Adroddiad Misol - Mehefin 2015

14/07/2015

Aelod Cynulliad Arfon

ALUN FFRED JONES AC

Mehefin 2015

Pigion Dyddiadur Mehefin

Llun, 1 Mehefin

Ymweld ag Ysgol Rhiwlas efo’r Cynghorydd Hefin Williams

Golwg ar Stryd Becws, Rhiwlas

Mawrth, 2 Mehefin

Cyfarfod David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgueddfa Genedlaethol

Cyfarfod Llawn y Cynulliad

Mercher, 3 Mehefin

Teithio i Frwsel gydag aelodau’r Pwyllgor Amgylcheddol

Iau, 4 Mehefin

Cyfarfodydd gyda chyfarwyddwyr Banc Datblygu Ewrop ac Adran ac Adran Amaeth y Gymuned Ewropeaidd

Gwener, 5 Mehefin

Cymhorthfa, Caernarfon

Sadwrn, 6 Mehefin

Carnifal Bangor

Llun, 8 Mehefin

Cyfarfod Cadfan Roberts

Cyfweliad efo Dylan Iorwerth i Radio Cymru

Cymhorthfa

Mawrth, 9 Mehefin

Seminar ‘Gwastraff a’r Economi’

Cyfarfod Llawn

Darlith Dafydd Wigley ar ‘Cymru a’r Dyfodol’

Mercher, 10 Mehefin

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Sesiwn Lawn

Iau, 11 Mehefin

Cymhorthfa

Gwener, 12 Mehefin

Cyfarfod Richard Foxhall o gwmni Horizon

Cyfarfod Dilwyn Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd

Sadwrn, 13 Mehefin

Diwrnod Gŵyl Rhostryfan

Sioe Dyffryn Ogwen

Llun, 15 Mehefin

Cyfarfod y Cynghorydd Dafydd Meurig

Mawrth, 16 Mehefin

Cyfarfod Llawn

Mercher, 17 Mehefin

Pwyllgor Cyllid

Cyfarfod swyddogion y Gymdeithas Filfeddygol, BVA

Iau, 18 Mehefin

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod Cangen Dyffryn Nantlle

Gwener, 19 Mehefin

Ymweld â Sefydliad Ymchwil Canser Prifysgol Bangor

Cyfarfod Dr Atenstaedt, pennaeth German Industries UK

Cyfarfod Grŵp Datblygu’r Fron

Sadwrn, 20 Mehefin

Cyngor Cenedlaethol, Aberystwyth

Ymweld â Neuadd Pantycelyn

Llun, 22 Mehefin

Cyfarfod Angharad Tomos a Ben Gregory i drafod Llyfrgell Penygroes

 Ffilmio ar gyfer rhaglen Timau Achub Mynydd

Cymhorthfa

Mawrth, 23 Mehefin

Cyfarfod Neil Anderson o Capital Traffic i drafod polisi trafnidiaeth

Cyfarfod Llawn

Mercher, 24 Mehefin

Cyfarfod Jane Hutt i drafod Bil Cyllid Cymru

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod Llawn

Noddi darlith gan Wynford Ellis Owen

Iau, 25 Mehefin

Cyfarfod Blynyddol Codi’r To

Arddangosfa Ffordd Osgoi Caernarfon-Bontnewydd

Gwener, 26 Mehefin

Cymhorthfa, Caernarfon

Cymhorthfa, Tregarth

Mawrth, 30 Mehefin

Cyfarfod Siân Gwenllïan yn y Cynulliad

Derbyniad haf Diwydiant Twristiaeth Cymru

Swper efo golygydd y Daily Post

 

 Cwestiynau ac Areithiau yn y Cynulliad

2 Mehefin

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt

Newid enw CyMAL

A.Ff.J. Mewn datganiad a ddaeth allan dydd Gwener, cyhoeddodd y Llywodraeth eu bod nhw wedi penderfynu newid enw CyMAL, sy’n gofalu am amgueddfeydd, llyfrgelloedd a’r gwasanaeth archifau, i deitl newydd sydd yn cymryd tipyn mwy o amser i’w ddweud. Mae’r uned hon wedi profi llwyddiant dros y blynyddoedd ac mae yna gryn eiddigedd ohoni mewn rhannau eraill o Brydain. A gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog yn esbonio beth yw pwrpas hyn, y rheswm dros y newid a’r gost o wneud y newid?

