Adroddiad Misol Mai 2015

15/06/2015

AELOD CYNULLIAD ARFON

ALUN FFRED JONES AC

Mai 2015

Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, oedd stori wleidyddol fawr y mis, a bydd y canlyniad yn effeithio’n fawr ar weithgareddau’r Cynulliad ac ar fywydau pawb ohonom.  Er gwaethaf llawer o addewidion annelwig, dydyn ni fawr nes i’r lan ar y mater pwysicaf i Gymru, sef system ariannu teg a fyddai’n  gwneud hi’n haws mynd i’r afael â phroblemau’n gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae’r sefyllfa’n cael ei chrynhoi yn fy araith wrth agor trafodaeth ar Fformiwla Barnett ar Fai 13, sydd i’w gweld yn y rhifyn hwn. 

Pigion dyddiadur Mai

Gwener, Mai 1

Cymhorthfa, Caernarfon

Mawrth, Mai 5

Cyfarfod Llawn y Cynulliad

Cyfarfod efo’r Gymdeithas Cadwraeth Forol

Iau Mai 7

 Etholiad Cyffredinol

Llun, Mai 11

Cymhorthfa, Caernarfon

Cyfarfod Codi’r To

Mawrth, Mai 12

Cyfarfod Cymdeithas yr Eog a’r Brithyll

Cyfarfod swyddogion Swyddfa’r Post i drafod dyfodol swyddfa Penygroes

Cyfarfod y gweinidog Carl Sargeant  i drafod y Bil Cynllunio

Mawrth Mai 13

Pwyllgor Cyllid

Derbyniad UNESCO

Derbyniad Dathlu Diwrnod Ewrop

Cyfarfod Llawn

Iau, Mai 14

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cinio efo ASau Ewropeaidd Cymru

Talwrn Gŵyl Fai, Penygroes

Gwener, Mai 15

Cyfarfod Ymgynghoriaeth Gwynedd

Cyfarfod Scottish Power, Llandudno

Agor cae chwarae Rhosgadfan

Sadwrn, Mai 16

Ras Slateman, Llanberis

Lansio Gŵyl Fwyd Caernarfon

Llun, Mai 18

Cymhorthfa, Bangor

Mawrth, Mai 19

Cyfarfod Llawn

Siarad yng nghyfarfod Cymdeithas Frenhinol Cemeg

Mercher, Mai 20

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod Llawn

Darlith Goffa Phil Williams – siarad

Iau, Mai 21

Pwyllgor Cyllid

Cyfarfod Sefydlu Maer Caernarfon

Gwener, Mai 22

Cymhorthfa, Caernarfon

Pwyllgor Etholaeth

Sadwrn, Mai 23

Rali Ffermwyr Ifanc

(Wythnos hanner tymor y Cynulliad)

Gwener .  Mai 29

Sesiwn briffio Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Cymhorthfa, Caernarfon

Cwestiynau ac Areithiau yn y Cynulliad

5 Mai

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

A.Ff.J. Ddirprwy Weinidog, rydych newydd gyfeirio rŵan at enwau ac enwau llefydd, a’u pwysigrwydd nhw hefyd. Rŵan, mae’r amgylchedd hanesyddol yn sicr yn cynnwys yr adeiladau, a dyna ydy prif gyfeiriad y Bil yma, hyd y gallaf weld, ond mae’r amgylchedd hanesyddol hefyd yn cynnwys yr enwau yna rydych wedi cyfeirio atyn nhw, a gallai’r rheini fod yn Gymraeg, neu fe allent fod yn Saesneg, neu’n wir yn dangos olion, wrth gwrs, o’r hen iaith Sgandinafaidd yma yng Nghymru. Ond, yn Gymraeg mae’r enwau yma’n aml iawn yn ddisgrifiadol iawn. Maen nhw’n cyfeirio at yr amgylchedd, neu ryw nodwedd ddaearyddol. Maen nhw hefyd yn aml iawn yn cynnwys cyfeiriadau at hanes diwydiannol neu ddiwylliannol yr ardal, ac maen nhw’n rhan annatod, mi fyddwn yn dadlau, o’n hamgylchedd hanesyddol ni.

