail, rydym yn naturiol yn canolbwyntio ar fethiannau- rhai o’r rheini, wrth gwrs, yn ddifrifol iawn - a gwendidau ac arafwch y gwasanaeth. Mi hoffwn i ailddatgan ar y dechrau fan hyn fod y rhan fwyaf o gleifion yn fy mhrofiad i yn derbyn gwasanaeth da, ac yn aml iawn mae’r gofal yn gallu bod yn ardderchog. Ond, mae’r strwythurau dan straen yn sicr ac mae prinder staff- staff nyrsio yn amlwg, a phrinder meddygon canolradd a rhai arbenigeddau- a diflaniad meddygon teulu o gefn gwlad ac o rai ardaloedd trefol hefyd, yn amlwg yn themâu cyson ac yn gwynion rŷm ni’n eu derbyn o hyd fel Aelodau. 

Felly, gan gyfeirio at y sefyllfa yn y gogledd i ddechrau, lle mae’r pryderon uchod i gyd yn ffeithiau real, a hefyd lle y bydd ailstrwythuro a chau ambell i ysbyty leol yn cyfrannu dim mewn gwirionedd i ateb yr angen yma i gynllunio’n iawn ar gyfer dyfodol gwell i’n gwasanaeth iechyd. Un cynllun uchelgeisiol mae Plaid Cymru yn ei hyrwyddo ydy sefydlu ysgol feddygol i ogledd Cymru fel rhan o ddatrysiad Cymru gyfan-ac rwy’n pwysleisio hynny. Ie, ysgol hyfforddi feddygol i’r gogledd, ond hefyd fel rhan o ddatrysiad Cymru gyfan. Fe allwn ni drafod union ffurf a strwythur ysgol feddygol o’r fath eto, ond mi fyddai buddsoddiad o’r fath yn gallu newid holl gyd-destun gofal iechyd yn y gogledd. Mi fyddai’n gallu denu arbenigwyr blaengar, a’r rheini yn rhannu amser rhwng hyfforddi, ymchwilio a gweithio o fewn y gwasanaeth. Ac mi fyddai hynny yn ei dro yn gwella ansawdd y gwasanaeth hwnnw, ac yn datblygu arbenigeddau penodol. Mi fyddai hefyd yn gyfle i fyfyrwyr lleol sydd, ar hyn o bryd, yn methu cael lle yng ngholegau Cymru i wneud o leiaf ran o’r hyfforddi yn y gogledd, heb sôn am ddenu myfyrwyr disglair hefyd i’r ardal, gan obeithio y byddai rhai o’r rheini yn eu tro, wrth gwrs, yn aros ymlaen.

Mae yna sgil-effeithiau cadarnhaol eraill, ac mae gwir angen newid delwedd gofal iechyd yn y gogledd. Hynny ydy, pwy mewn gwirionedd—pwy mewn difri—sydd yn mynd i ddod i weithio i ardal sy’n ymddangos fel pe bai mewn creisis parhaus o ran y gwasanaeth iechyd? Mae’r ddadl o blaid creu ysgol feddygol, rwy’n credu, yn un ddiateb. Hynny ydy, nid oes dewis arall ac mae’n gyfle euraidd i greu strwythur cynaliadwy yn y gogledd a chyfrannu at ddatrysiad Cymru gyfan. 

Yr agwedd arall rwyf eisiau cyfeirio’n fyr ati sydd angen ei datblygu i’r eithaf ydy telefeddygaeth. Mae hynny er budd ardaloedd gwledig ond hefyd ar gyfer trefi a phentrefi sydd ymhell o’r canolfannau arbenigol. Mae teithio ymhell yn boen ac yn dreth ar gleifion a’u teuluoedd. Cymaint yn well fyddai i gleifion fynd i ganolfan iechyd leol am brofion, a hefyd allu trafod y canlyniadau drwy gyswllt electronig gyda’r arbenigwyr. Mae swyddfa archwilydd yr Alban yn ddiweddar wedi nodi tri achos llwyddiannus o delefeddygaeth yn y wlad honno, ac mae’n werth cyfeirio at un ohonyn nhw, sef profion ar gyfer dioddefwyr strôc i weld a oes angen triniaeth thrombolysis-os rwy’n dweud y gair yn iawn. Oherwydd telefeddygaeth, mae pedwar bwrdd yn y gwasanaeth iechyd yn yr Alban yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn am y tro cyntaf, a hynny am 24 awr y dydd. Maen nhw’n osgoi trosglwyddo’r claf i’r pumed bwrdd, lle mae’r arbenigwyr wedi’i lleoli. Mae yna fanteision di-ri yn deilio o hyn-mae’r archwilydd yn nodi bod yna ostyngiad yn yr amseroedd aros a hefyd, wrth gwrs, gostyngiad yn amser teithio a chost i’r claf, ac mae’n galluogi’r gwasanaeth i flaenoriaethu gwasanaethau yn llawer iawn gwell. Enghraifft ydy honno yn unig, ac mae gwir angen datblygu’r arbenigedd yma o fewn yn ein gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.