J.H. Wel, wrth gwrs, gwnaeth y Gweinidog y newid hwnnw a gwnaeth ddatganiad, yn seiliedig ar yr angen i sicrhau bod y gwasanaeth a swyddogaeth CyMAL gynt a'r cyfleoedd newydd a gwell sy'n dod o'r gwasanaethau hynny, yn cael eu disgrifio’n eglur.

Datganiad: Y Diweddaraf am y Gronfa Buddsoddi i Arbed

A.Ff.J. Diolch am y datganiad. Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn gobeithio bod canlyniadau deilliannau’r buddsoddiadau yma yn mynd i fod o fudd mawr i’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rydych chi wedi gwneud datganiad bod yr arian yma un ai wedi cael ei dalu’n ôl, neu yn cael ei dalu’n ôl gan bob un o’r cynlluniau. Y cwestiwn sydd gen i ydy: pa fonitro sy’n digwydd i asesu gwerth y cynlluniau ac a ydyn nhw’n cyflawni eu hamcanion? Rŵan ’te, rwy’n gwybod eich bod chi wedi rhoi ateb hirfaith i Nick Ramsay, ond a oes yna asesiad manwl o arbedion effeithlonrwydd a gwelliant mewn gwasanaeth yn cael ei wneud, ac a ydy hwnnw bellach yn rhan o’r rhaglen fonitro?

A gaf i ofyn un cwestiwn penodol ar un o’r cynlluniau yma, sef buddsoddiad sylweddol iawn o tua £13 miliwn, sy’n llawer iawn mwy na’r cynlluniau eraill, i gydgrynhoad band eang sector cyhoeddus Cymru gyfan? Rŵan, rwy’n cymryd bod hwn yn broject sydd yn cynnwys y Llywodraeth ei hun, wrth gwrs. Felly, beth ydy’r trefniadau o ran talu nôl y swm yma, a beth ydy’r deilliannau? A gawn ni ragor o fanylion—nid heddiw, o bosib, ond ar ffurf ysgrifenedig—am y cynllun hwnnw?

 

Yn drydydd, pryd fyddwch chi yn cyhoeddi manylion y cynlluniau sydd wedi aeddfedu? Hynny ydy, mae’r arian wedi’i dalu nôl ac mae’r canlyniadau a’r deilliannau’n wybyddus, felly a fyddwch chi’n gwneud rhestr o’r rheini ac yn dangos yn fanwl beth ydy’r deilliannau a’r gwellhad sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r buddsoddiad? Rydych chi wedi sôn yn gyffredinol fod hyn yn rhan o’r ffordd rydych chi’n asesu’r cynlluniau, ond a fyddwch chi’n cyhoeddi hynny fel y gallwn ni gael teimlad o werth y cynlluniau a pha rai sydd wedi profi’n fwyaf llwyddiannus, ac, fel roeddech chi’n ei ddweud, er mwyn wedyn sicrhau bod rhannau eraill o wasanaethau cyhoeddus Cymru sydd mewn sefyllfa i elwa o’r cynlluniau yma yn gallu manteisio arnyn nhw? 

J.H. Diolch yn fawr. Diolch yn fawr, Alun Ffred Jones. Wrth gwrs, fel y dywedwch, mae'r canlyniadau’n allweddol…

Datganiad: Adroddiad o Gynnydd Cronfeydd Strwythurol yr UE 2014-20

A.Ff.J. Diolch yn fawr am gael cyfrannu at y datganiad yma. Prif bwrpas y cronfeydd strwythurol, wrth gwrs, ydy codi lefel GDP a GVA yn yr ardaloedd sy’n derbyn y cymorth yna, ac rwy’n derbyn y pwyntiau roedd Alun Davies yn eu gwneud ynglŷn â dileu tlodi hefyd. Yn anffodus, er gwaethaf y gwariant a’r canmol ar y rhaglenni, nid yw’r deilliannau disgwyliedig hynny wedi digwydd yma yng Nghymru. Mae lefel cymharol GDP y pen yn ardal gorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi aros yn gyson isel, ac mae’r ardaloedd hynny lle mae tlodi a difreintedd hefyd wedi aros heb symud rhyw lawer. Y cwestiwn, felly, ydy: pam fod hynny wedi digwydd er gwaethaf y buddsoddiad eithaf sylweddol sydd wedi digwydd dros y ddegawd ddiwethaf yma?