Y cwestiwn sydd gen i—. Mi fyddwch chi hefyd yn ymwybodol bod yna ddeiseb wedi’i chyflwyno heddiw gan Fynyddoedd Pawb yn gofyn am ryw fath o warchodaeth i enwau'r mynyddoedd yma yng Nghymru, ac enwau eraill hefyd sydd â chysylltiadau hanesyddol. A gaf i ofyn i chi, felly, Ddirprwy Weinidog, a ydych wedi ystyried o gwbl gynnwys rhyw fath o ddeddfwriaeth a fyddai’n rhoi gwarchodaeth i enwau lleoedd yma yng Nghymru, am resymau—rhai ohonynt—rydych wedi’u henwi’n barod? Ac os nad ydych wedi ystyried hynny, a gaf i ofyn pam na fyddech chi’n gwneud hynny, o gofio pwysigrwydd yr enwau yma, o safbwynt adrodd ein hanes ni ein hunain yma yng Nghymru?

Kenneth Skates,  Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

Hoffwn ddiolch i Alun Ffred Jones am ei gwestiwn ac am ei gyfraniad. Mae’r pwynt y mae’n ei godi wedi ei godi yn y gorffennol gan nifer o arbenigwyr hefyd, sef gwerth treftadaeth anniriaethol yng nghymdeithas heddiw...

Y Gymraeg a’r Bil Cynllunio

A.Ff.J. Rwy’n siarad i welliant 27, a gyflwynwyd yn enw William Powell. Wrth gwrs, rwy’n diolch i’r Gweinidog am ei gefnogaeth i’r gwelliant yma. Mae’r gwelliant yn un arwyddocaol, gan ei fod o’n cydnabod bod y Gymraeg, neu y bydd y Gymraeg, yn ystyriaeth o ran cynllunio, ac mae hwnnw’n gam cadarnhaol. Ond, fel y gwyddom ni, mewn deddfwriaeth, mae’r cyd-destun a’r manylion yn allweddol. Dyna pam y bydd angen nodyn cynghori technegol a/neu ganllaw priodol. Mae hynny’n hollbwysig i sicrhau bod awdurdodau cynllunio ar draws Cymru yn gweithredu’r gwelliant yma mewn modd cyson a chywir.

Felly, rwy’n annog y Llywodraeth ac yn gofyn am gadarnhad heddiw gan y Gweinidog, o basio’r gwelliant yma, y byddwn ni’n cael nodyn o’r fath cyn gynted â phosib. Rydym yn ei annog o hefyd i ymgynghori ag awdurdodau cynllunio ac arbenigwyr ar fyrder i weithredu bwriad y gwelliant yma. Dyna’r her a dyna ddyletswydd y Llywodraeth, ac ni fydd llusgo traed pellach yn dderbyniol. Felly, rwy’n annog pawb i gefnogi’r gwelliant. 

12 Mai

Strategaeth yr Iaith Gymraeg

A.Ff.J. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed dros y pedair blynedd diwethaf mewn perthynas â strategaeth iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru?

Carwyn Jones: Dros y pedair blynedd diwethaf rydym wedi cymryd camau breision wrth weithredu strategaeth ‘Iaith fyw: iaith byw’. Mae’r camau hyn yn cynnwys datblygiadau nodedig ym meysydd addysg, deddfwriaeth a hybu. Mae rhagor o waith pwysig o hyd i’w wneud yn ystod y ddwy flynedd sy’n weddill o’r strategaeth.

A.Ff.J. Eich pwyslais chi bedair blynedd yn ôl oedd cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg. Pa gam o fewn y strategaeth rydych chi wedi’i amlinellu rydych chi’n ystyried sy’n cyfrannu fwyaf i gyrraedd y nod yma?

C.J. Mae’r egwyddorion yn y datganiad polisi, sef ‘Bwrw mlaen’, ynglŷn ag ym mha ffordd rydym ni’n moyn sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw, yn iaith sy’n cael ei defnyddio, a bod newid ynglŷn â’r arfer o ddefnyddio iaith gan unigolion a chymunedau...

13 Mai

Mynd i’r Afael â Thlodi

A.Ff.J. A oes gan y Gweinidog dargedau CAMPUS ar gyfer mynd i'r afael â thlodi? 

Lesley Griffiths:  Mae ein ‘Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi 2012-2016’ yn nodi targedau a cherrig milltir mesuradwy i gefnogi gwell canlyniadau ar gyfer y rhai sy’n byw mewn tlodi. Mae’r targedau hyn yn adlewyrchu’r dulliau sydd ar gael i ni mewn perthynas ag iechyd, addysg a lleihau diweithdra, sef y meysydd lle y mae gennym gyfleoedd i wneud gwahaniaeth go iawn.