22 Medi

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Bancio yng Nghymru

A.Ff.J. Ein profiad ni yn Arfon oedd bod banciau yn cael eu cau yn ystod tymor y Llywodraeth diwethaf ac nid oes ganddynt ddiddordeb bellach mewn cymdogaethau na threfi, gan fod banciau’r stryd fawr, i bob pwrpas, wedi diflannu o strydoedd ein pentrefi a’n trefi bach ni ar hyd a lled Cymru. Ond, mae hynny’n golygu bod mwy o bwysau arnom ni i gynyddu’r sector undebau credyd. Mae’r Llywodraeth yma yng Nghymru wedi bod yn ariannu ymgyrch i hyrwyddo’r undebau credyd yma, ond, bellach, mae’r gefnogaeth honno wedi dod i ben. A wnewch chi ein sicrhau ni y bydd y Llywodraeth yn ailafael mewn ymgyrch farchnata er lles cymunedau a theuluoedd ar hyd a lled Cymru, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig a’r rhai mwyaf difreintiedig?

C.J. Mae yna rôl bwysig i undebau credyd, wrth gwrs, yn yr ardaloedd dros Gymru lle maen nhw wedi colli banciau dros y blynyddoedd…

 Ymrwymiadau yn ystod y Flwyddyn 2015-16

A.Ff.J.  A gaf i longyfarch y Llywodraeth ar wario ei harian i gyd, ond am beidio â gorwario? A gaf i ymuno efo’i sylwadau ynglŷn â’r Canghellor a’i doriadau o fewn y flwyddyn ariannol, heblaw am ei doriadau eraill? Fel arall, rwy’n credu y byddai’n beth iawn i’r Gweinidog gyfaddef bod ymgeiswyr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn ystod yr ymgyrch ddiweddar yn cyfaddef na ddylai’r Llywodraeth Lafur fod wedi bod mewn diffyg yn ei chyllideb ar ddiwedd ei chyfnod mewn Llywodraeth, ac y b

Ta waeth, gan edrych ar y datganiad heddiw, rydych yn cyfeirio at bron i £59 miliwn yn cael ei roi i’r gwasanaeth iechyd ac i wasanaethau cymdeithasol. Mae hwn yn batrwm blynyddol, wrth gwrs, o weld arian ychwanegol yn cael ei roi i’r gwasanaethau hyn. Rwy’n sicr ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i groesawu. Rydych yn cyfeirio at  ‘a number of initiatives within the service’.

A fyddech yn gallu rhoi manylion inni heddiw neu ar bapur yn ddiweddarach am beth yw’r ‘initiatives’ yma a sut yn union y bydd hyn yn arwain at wella perfformiad, sef yr hyn sydd ar ddiwedd y frawddeg honno? Rwy’n credu bod llawer iawn ohonom erbyn hyn yn ddrwgdybus mai llenwi tyllau yn y gyllideb ydy’r math yma o symudiad gan y Llywodraeth. Yr hyn rym ni eisiau ei weld ydy sut yn union mae hwn yn mynd i arwain at wella perfformiad.

 I symud ymlaen at yr arian cyfalaf, rwy’n credu’n fawr fod y buddsoddiad ychwanegol y mae’r Llywodraeth wedi gwneud yn cydnabod pwysigrwydd gwariant cyfalaf—yr hyn ddaru ni ei ddweud ar ddechrau tymor y Llywodraeth. Erbyn hyn, rydych wedi mabwysiadu cynllun Adeiladu dros Gymru Plaid Cymru yn ei grynswth, heblaw’r enw, wrth gwrs.