 Roeddech chi’n cyfeirio yn eich datganiad bod angen inni fod yn fwy ‘focused’—‘not business as usual’ oedd eich disgrifiad chi. Felly, sut mae’r Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod yr arian nesaf yma yn mynd i roi hwb gwirioneddol i gyflogaeth a chyfoeth yng Nghymru, ac i newid y sefyllfa, sydd wedi profi yn anodd iawn i’w gyflawni hyd yn hyn? Ac nid wyf yn glir o’r datganiad beth ydy’r blaenoriaethau hynny, na’r strategaeth i’w cyflawni.

 Mae adroddiad Guilford yn dweud yn glir bod angen cael arweiniad clir, ac mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn awgrymu efallai nad WEFO ydy’r llwybr gorau i’w ddilyn er mwyn gosod y cyfeiriad yma. Rydych wedi cyfeirio at y sector preifat. Ein barn ni ym Mhlaid Cymru ydy y dylid sefydlu corff dan arweiniad y sector preifat i weithio ochr yn ochr â’r Llywodraeth. A ydych chi wedi ystyried hyn, ac os ydych chi wedi ei wrthod o, a allwch chi esbonio pam eich bod chi wedi gwneud hynny?

Ac yn olaf, yr unig gyfeiriad yn y datganiad at unrhyw gynlluniau penodol ydy hwnnw i’r metro fel cynllun y bydd disgwyl i’r cronfeydd strwythurol gyfrannu atyn nhw. Rŵan, rydym eisoes yn sôn am wario £1 biliwn o hawl benthyca'r Llywodraeth ar gynllun yr M4. A oes gennych chi ryw syniad faint o gyfraniad y byddwch chi’n disgwyl i’r cronfeydd strwythurol ei wneud i’r metro, gan gofio bod yna ardaloedd eraill yng Nghymru hefyd yn disgwyl hwb o’r fath? Oes yna gynlluniau eraill ar y gweill, fel y metro, y gallwch chi gyfeirio atyn nhw mewn rhannau eraill o Gymru a fydd yn derbyn arian dan y rownd nesaf o gronfeydd strwythurol?

J.H. Diolch yn fawr, Alun Ffred Jones. Rwyf yn gobeithio bod fy natganiad ac, yn wir, fy atebion i gwestiynau wedi dangos fy ymrwymiad penodol i ymgysylltu â'r sector preifat yn y cylch newydd hwn o gronfeydd strwythurol, gan gydnabod hefyd, o ran eich pwyntiau ynghylch pa fath o newid yr ydym yn mynd i’w weld…

9 Mehefin

Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

A.Ff.J. Mae gen i dri chwestiwn, ond, er mwyn gosod cyd-destun, mae’n werth dyfynnu llythyr sydd newydd ddod drwyddo o’m swyddfa gan etholwr o Lôn Meirion ym Mangor. Mae’r frawddeg gyntaf yn dweud: 

‘I wish you to know that my wife and I have received excellent treatment by various branches of the Betsi Cadwaladr health board’

 ac mae’n mynd ymlaen i restru. Mae hynny dim ond i ni osod y cyd-destun. 

Tri chwestiwn: neithiwr ar y radio, roedd y Dirprwy Weinidog yn awgrymu mai rhesymau a phwysau gwleidyddol sydd wedi arwain at y penderfyniad hwn ar eich rhan chi, ac mae’n ymddangos yn rhyfedd eich bod chi’n ymyrryd rŵan. Felly, a gaf i ofyn i chi: ai ymyrraeth wleidyddol ydy hon, neu a oes rhesymau gwleidyddol dros yr ymyrraeth neu resymau mwy clinigol? 

Yr ail gwestiwn ydy: rydych chi wedi nodi’r meysydd y mae gennych chi gonsýrn amdanyn nhw, ac rydych chi wedi enwi a rhestru pobl sy’n mynd i helpu, ond nid wyf yn glir o hyd beth yn union mae’r bobl yma’n mynd i’w wneud. A ydyn nhw’n mynd i fyny i gael sgwrs efo’r bwrdd, neu a ydyn nhw’n mynd i gymryd drosodd peth o’r cyfrifoldebau dros strategaeth a pholisi ac yn y blaen? Mae’n ddyrys iawn i mi ar hyn o bryd, neu’n dywyll iawn i mi, beth yn union sy’n mynd i ddigwydd; buasai ychydig bach o oleuni’n help.