A.Ff.J.  Diolch. Mae’r targedau SMART, yn ôl fel rwy’n deall, yn gorfod bod yn rhai ‘specific’, ‘measurable’, ‘assignable’, ‘realistic’ a ‘time-related.’ Pa darged SMART o fewn eich strategaeth wrthdlodi sydd wedi profi’n fwyaf effeithiol?

L.G. Rwy’n credu ei fod ‘achievable’; nid wyf yn hollol siŵr os oedd y cyfieithiad yn gywir. Ac rwy’n credu mai dyna’r gair sy’n rhaid i’n targedau fod: yr ‘A’—yr ‘achievable’—yw’r pwysicaf.

Agor Dadl Plaid Cymru ar Fformiwla Barnett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod nad yw fformiwla gyllido Barnett er budd pennaf Cymru;

 Yn nodi pe bai Cymru'n cael ei hariannu ar yr un sail â'r Alban fesul pen o'r boblogaeth, byddai'n cael £1.2 biliwn ychwanegol bob blwyddyn; a

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddadlau'r achos o blaid cyllido Cymru ar yr un sail â'r Alban.

A.Ff.J. Rwy’n falch iawn o gael rhoi’r cynnig yma gerbron yn enw Elin Jones. Nid oes angen i mi ddweud y bydd y pum mlynedd nesaf yma yn rhai anodd i’n gwasanaethau cyhoeddus ni, ac i unigolion sy’n derbyn budd-daliadau, gan gofio mai oedolion mewn gwaith ydy cyfran helaeth o’r rhain—pobl sydd yn aml yn gweithio ar yr isafswm cyflog, ac, yn aml iawn, ar gontractau byrdymor heb sicrwydd oriau. Rwyf wedi bod yn siarad efo nifer o weithwyr yn y sector gofal yn ddiweddar, a chyda chwmnïau gofal hefyd. Nid yw’r cwmnïau yma yn aml ond yn gallu talu rhwng 40c a £1 dros yr isafswm cyflog, hyd yn oed i staff sydd wedi cymhwyso. Bydd y wasgfa’n anochel ar lywodraeth leol, a honno’n wasgfa boenus iawn, iawn. Fe fyddwn ni’n gweld pwysau ar ein hysgolion ni, y gwasanaethau cymdeithasol—Duw a ŵyr beth sy’n mynd i ddigwydd i’n llyfrgelloedd ni, i’n canolfannau hamdden ni, y celfyddydau ac iechyd cyhoeddus a nifer o feysydd eraill. Ac felly, mae pwnc cyllido Cymru yn un amserol ac yn un pwysig.

Mae pob un o’r pleidiau yma heddiw wedi cynnig gwelliannau i’r cynnig, ond nid oes un ohonyn nhw yn herio’r gosodiad sylfaenol sydd yn ein cynnig gwreiddiol ni. I’r graddau hynny, rŷm ni croesawu’r ffaith bod yna undod yma yng Nghymru nad ydy fformiwla Barnett yn addas i’n dyddiau ni ac i’n sefyllfa ni. 

Y tristwch mawr—yn wir, y cywilydd—yw nad oes yr un o’r pleidiau Prydeinig yma wedi gwneud dim pan oedden nhw’n arwain y Llywodraeth yn Llundain i newid y sefyllfa, i newid y ddêl wael hon i Gymru. Yn amlwg, nad oedd y mater sylfaenol hwn yn rhan o sefyll cornel Cymru.