Rwyf eisiau gofyn cwestiwn ynglŷn â’r arian ychwanegol rydych wedi’i gael ar gyfer y gyllideb gyfalaf. Roedd hi’n ddiddorol iawn clywed y Prif Weinidog yn cyfaddef, wrth sôn am yr £1 biliwn ychwanegol sy’n mynd i gael ei wario ar yr M4, nad oedd gan Lywodraeth Cymru ddim rheolaeth o gwbl ar hyn, ac mewn gwirionedd blaenoriaeth y Llywodraeth yn Llundain sydd wedi arwain at y penderfyniad yma. Byddwn yn hoffi eich sylwadau ar hynny gan ei fod yn allweddol bwysig. Mae’r arian anferth yma ar gael, neu fe ddylai fod ar gael, inni wario yn ôl ein blaenoriaethau ni yma yng Nghymru.

Rydych yn cyfeirio yn eich datganiad at doriad o £7 miliwn yn y gyllideb gyfalaf eleni, ond yna’n dweud eich bod yn mynd i ddynodi £46 miliwn yn ychwanegol. A allwch chi esbonio o ble mae’r £46 miliwn yna’n dod? Ai o ariannu arloesol—yr ‘innovative financing’ yma—neu a yw’n dod o ryw ran arall o’r gyllideb?

Mae’r cynlluniau rydych yn cyfeirio atynt yn rhai i’w croesawu’n fawr iawn. Rwy’n falch o weld y bydd y ffordd yn Llangefni a hefyd y ganolfan hyfforddi sy’n gysylltiedig ag Airbus—mae hynny i’w groesawu’n fawr iawn. Mae gennyf un cwestiwn bach yngl?n â’r arian sydd yn cael ei glustnodi ar gyfer Maes Awyr Caerdydd: ai cymhorthdal fydd hwn i ddenu cwmnïau awyrennau i Gaerdydd, ynteu rhyw fath o ddefnydd arall fydd yn cael ei wneud o’r benthyciad yma?

Jane Hutt: Rwy’n mynd i ddefnyddio’r sylw hwnnw eto: 'gwario'r holl arian a pheidio â gorwario'. Dyna sut Weinidog cyllid yr hoffwn fod…

 

23 Medi

Dadl Plaid Cymru: Y Cyfryngau

A.Ff.J.  Roedd agwedd y Llywodraeth glymblaid ddiwethaf tuag at S4C yn dangos diffyg dealltwriaeth ohoni ac yn sarhaus o’r iaith Gymraeg a’i sefyllfa fregus. Mae’n amlwg, bellach, fod y Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain am danseilio a chrebachu’r BBC ei hun, ac wrth i hynny ddigwydd, mi fydd S4C ei hun, bellach, yn cael ei thanseilio a’i gwanio. Mae’n amlwg imi nad yw S4C yn ddiogel yn nwylo’r Torïaid. Mi glywch chi ddigon o eiriau teg, ac mi glywn ni rai'r prynhawn yma, yn ddiau, ond mae eu gweithredoedd yn eu bradychu nhw. Mae’n debyg na fydd canlyniad yr arolwg o siarter y BBC yn cael ei gyhoeddi tan hydref 2016, ond eisoes mae DCMS, sy’n dal i ariannu S4C yn rhannol, yn chwilio am doriadau o 40 y cant yng nghyllidebau’r cyrff y mae’n eu hariannu. Mae’n ymddangos bod y Torïaid, felly, yn gwybod pris pob peth ond gwerth fawr o ddim byd.

Fe alwodd y comisiwn Silk ar i’r elfen hon o gyllideb S4C gael ei datganoli i Gymru, ac rydym ni ym Mhlaid Cymru’n credu y dylai’r elfen o’r gyllideb sy’n dal i orwedd yn DCMS gael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru. Wrth i hynny ddigwydd, mae Plaid Cymru am sicrhau annibyniaeth olygyddol S4C; mae’n rhaid i bobl Cymru gael llais wrth lunio dyfodol, strwythur a chyllido S4C, wrth edych ymlaen yn y blynyddoedd nesaf hyn, lle mi fydd yna newidiadau yn nhirwedd darlledu yng Nghymru ac, mae’n debyg, trwy wledydd Prydain yn gyfan gwbl.

Nid oes dim dwywaith bod Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad ei hun â llawer gwell dealltwriaeth o, a mwy o gydymdeimlad â, rôl S4C fel darlledwr Cymraeg. Mae digon o dystiolaeth wedi ei chasglu fod cefnogaeth gyffredinol i wasanaeth S4C ymhlith siaradwyr Cymraeg a rhai di-Gymraeg fel ei gilydd. Mae llanw a thrai, wrth gwrs, yn rhan annatod o fywyd sianelau teledu, a radio hefyd, ond mae pwysigrwydd S4C yng nghyd-destun yr iaith a defnydd yr iaith yn gwbl allweddol.