 Yn olaf, ynglŷn â’r penderfyniad yma i atal y prif weithredwr o’i waith, mae hwn yn fwrdd sydd â chadeirydd lled newydd, wedi’i benodi gan Lywodraeth Cymru yn gymharol ddiweddar. Mae’r prif weithredwr, a oedd yn brif weithredwr bwrdd iechyd arall cyn hyn, newydd gael ei benodi. Mae’n rhaid felly ei fod e’n cael ei ystyried fel person ffit ac abl, ac eto heddiw rydym yn clywed ei fod yn cael ei symud o’r neilltu. Y cwestiwn sy’n dod i’m meddwl i yw: a fu gan Lywodraeth Cymru ran o gwbl yn y penderfyniad i benodi Mr Trevor Purt i’w swydd, ac a fu gan Lywodraeth Cymru unrhyw ran o gwbl yn y penderfyniad heddiw i’w atal o’i waith?

M.D. Atebaf y tri chwestiwn yn eu trefn, Lywydd. Y cyntaf, i fod yn glir ynghylch y broses, unwaith eto, roedd y penderfyniad a wneuthum ddoe yn gwbl seiliedig ar y cyngor a gefais gan y trefniant tri sefydliad... 

10 Mehefin

Dysgu Gydol Oes

A.Ff.J. Rydym yn cyfeirio’n aml at bobl ifanc sydd yn NEETs, ond mae canran uwch o bobl dros 50 sydd â phroblemau darllen a rhifo na’r rhai yn yr oedran iau felly, ac mae hynny’n arwain, wrth gwrs, at fethu ceisio am, a chael, swyddi. Gan sylweddoli bod toriadau o hyd at 90 y cant mewn cyrsiau cymunedol, sut ydych chi, fel Llywodraeth, yn bwriadu helpu’r garfan hyn yma sydd â’r anghenion arbennig yma?

Julie James,  Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Rydym wedi diogelu hyfforddiant sgiliau hanfodol cymaint â phosibl i bobl o bob oed...

16 Mehefin

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Fformiwla Barnett

A.Ff.J. Rydych chi’n dweud, Brif Weinidog, fod fformiwla Barnett wedi dod i ddiwedd y daith ac nad yw’n ‘fit for purpose’ fel rydych chi’n ei ddweud. A ydych chi’n barod i ymddiheuro, felly, i bobl Cymru fod Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig wedi methu ariannu Cymru’n deg pan oedd hi mewn Llywodraeth yn San Steffan?

C.J. Wel, yn gyntaf i gyd, nid yw’r amgylchiadau’r un peth. Fel bydd e’n gwybod yn nêt, mae’r sefyllfa ynglŷn â Barnett wedi gwaethygu dros y blynyddoedd…

17 Mehefin

Y Cynllun Gofodol Morol

A.Ff.J. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun gofodol morol? 

Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Mae cynllunio morol yn gysyniad newydd cyffrous. Mae disgwyl eiddgar am gynllun morol cenedlaethol cyntaf Cymru ac mae’n rhoi cyfle unigryw i ni sicrhau eglurder i bawb sy’n cynllunio ac yn ymgymryd â gweithgareddau ym moroedd Cymru.

A.Ff.J. Diolch am y datganiad yna. Mae’r rhanddeiliaid rydym ni wedi siarad efo nhw yn dweud nad oes digon o adnoddau yn eich uned chi i ddod â’r cynllun yma i fod o fewn eich amserlen. Felly, y cwestiwn ydy: a oes gennych chi’r adnoddau, a phryd fydd y cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi?

C.S. A oes gennyf yr adnoddau? Oes, yn wir. Rwy’n cyflwyno system cynllunio morol fel cynllun hirdymor, a byddaf yn ei gyflwyno yn nes ymlaen eleni.