Ychydig flynyddoedd ar ôl i mi ddod i’r Cynulliad yma, dros 12 mlynedd yn ôl bellach, fe gafwyd dadl yma ar yr union bwnc yma, sef yr angen i ddiwygio Barnett. Roedd y Blaid Lafur yn unfryd y diwrnod hwnnw—yn cynnwys amryw sy’n dal ar y fainc flaen 10 mlynedd yn ddiweddarach—nad oedd angen gwneud dim byd. Yn wir, y rhybudd a roddwyd i ni’r prynhawn hwnnw oedd, ac rwy’n cofio’r geiriau’n iawn,‘be careful what you wish for’, gyda’r bygythiad y gallai unrhyw newid waethygu’r sefyllfa. O edrych yn ôl ar y blynyddoedd diwethaf yma, y cynnydd yn nifer y teuluoedd sydd mewn tlodi, y wasgfa ar ein gwasanaethau cyhoeddus ni, a’r hyn sydd o’n blaenau ni, a oes rhywun yma’n difaru’r geiriau hynny bellach, ac yn cydnabod y methiant i ddiwygio fformiwla Barnett—yn wir, i ddiwygio fformiwla Barnett pan oedd yna arian yn cylchredeg yn Llundain? Beth bynnag am farn y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr Democrataidd yma, ni chawsom ni gydnabyddiaeth gan eu pleidiau nhw bod dim o’i le yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac ni fu newid, fel rŷm ni’n ei wybod.

Pan fu cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur cyn ffurfio Llywodraeth Cymru’n Un, un o’n hamodau ni oedd ffurfio, wrth gwrs, comisiwn i edrych yn fanwl ac yn wrthrychol ar gyllido Cymru. Fe ddaeth Mr Gerry Holtham a’u cyd-gomisiynwyr i’r casgliad anochel bod Cymru’n cael ei thangyllido. Ac, fel rydych yn cofio, yr amcangyfrif ar y pryd oedd ffigur o dua £300 miliwn. Mae’n gas gen i feddwl, wrth edrych yn ôl ar y cyfnod ers i’r diweddar Joel Barnett greu’r fformiwla yma, faint o arian sydd wedi ei golli i Gymru. Mae’r ffigur yn un syfrdanol, mae’n siŵr. Ond, er waethaf casgliadau’r comisiwn ardderchog hwnnw, cafwyd dim cydnabyddiaeth o ddilysrwydd y ffigwr hwnnw gan arweinwyr Llafur yn Llundain nac yn ddiweddarach gan y Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr Democrataidd. Pum mlynedd a dim newid, dim addewidion—dim byd, mewn gwirionedd. 

Mae un o’r gwelliannau yn cyfeirio at y llawr cyllido oedd Gerry Holtham yn ei argymell fel cam cyntaf, a hwnnw’n berthnasol iawn, wrth gwrs, pan oedd cyllid cyffredinol yn cynyddu, a’r gyllideb yn cynyddu’n gyffredinol. Rydym bellach wedi cyrraedd cyfnod lle mae’n annhebygol iawn y byddai unrhyw gyllid ychwanegol yn dod o’r llawr cyllido, er mai dyna sy’n cael ei gynnig yn un o’r gwelliannau yma. Pa un bynnag, mae fformiwla amrwd y diweddar Joel Barnett, a oedd, wrth gwrs, yn ei flynyddoedd diwethaf am weld ei diwedd hi ac wedi dweud hynny drosodd a throsodd—oedd yn embaras, rwy’n credu, erbyn y diwedd, ein bod ni’n dal i sôn amdani—mae’r fformiwla honno wedi ei chadarnhau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yma. Un o’r golygfeydd rhyfeddaf refferendwm yr Alban, ymhlith nifer o olygfeydd rhyfeddol, oedd y tri arweinydd Prydeinig yn rhuthro i’r Alban, mwy na lai llaw yn llaw, i sicrhau byddai’r fformiwla yn aros am byth. Roedd hi’n gwbl amlwg i bawb oedd yn dyst i hynny mai rhyw fath o bribe oedd hon i gadw’r Alban o fewn y Deyrnas Unedig. Mae’n werth atgoffa ein hunain, pe bai Cymru’n cael ei hariannu ar yr un lefel â’r Alban, a chymharu tebyg wrth ei debyg, mi fydden ni yng Nghymru yn derbyn dros £1 biliwn yn ychwanegol. Neu, i roi fe fel arall, dyna i chi £400 y pen yn ychwanegol.