Rwy’n credu ein bod ni i gyd sydd yn byw mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio’n weddol gyson yn sylweddoli bod sefyllfa’r Gymraeg fel iaith lafar ac fel iaith gymunedol yn dal yn fregus iawn, iawn er gwaethaf y twf cryf ym maes addysg cyfrwng Cymraeg. Mae unrhyw iaith lai ei defnydd angen arwyddion allanol o’i gwerth a’i statws, neu mae pobl ifanc a theuluoedd ifanc yn troi eu cefnau arni. Dyna sydd wedi digwydd yn hanes y Gymraeg yng Nghymru a dyna sy’n digwydd i ieithoedd lleiafrifol ar hyd a lled y byd. Mae o’n batrwm cyffredin a dyna pam mae angen y sefydliadau hynny, a’r arwyddion allanol hynny, i ddod â statws a gwerth i’ch iaith frodorol chi.

Mae pob diwylliant hefyd angen cyfleon i weld adlewyrchiad ohono’i hun, boed hynny mewn llenyddiaeth o bob math, newyddion, drama a’r celfyddydau oll, heb sôn am lefydd gwaith lle caiff yr iaith ei defnyddio a’i pharchu. Mae S4C, wrth gwrs, yn cyflawni hyn i gyd, nid yn llwyddiannus bob tro, wrth gwrs, ond mae’n llwyfan cyhoeddus i’r diwylliant Cymraeg ac yn fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf hyn hefyd yn ymestyn allan i gymunedau di-Gymraeg. Rwy’n credu bod hynny wedi bod yn agwedd gadarnhaol iawn, iawn o ran gwaith S4C. Ond, yn ei hanfod, mae o’n wasanaeth Cymraeg ei iaith ac yn rhoi llwyfan i agweddau amryfal y diwylliant Cymraeg. Dyna pam ei bod yn hollbwysig fod y Cynulliad hwn a’r Llywodraeth hon yng Nghymru yn cefnogi S4C i’r carn, ac yn dod â hi, mewn amser byr, gobeithio, dan ofal pobl Cymru er mwyn sicrhau ei dyfodol a hefyd cadarnhau’r Gymraeg wrth i hynny ddigwydd.

29 Medi

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Toriadau ariannol

Buaswn i’n cytuno efo chi ac yn ymuno â chi yn y condemniad o’r toriadau sydd yn dod lawr o Lundain, wrth gwrs, er ein bod ni’n gwybod bod cynlluniau Alistair Darling hefyd yn golygu y bydd yna doriadau sylweddol yn y gyllideb sydd yn dod lawr o Lundain. Ond, tra ein bod ni’n beio ein gilydd, a’r Torïaid yma’n eich beio chi, y ffaith amdani ydy bod llywodraeth leol yn wynebu efallai un o’r argyfyngau mwyaf ers degawdau. Y gwirionedd yng Ngwynedd ydy bod yna gyfarfod heddiw yn y Felinheli, lle mae’r cyngor yn ymgynghori â’r cyhoedd ar doriadau o £12 miliwn-toriadau i wasanaethau uniongyrchol. Nawr, rych chi’n wynebu hyn efo pob cyngor yng Nghymru, a dweud y gwir, felly y cwestiwn yw, ac mae’n rhaid eich bod chi wedi wynebu hyn eich hunain: pa wasanaethau y mae’r Llywodraeth yn teimlo y gellir arbed arnyn nhw neu y gellir cael gwared ohonyn nhw ym myd llywodraeth leol, er mwyn iddyn nhw allu byw o fewn yr arian sydd yn dod iddyn nhw?

C.J. Wel, mater yw hwn, wrth gwrs, i awdurdodau lleol. Bydd awdurdodau lleol yn ystyried yn gyntaf gwasanaethau statudol; rwy’n deall hynny…

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Jane Hutt

Llifogydd yr A55 / Defnydd y Llywodraeth o’r Gymraeg

A.Ff.J. Byddwn yn dymuno cael dau ddatganiad. Yn gyntaf, ym mis Tachwedd 2012, fe gaewyd yr A55 rhwng Bangor ac Aber gan lifogydd am bum awr ac fe ddifrodwyd eiddo. Fe ddywedodd y Gweinidog trafnidiaeth ar y pryd, ac rwy’n dyfynnu, ‘bydd hyn ddim yn digwydd eto.’ Dair blynedd yn ddiweddarach, er bod cynllun lliniaru wedi’i gytuno, nid oes addewid i ariannu’r cynllun ac i ddiogelu’r ffordd hollbwysig hon. A gawn ni ddatganiad i ddweud y bydd y Llywodraeth yn cadw at ei gair yn fuan?