Allgáu Digidol

A.Ff.J. Mae llawer iawn i’w ganmol am waith BT yn uwchraddio cysylltiadau band llydan, ond a gaf i dynnu sylw’r Gweinidog at un sefyllfa yn fy etholaeth i, ym mhentref Nasareth, lle mae’r post wedi cau ond mae yna bost symudol yn dod yno’n wythnosol? Yn anffodus, oherwydd cysylltiadau band llydan diffygiol, nid yw’n bosib gwneud unrhyw waith gyda’r fan symudol—oherwydd diffyg cysylltiadau—ac nid oes unrhyw berswâd, hyd ag y gallaf i ei weld, ar Swyddfa’r Post nag ar BT yn llwyddo i ddatrys y sefyllfa. Buaswn i’n gwerthfawrogi petai’r Gweinidog yn edrych ar y sefyllfa, achos, mewn gwirionedd, rydych chi’n amddifadu ardal wledig gymharol ddifreintiedig o wasanaeth sylfaenol.

Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Wel, unwaith eto, byddai hwn yn fater i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth…

Dyfodol Llywodraeth Leol yng Nghymru

A.Ff.J. Nid oes amheuaeth, yn fy marn i, mai newid ffiniau yn 1994/5 oedd y camgymeriad mwyaf yn hanes diweddar gwleidyddiaeth Cymru. Ond un cwestiwn syml sydd gen i: gan ystyried y ddau fap rydych wedi’u cyhoeddi, beth yn union yw’r ystyriaethau sydd wedi’ch arwain chi at gynnig dau fodel yn y gogledd? Hynny yw, beth yw’r dadleuon o blaid y model dwy sir ac wedyn y dadleuon o blaid y model tair sir yn y gogledd?

Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Rwy’n meddwl bod dadlau dwys iawn wedi bod yn y gogledd, mae’n amlwg, fel mewn rhannau eraill o Gymru, ynghylch cyfluniad llywodraeth leol yn y dyfodol...

23 Mehefin

Gwasanaeth Cymraeg

A.Ff.J. Mae pamffled ‘Rhoi Organau, Optio Allan’ wedi’i ddosbarthu’n eang yn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf yma ac mae etholwr i mi wedi cysylltu â’r llinell ffôn sy’n cael ei hargymell yn y pamffled yn gofyn am wybodaeth. Mae wedi gwneud hynny ddwsin o weithiau ac wedi pwyso botwm yr opsiwn Cymraeg ond nid ydyw wedi cael ateb eto. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y methiant hwn i weithredu cynllun iaith y Llywodraeth ac i drin pobl sy’n dymuno cael gwasanaeth yn Gymraeg yn gyfartal?

Jane Hutt: Yn amlwg, mae hwnnw'n fater y mae'r Llywodraeth eisiau sicrhau ei fod yn cyflawni’n unol â, nid yn unig ein cynllun iaith Gymraeg, ond hefyd wrth gyfathrebu â phobl Cymru, ar y datblygiad a’r newid pwysig iawn hwn…

Datganiad: Adroddiad Blynyddol Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru 2015

A.Ff.J. Rwy’n croesawu'r datganiad ac yn llongyfarch y Llywodraeth ar geisio a hwyluso ffyrdd arloesol o godi cyfalaf a benthyg arian, a hynny yn wyneb y toriadau gan San Steffan—toriadau a fyddai wedi digwydd dan y Blaid Lafur, wrth gwrs, fel y mae gwahanol ddatganiadau gan y rhai yn ras arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn ei brofi. Roedd y broses hon o chwilio am ffyrdd arloesol o godi cyfalaf yn rhan o faniffesto Plaid Cymru yn 2011 ac un dull o'r fath oedd y cwmni AdeiladuIGymru. Wfftiwyd hwn yn llwyr gan y Prif Weinidog. Yn ôl y Prif Weinidog, roedd hon yn freuddwyd gwrach, ac eto, yn y datganiad hwn, rydym ni’n gweld y Llywodraeth yn canmol rhinweddau’r model buddsoddi nad yw'n dosbarthu elw. Nid yw rhoi teitl diflas iddo’n newid y ffaith mai AdeiladuIGymru o dan enw arall yw hwn. Dyna ni; popeth yn dda a ddiweddo’n dda, mae'n debyg.