Rŵan, yn y bôn, grym ac ewyllys gwleidyddol yr Alban sicrhaodd y ddêl honnid yn unig y llynedd, ond hefyd yn y gorffennol, tra bod gwleidyddion pleidiau Prydeinig Cymru wedi methu â gwarchod buddiannau eu pobl yma yng Nghymru. Wrth gwrs, rwyf yn derbyn bod Gerry Holtham, yn un, ac ambell un arall, wedi nodi na ddylid gwneud y gymhariaeth honno, gan fod y setliad i’r Alban yn un afresymol. Ond y ffaith ydy bod y pleidiau Prydeinig wedi rhoi sêl eu bendith ar y setliad hwnnw, a chlywais i neb yn beirniadu hynny ar y pryd. Felly, os ydy’r ddêl honno yn ddigon da i’r Alban, pam nad ydy’n ddigon da i Gymru? Rŵan, mae dadl Gerry Holtham, wrth gwrs, yw, gan ei bod hi’n afresymol, na ddylen ni ddim, felly, ofyn am yr un un setliad. Ond, nid wyf yn gweld, gan fod diwygio Barnett bellach wedi cael ei bwrw o’r neilltu-yna mae’r unig gymhariaeth allen ni ei wneud ydy gyda gwlad arall sydd yn sefyllfa debyg i ni yma yn y Deyrnas Unedig a gofyn am yr un un setliad, neu setliad tebyg. Mi fyddai hynny, wrth gwrs, yn arwain at wella, neu o leiaf at sicrhau cynnal a chadw peth o’n gwasanaethau cymdeithasol ni. Mae’r gymhariaeth efo’r Alban yn un syfrdanol, wrth gwrs, o gofio bod GVA y pen yr Alban tua 94 y cant o gyfartaledd y Deyrnas Unedig, tra bod canran Cymru dros 20 y cant yn is. Mae nifer o gymariaethau eraill y gellid eu gwneud i ddangos cymaint ydy’r angen yma yng Nghymru, ac eto nid oes cydnabyddiaeth wedi dod i hynny o du Llundain, pa bynnag plaid sydd wedi bod mewn grym.

Felly, rwyf yn herio llefaryddion y pleidiau heddiw—y rhai a fydd yn cymryd rhan—i gyfiawnhau pam y dylai Cymru gael ei thrin yn eilradd fel hyn. Os nad ydy diwygio Barnett ar y gweill, yna rowch gyfartaledd â’r Alban i ni er mwyn inni allu, wedyn, bwrw ymlaen â’r gwaith er mwyn grymuso a chryfhau’r economi a, thrwy wneud hynny, rymuso a chryfhau ein cymunedau ni a sefyllfa teuluoedd yng Nghymru trwy wneud hynny.

Cloi’r ddadl (Rhan)

A.Ff.J. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma. Rydym wedi clywed llawer am degwch y prynhawn yma, ac rydym wedi gweld llawer iawn o ofnusrwydd gwleidyddol yn ogystal ar yr un pryd. Yn y ddadl, ar ôl fy sylwadau agoriadol, cyhuddodd Peter Black fi o ddryswch. Rwy’n drysu’n hawdd—[Chwerthin.]— ond yr hyn nad wyf i’n drysu yn ei gylch yw bod Cymru wedi cael cam ac nad yw wedi cael ei hariannu’n ddigonol ers degawdau. Aeth Peter Black ymlaen i ddweud bod Danny Alexander wedi addo y byddai’n cyflwyno cyllid gwaelodol Barnett. Ac yna ni ddigwyddodd dim, wrth gwrs. Dyna’r broblem. Hyd yn oed pan fydd pobl yn ildio pethau, nid oes dim yn digwydd. Mae hyd yn oed Silk a wanhawyd wedi cael ei wthio o’r neilltu, hyd y gwelaf. 

Atebodd Simon Thomas y pwynt a wnaeth Peter Black fod pawb, yn wir, o blaid fformiwla sy’n seiliedig ar angen—mae pawb o blaid hyn. Ond bwriwyd hynny heibio gan y glymblaid yn yr adduned yn yr Alban. Dyna fel y mae hi yn y bôn. Felly, gan nad oes bwriad i adolygu Barnett, gadewch i ni fod yn gydradd â’r Alban. Beth sydd o’i le ar ofyn hynny? Onid yw pobl eisiau hynny? Onid ydych eisiau’r modd i allu gwasanaethu ein cymunedau yn well? A ydych yn hapus â’r sefyllfa bresenn

19 Mai

Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewrop

 A,Ff.J. Sut mae lefel cynhyrchiant y pen yng Nghymru yn cymharu â lefel cynhyrchiant y pen yn y Deyrnas Unedig?