Yn ail, mi hoffwn ddatganiad ar bolisi’r Llywodraeth ynglŷn â defnyddio’r Gymraeg wrth ymgynghori â’r cyhoedd. Mae’r Llywodraeth yn ymgynghori ar hyn o bryd ynglŷn â safleoedd i’r gymuned deithiol yng Nghymru. Mae cyngor fel Cyngor Gwynedd yn gweithredu gwefan drwyadl ddwyieithog, ac mae cynnwys deunydd uniaith Saesneg yn mynd yn groes i’w bolisi, ac yn groes, byddwn yn dadlau, i ysbryd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ond mae’r deunydd yn uniaith Saesneg. A gawn ddatganiad buan os gwelwch yn dda ar bolisi’r Llywodraeth ar y defnydd o’r Gymraeg wrth ymgynghori â’r cyhoedd?

J.H. … bydd y Gweinidog Adnoddau Naturiol yn ysgrifennu atoch am y cynllun lliniaru llifogydd, a hefyd, yn amlwg, byddwn eisiau sicrhau fod safonau’n cael eu cwrdd o ran y Gymraeg ar gyfer yr ymgynghoriad sy’n parhau ynglŷn â’r gymuned deithiol.

30 Medi

Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford

A.Ff.J. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllunio ar gyfer gweithlu'r dyfodol o fewn y gwasanaeth iechyd? 

M.D. Bydd gweithlu a fydd yn gallu cynnal y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol yn gwneud mwy na dim ond dilyn patrwm gweithlu y gorffennol. Bydd y cylch nesaf o gynlluniau tymor canolog integredig yn rhoi ffocws penodol ar gynllunio’r gweithlu, wrth i ni ddatblygu strategaeth 10-mlynedd ar gyfer y gweithlu yng Nghymru.

A.Ff.J. Diolch yn fawr am yr ateb, ac edrychwn ymlaen i weld canlyniad y trafodaethau yma. A gaf eich cyfeirio chi at faes nyrsio y rhai sydd ag anableddau dysgu’n benodol? Roedd yna adroddiad yn 2012, ‘Cryfhau’r ymrwymiad’, a oedd yn cydnabod bod nyrsys arbenigol yn cael, ac rwy’n dyfynnu,‘dylanwad mawr ar iechyd pobl sydd ag anableddau dysgu’.

Ond, mi roedd prinder nyrsys yn y maes yn amlygu’i hun. Mi fu yna adroddiad pellach wedyn—diweddariad ar hynny—yn 2015 yn tanlinellu yr un pwynt. Mae hanner y nyrsys yn y maes yma dros eu 50 oed, felly pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i sicrhau cyflenwad digonol o nyrsys ym maes anableddau dysgu i’r dyfodol?

M.D Bob blwyddyn, rŷm ni’n cytuno cynlluniau gyda’r byrddau iechyd a gyda’r bobl eraill sy’n sefyll ar y bwrdd sydd yn cynllunio’r gweithlu…

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau—Atal Recriwtio i'r Fyddin mewn Ysgolion

A.Ff.J. Diolch yn fawr am y cyfle i gyfrannu. Diolch hefyd am yr adroddiad gwerthfawr. Yn sicr, mae’r adroddiad yma yn profi gwerth y drefn ddeisebau, felly rwy’n ddiolchgar iawn am yr adroddiad a’r cyfle i gyfrannu.

Rwy’n cynrychioli ardal lle mae yna draddodiad cryf o ymuno â’r lluoedd arfog, yn enwedig y fyddin. Mae yna draddodiad cryf o fewn teuluoedd o ymuno, ac mae ardal Caernarfon yn un o’r rhai gyda’r canran uchaf sy’n ymuno â’r lluoedd arfog yn holl wledydd Prydain. Mi ddylwn i nodi hefyd bod nifer o’r bobl ifanc yr ydw i’n gyfarwydd â nhw yn lleol hefyd wedi ymuno dros y blynyddoedd-rhai yn dal yn y gwasanaeth ac eraill wedi dod allan. Mae amryw wedi derbyn hyfforddiant buddiol yn ystod y blynyddoedd hynny, er bod yr hyfforddiant hwnnw mewn maes fel peirianneg, ac yn y blaen, wedi mynd â nhw i ganol rhyfeloedd fel Afghanistan, sydd, yn sicr, wedi gadael ei ôl arnyn nhw. A gaf i hefyd, wrth fynd heibio, gydnabod yr hyn yr oedd Jeff Cuthbert yn ei ddweud am golegau Grŵp NCPT? Mae yna un ohonyn nhw ym Mangor, ac rwy’n cydnabod bod yna waith ardderchog yn cael ei wneud gyda phobl ifanc yn y rheini, er nad ydyn nhw ddim yn ffurfiol gysylltiedig â’r lluoedd arfog.