Os caf i gyfeirio at raglen Cyflymu Cymru gydag arian y Llywodraeth, y sector preifat ac Ewropeaidd, un broblem gyda’r cynllun hwn—ac rwy’n canmol ei rinweddau hefyd—yw bod BT yn gwrthod rhannu gwybodaeth ynghylch pa ardaloedd fydd yn elwa ar y cynllun, ac o ganlyniad nid ydym yn gwybod pa ardaloedd fydd yn cael eu gadael allan ac felly ni allwn gynllunio ar gyfer y posibilrwydd hwnnw. Felly, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud ynglŷn â hynny fel y gellir gwneud rhywfaint o flaengynllunio?

Mae rhai o'r rhaglenni yr ydych chi’n cyfeirio atynt, ac maen nhw yn y ddogfen hefyd, yn gynlluniau Cymru gyfan, ond mae'r rhan fwyaf o'r cynlluniau mawr a grybwyllir yn eich datganiad yn y de-ddwyrain—nid yw hynny’n annisgwyl, nid yw’n syndod. Felly, a allech chi ddarparu map yn dangos dosbarthiad y cynlluniau cyfalaf safle penodol sydd ar y gweill, neu a gwblhawyd yn ddiweddar, a’u gwerth? Wrth gwrs, mae gwariant cyfalaf ar raddfa lai yn dod â manteision mwy i fusnesau yng Nghymru, er bod angen ychydig o gamau mawr i newid y sefyllfa’n llwyr.

Ni allaf weld unrhyw gyfeiriad at gynllun ffordd liniaru'r M4 yn y datganiad. A oes unrhyw reswm am hynny? Efallai fod y Llywodraeth wedi newid ei meddwl yn gyflym. Yn olaf, dylai ein holl wariant fod yn seiliedig ar strategaeth wedi’i hymchwilio'n dda, ac rwy’n tybio erbyn hyn y bydd yn rhaid i chi gadw at yr egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. A allwch chi esbonio pa un a yw'r cynllun buddsoddi wedi cael ei adolygu mewn unrhyw ffordd, o gofio mai’r Ddeddf CD yw’r egwyddor arweiniol ar gyfer holl weithgarwch y Llywodraeth erbyn hyn? A wnewch chi ymrwymo y bydd yn rhaid i bob adeiledd sy’n cael ei adeiladu gydag arian cyhoeddus, neu’n cael ei adeiladu’n rhannol gydag arian cyhoeddus, boed yn dai neu’n unedau diwydiannol, gael ei adeiladu i'r safonau arbed ynni uchaf a geir yn y modelau gorau yn Ewrop?

Jane Hutt: Diolch, Alun Ffred Jones, am gydnabod mai Llywodraeth Lafur Cymru sy'n cyflawni ar y ffyrdd hollbwysig o ddenu cyllid arloesol drwy'r model dosbarthu dielw…

24 Mehefin

Dadl ar Araith y Frenhines

A.Ff.J. Mi hoffwn i ganolbwyntio ar welliant 5 yn enw Elin Jones. Mae yna gryn dipyn o drafod y prynhawn yma wedi bod ar y cyfansoddiad, a dweud nad ydym ni’n gwneud dim byd ond trafod y cyfansoddiad. Wel, nid yw’r Torïaid wedi gwneud dim byd ond trafod cyfansoddiad Prydain ers dyddiau John Major, a dweud y gwir, ac rydym ni’n dal wrthi. Dyna pam mae’r cynnig yma ynglŷn â chynnal refferendwm yn bwnc trafod, a dyna ydy rhan o’n gwelliant ni.

 Mae’r refferendwm yn codi pryderon sylweddol i ni yng Nghymru, ond mae’n werth dweud bod Plaid Cymru yn cytuno y dylai pobl y Deyrnas Gyfunol gael eu dweud ar y mater, ac nad oes gan Blaid Cymru wrthwynebiad i’r egwyddor o gynnal refferendwm ar y mater yma. Yr hyn sy’n eironig, wrth gwrs, yw bod yr Undeb Ewropeaidd wedi newid yn sylweddol eisoes, felly, o ran faint o ddeddfwriaeth sy’n cael ei llunio ym Mrwsel. Ac nid oes dwywaith, yn ein barn ni, bod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wedi bod ac yn dal i fod yn fanteisiol i Gymru o ran ei hamaethyddiaeth, o ran adfywio economaidd, ac o ran hybu masnach a chreu swyddi, ac efallai’n bwysicach o lawer, mae cydweithio clòs o ran ymateb i newid hinsawdd ar draws y cyfandir yn gwbl allweddol. Mi fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peryglu'r holl bethau hynny. 