Carwyn Jones: Wel, ynglŷn â chynhyrchu yng Nghymru, rydym mwy neu lai yn yr un lle, ond yr hyn rydym yn ei wybod yw ein bod ni y tu ôl i'r Almaen, rydym y tu ôl i Ogledd America, ac rydym y tu ôl i’n cystadleuwyr…

Cwestiynau I’r Geinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Jane Hutt

A.Ff.J. Rwy’n gofyn am ddau ddatganiad llafar yn y Cynulliad ar ddau benderfyniad sydd â chanlyniadau pellgyrhaeddol, a’r ddau ym myd addysg. Mae’r cyntaf ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i derfynu cytundeb gyda Gyrfa Cymru i wirio lleoliadau mannau gwaith ar gyfer profiad gwaith i ddisgyblion ysgolion uwchradd. Yn ôl datganiad ar ran penaethiaid ysgolion uwchradd yn fy etholaeth i, sydd wedi cysylltu â mi, maen nhw’n dweud:  ‘Fydd profiad gwaith o dan yr amodau presennol ddim yn digwydd o fis Medi ymlaen.’

 Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni’n clywed yn y fan hon a ydy’r Llywodraeth wedi penderfynu nad oes gwerth i brofiad gwaith.

Yr ail yw penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi’r cytundeb i greu endid cenedlaethol dysgu Cymraeg i oedolion i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mi hoffwn i gael datganiad llafar sy’n esbonio sut y gwnaed y penderfyniad hwn. Wedi’r cwbl, nid oes gan y sefydliad arbennig yma ddim hanes nac arbenigedd yn y maes. Y peth pwysicaf ydy cael cyfle i holi’r Gweinidog ar y mater ac i gael gweld y ceisiadau a sut y daethpwyd i’r penderfyniad.

Llysgenhadon Cyllid yr UE

A.Ff.J. Diolch am y datganiad. Braidd yn fyr ar ffeithiau ydy’r datganiad, er ei bod yn amlwg bod cryn dipyn o siarad a thrafod wedi digwydd, ac rwy’n siŵr y gall y llysgenhadon yma wneud cyfraniad. Roedd adroddiad y pwyllgor, fel rwy’n cofio, yn canolbwyntio cryn dipyn ar Horizon 2020 a’r posibiliadau a oedd yno. Roedd yr adroddiad yn gwneud y pwynt bod angen gweld cydweithio rhwng prifysgolion o fewn Cymru a rhwng prifysgolion Cymru a phrifysgolion eraill yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Felly, a allech chi ddweud wrthym pa mor llwyddiannus mae’r partneriaethau newydd yma wedi bod? 

Roeddwn yn mynd i ofyn ichi am werth y cytundebau sydd wedi’u hennill dan Horizon 2020, ond rydych chi wedi enwi nifer yn y fan yna. Beth ydy cyfanswm gwerth y cytundebau sydd wedi’u hennill yn barod? Roeddech chi’n sôn am rai a oedd yn werth rhai cannoedd o filoedd, sydd yn werthfawr ynddo ei hun, wrth gwrs, ond mae’r symiau sydd ar gael o dan Horizon 2020 yn sylweddol iawn, iawn. Felly, a allwch chi gadarnhau’r swm o €30 miliwn, os deallais i’n iawn, y mae Prifysgol Caerdydd yn unig wedi’i ennill? A ydw i’n iawn yn hynny o beth? Neu a allwch chi jest gywiro hynny i mi? 

Wedyn, yn olaf, a gaf i ofyn ichi hefyd am raglen Iwerddon-Cymru? Beth ydy gwerth y rhaglen yma yn ei chyfanrwydd, a pha fath o gyrff sy’n debyg o elwa arni hi? Mi edrychwn ymlaen at gael diweddariad ynglŷn â’r llwyddiannau o dan y rhaglenni yma, a hefyd i weld pa mor effeithiol y mae’r llysgenhadon yma wedi bod, yn y dyfodol. 

Jane.Hutt. Diolch yn fawr i Alun Ffred Jones am ei gwestiynau a'r cyfle i ymhelaethu ar y ffordd ymlaen o ran Horizon 2020, a'r ffyrdd y mae'r prifysgolion yn gweithio gyda'i gilydd ac yn creu partneriaeth nid yn unig â'i gilydd, ond hefyd o fewn y DU ac â phartneriaid ledled Ewrop—wrth gwrs, mae angen y cyswllt trawswladol hwnnw arnynt i allu llwyddo o ran disgwyliadau Horizon 2020…