Ar ôl dweud hynny am y bobl ifanc sydd wedi ymuno, mae’n rhaid imi ddweud hefyd fy mod i, fel llawer iawn ohonoch chi, mae’n siŵr, fel Aelod Cynulliad, wedi dod ar draws niferoedd o gyn-aelodau lluoedd arfog sy’n dioddef canlyniadau—o ran iechyd ac ymddygiad—rhai o’r profiadau y maen nhw wedi’u cael wrth wasanaethu eu gwlad. Mae digwyddiadau Deepcut yn codi cwestiynau difrifol ynglŷn ag hyfforddiant ac agweddau o fewn y lluoedd arfog. Felly, mae yna fwy nag un wedd i’r mater yma, oherwydd bod natur y gwaith y mae’r lluoedd arfog yn gorfod ymwneud ag ef, yn y pen draw, yn gosod straen arbennig ac yn sicr yn gallu dylanwadu ar ymddygiad ac iechyd yr aelodau.

Mae’n ffaith bod y lluoedd arfog, a’r fyddin yn benodol, yn recriwtio canran uwch o bobl ifanc o ardaloedd difreintiedig neu gymharol ddifreintiedig. Mae’r fyddin hefyd yn trefnu gweithgareddau a digwyddiadau yn yr ardaloedd yma yn gwbl fwriadol. Y rheswm am hyn, wrth gwrs, yw bod llai o gyfleon gwaith a hyfforddiant yn y cylchoedd yma, felly mae’r lluoedd arfog yn ddewis sydd ag apêl arbennig. Nid wyf yn beio’r lluoedd arfog am hynny—ffaith ydy hynny—ond ni allwn wadu bod yna gysylltiad eithaf clos rhwng natur y cymunedau tlotaf, neu gymharol dlawd, a’r ffaith eu bod nhw’n cyfrannu canran uwch o bobl i’r fyddin ac i’r lluoedd arfog yn gyffredinol.

Mae un o fy etholwyr wedi tynnu sylw at ddulliau recriwtio rwy’n credu sy’n annerbyniol; er enghraifft, gosod baneri mawr lliwgar ger y ganolfan waith. Rŵan, nid ydym yn gwneud hynny, hyd y gwn i, gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill—efallai y dylen ni wneud hynny o ran y gwasanaeth iechyd neu lywodraeth leol—ond yn sicr, rwy’n credu y dylai’r lluoedd arfog fod yn recriwtio ac yn rhoi gwybodaeth yn yr un ffordd ag y mae unrhyw faes arall yn gwneud.

Rwy’n credu bod angen cae gwastad, os liciwch chi, o ran y rheolau sy’n ymwneud â recriwtio a rhoi gwybodaeth. Dyna pam mae’n bwysig iawn, iawn ein bod ni’n sicrhau bod pobl ifanc yn cael gwybodaeth lawn a chytbwys wrth iddyn nhw wynebu dewisiadau ynglŷn â sut maen nhw’n mynd i dderbyn hyfforddiant neu addysg at y dyfodol. Rwy’n sicr, yn fy meddwl fy hun, na ddylai pobl ifanc fod yn ymuno â’r lluoedd arfog yn 16 oed, gyda neu heb ganiatâd eu rhieni. Rwy’n credu ei fod yn rhy ifanc i wneud y math yna o benderfyniad, o ystyried yr hyn a all fod o’u blaenau nhw. Ond, wrth fynd i ysgolion, mi ddylai’r lluoedd arfog fod yn cyflwyno’r cyfleon-ac maen nhw’n gyfleon dilys; rwy’n derbyn hynny-mewn ffordd gytbwys, ac ar yr un tir â chyflogwyr a hyfforddwyr eraill. Felly, mae yna le i ni warchod pobl ifanc, ac mae’r ddeiseb hon wedi codi pryderon dilys. Rwy’n credu bod yr adroddiad ei hun yn un cytbwys a gwerthfawr iawn.