Ond o ran y refferendwm a lle pobl ifanc, mi ddangosodd refferendwm annibyniaeth yr Alban i ni’n glir fod pobl 16 a 17 mlwydd oed yn gwbl abl i wneud penderfyniadau pwysig gwleidyddol pan fo’r wybodaeth o’u blaenau nhw. Ac onid ydy hi’n arwyddocaol mai yn yr Alban, mewn gwlad sydd wedi cael mesur o ddatganoli, y gwelwyd y cam cyntaf pwysig hwnnw’n digwydd, ac nid, wrth gwrs, yn y Deyrnas Unedig sglerotig yma sydd gennym ni ar hyn o bryd? Fel rwy’n dweud, mae’r dystiolaeth o’r Alban, sydd wedi ei chadarnhau gan ymchwil o Awstria a Norwy, yn dangos, gyda chymorth gan deuluoedd ac ysgolion, fod pobl rhwng 16 a 17 yn fwy tebygol o fwrw eu pleidlais na phobl rhwng 18 a 34 mlwydd oed. Mae’r modd y mae pobl ifanc yn cael eu cyflwyno i wleidyddiaeth yn eu blynyddoedd cynnar yn allweddol bwysig i ddyfodol democratiaeth gynrychioladol. Rwy’n croesawu’r consensws sydd, hyd y gwelaf i, ar draws y Siambr yma y dylai hyn ddigwydd. Yr hyn sydd yn siomedig iawn ydy bod y blaid sydd mewn grym yn San Steffan wedi gwrthod y cyfle yma i ehangu’r bleidlais i bobl ifanc. 

Mae’r dadleuon wedi cael eu gwneud yn barod, ond mae’n amlwg, onid yw, os yw person 16 oed yn ddigon aeddfed i wneud y penderfyniad i ymuno â’r fyddin ai peidio, yna yn sicr mae’n ddigon aeddfed i fwrw pleidlais mewn etholiad? Mae Plaid Cymru o blaid ac wedi bod o blaid rhoi pleidlais i bobl 16 oed a 17 oed ym mhob etholiad, ac mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gweithredu’r safbwynt yma ar ôl etholiadau’r cynulliad nesaf, os mewn grym. Y trueni ydy y bydd y bobl yma yn cael eu distewi yn y penderfyniad allweddol yma ar ddyfodol y Deyrnas Unedig o fewn yr Undeb Ewropeaidd—nhw ydy’r bobl, wrth gwrs, a fydd yn gorfod byw gyda chanlyniadau'r penderfyniad hwnnw.

O ran agwedd arall sydd wedi cael ei chyfeirio ati, sef yr hyn sydd yn y gwelliant, mae’r ffaith bod yna fygythiad y bydd pobl Cymru yn cael eu tewi yn gyfan gwbl yn y refferendwm. Mae’n gwbl bosib y bydd un wlad yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd tra bod gwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol yn pleidleisio i aros y tu mewn. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi cyflwyno gwelliant i’r Bil yma yn Nhŷ’r Cyffredin—i sicrhau na fydd Cymru yn cael ei thynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd heb gael mwyafrif clir o bleidleisiau o fewn Cymru i wneud hynny. Mae Llywodraeth yr Alban wedi galw am yr un rheol. Y trueni ydy nad yw Llywodraeth Cymru yn brwydro dros ddiddordebau Cymru fel mae Llywodraeth yr Alban yn brwydro dros eu diddordebau nhw, ac yn hytrach yn gadael i ni ym Mhlaid Cymru gymryd y baich o frwydro dros Gymru. Rwy’n mawr obeithio y bydd ein hymdrechion yn Nhŷ’r Arglwyddi yn medru gwthio’r gwelliant yma a’i gael o yn rhan o’r Bil.

30 Mehefin

Strategaeth Ganser

A.Ff.J. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth ganser Llywodraeth Cymru? 

C.J. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer canser yn dangos y camau rŷm ni’n eu cymryd ym maes gwasanaethau a chanlyniadau canser. Ddoe, er enghraifft, cyhoeddom ni sut mae’r grŵp gweithredu canser yn buddsoddi £1 miliwn ychwanegol y flwyddyn i ailfodelu a gwella gwasanaethau canser yng Nghymru.

A.Ff.J. Diolch yn fawr. Fe fyddwch chi yn ymwybodol, Brif Weinidog, o ymgyrch Mr Irfon Williams o Fangor, Hawl i Fyw. Fe ddaeth newyddion da ac addawol yn dilyn ei driniaeth ym Manceinion yn ddiweddar yma. Mae Mr Williams wedi ymddwyn gydag urddas yn ystod y cyfnod anodd yma, ac mae’n awyddus iawn i gwrdd â chi i drafod sefyllfa cleifion tebyg iddo fo. A fyddech chi’n barod i ymateb yn gadarnhaol i’r cais yma?

C.J. Wel, nid wy’n gwybod eto beth fyddai nod unrhyw gyfarfod. A gaf i ddweud ar y dechrau: rwy’n falch dros ben i glywed bod pethau’n mynd yn dda i Mr Williams, wrth gwrs…

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed

A.Ff.J. Mae’r ganolfan yn Abergele ag enw da iawn iddi, ond mae hi’n anodd iawn cael mynediad iddi. Mae yna bobl ifanc yn fy etholaeth i, ac yn y gorllewin, sydd yn aml iawn yn gorfod aros misoedd, pan maent ar eu mwyaf bregus, cyn cael help gan arbenigwyr. Beth all eich Llywodraeth chi ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc sydd mewn angen fel hyn yn cael mynediad i’r gwasanaethau hanfodol hyn ar yr adeg gywir?

Carwyn Jones: Wel, rwyf wedi sôn, wrth gwrs, am yr arian ychwanegol sydd wedi cael ei ddatgan…

Gyrfa Cymru

A gaf i ofyn am ddatganiad arall gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ynglŷn â’r penderfyniad i ddileu cyllid Gyrfa Cymru ar gyfer fetio llefydd profiad gwaith ar gyfer disgyblion ysgol? Mae’r Dirprwy Weinidog wedi dweud ei bod hi’n ystyried ei bod yn bosibl i ysgolion wneud y gwaith hwn eu hunain. Mae ysgolion yn fy etholaeth i yn bendant nad ydy hynny’n bosibl ac, yn wir, nad oes ganddyn nhw’r amser na’r sgiliau i wneud hynny yn ddiogel. Gan fod profiad gwaith yn cael ei ystyried yn rhan bwysig o addysg plant, mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar farn y bobl broffesiynol. Yn ôl un prifathro, mae o’n dweud bod y llythyr wedi cael ei ysgrifennu gan rywun sydd yn amlwg ddim wedi bod yn agos i ysgol ers rhai blynyddoedd. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad pellach ar y sefyllfa hon, os gwelwch yn dda?

 Gwin Cymreig

A.Ff.J.  Un agwedd ar eich strategaeth bwyd a diod yw gwin o Gymru. Fe fu Gweinidog yr economi yn ymweld â gwinllan Pant Du yn Nyffryn Nantlle yn ddiweddar a chithau’n bwriadu mynd yno yn y dyfodol agos. Mae dweud ‘gwinllan’ a ‘Dyffryn Nantlle’ yn yr un frawddeg yn dal i fod yn egsotig iawn yn fy meddwl i. Beth bynnag, mae cynnyrch gwin de Lloegr yn cael llawer iawn o sylw y dyddiau yma—llawer iawn o farchnata—ond nid oes yna fawr ddim o farchnata na hybu gwin o Gymru. Yn wir, os ewch ar wefan ‘wines from Wales’, fe welwch chi—‘English wine producers: Wales.’ Felly, a ydych yn bwriadu cyfarfod â chynrychiolwyr o’r diwydiant—ac mae 15 gwinllan yng Nghymru—yn y dyfodol agos, er mwyn ceisio rhoi mwy o hwb i winoedd o Gymru?

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog dros Ffermio a Bwyd: Rebecca Evans: Ydw, rwy’n bwriadu gwneud union hynny. Mae gen I ymeliad wedi’I gynllunio ar gyfer Pant Du, a hefyd Ancre Hill, I drafod materion sy’n wynebu’r diwydiant gwin yng Nghymru...