Adroddiad Misol

11/03/2015

AELOD CYNULLIAD ARFON

ALUN FFRED JONES AC

Chwefror 2015

Pigion Dyddiadur Chwefror

Llun, 2 Chwefror

Prifysgol Bangor – cyfarfod Gerry Hunter

Cymhorthfa

Mawrth, 3 Chwefror

Cyfarfod Jane Hutt, Gweinidog Cyllid

Sesiwn lawn

Derbyniad Plaid Cymru

Mercher, 4 Chwefror

Pwyllgor Cyllid

Sesiwn lawn

Iau 5 Chwefror

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod myfyrwyr Coleg Menai

Llun, 9 Chwefror

Cyfarfodydd efo Hywel Williams AS

Hawl i Holi, Ysgol Brynrefail

Siop WEA Cymru, Bangor

Mawrth, 10 Chwefror

Cyfarfod Welsh Retail Consortium

Cyfarfod Jane Hutt

Sesiwn lawn

Mercher, 11 Chwefror

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod CAB Cymru

Cyfarfod Jane Hutt

Sesiwn lawn

Iau, 12 Chwefror

Cymdeithas y Deillion, Bangor – lansio Gwasanaeth Hawlio Budd-daliadau

Cymhorthfa, Caernarfon

Cyfarfod cangen Dyffryn Nantlle

Gwener, 13 Chwefror

Cymhorthfa Dyffryn Ogwen

Pwyllgor Codi’r To

Cyfarfod Leanne Wood, Gwesty’r Celt

Mawrth, 17 Chwefror

(Wythnos hanner  tymor)

Cyfarfod etholwyr, Penygroes

Mercher, 18 Chwefror

Ymweld â chynllun tai Coed Cymru, Dolwyddelan

Cymhorthfa, Caernarfon

Iau, 19 Chwefror

Cyfarfod arweinwyr Grŵp Plaid Cymru, Cyngor Gwynedd

Cyfarfod Walis George, Grŵp Tai Cynefin

Gwener, 20 Chwefror

Cyfarfod swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn ag Ysbyty Glan Clwyd

Cymhorthfa, Caernarfon

Sadwrn, 21 Chwefror

Siarad ym mhrotest israddio gofal mamolaeth Ysbyty Glan Clwyd

Llun, 22 Chwefror

Nifer o gyfarfodydd yn swyddfa Caernarfon

Cyfarfod Anheddau (cwmni gofal cymdeithasol), Parc Menai

Mawrth, 24 Chwefror

Cyfarfod briffio efo Jane Hutt

Sesiwn lawn

Mercher, 25 Chwefror

Pwyllgor Cyllid

Cyfarfod Cymdeithas Alzheimer Cymru

Cyfarfod y Dirprwy Weinidog Treftadaeth Ken Skates

Panel Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig  yn y Deml Heddwch

Iau, 26 Chwefror

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod Llysgennad Latfia

Gwener, 27 Chwefror

Ymweld ag Ysgol Addysg Prifysgol Bangor

Nifer o gyfarfodydd yn swyddfa Caernarfon

Sadwrn, 28 Chwefror

Dathliad Gŵyl Ddewi Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Caernarfon

Cwestiynau ac Areithiau yn y Cynulliad

3 Chwefror

Cwestiynau i‘r Prif Weinidog Carwyn Jones

Cyrhaeddiad Addysgol Plant yng Nghymru

A.Ff.J.  A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyrhaeddiad addysgol plant yng Nghymru?

C.J. Mae hon wedi bod yn stori gadarnhaol iawn i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig canlyniadau perfformiad terfynol 2014. Mae’r canlyniadau arholiadau terfynol yn dangos cynnydd gwirioneddol a pherfformiad gwell.

A.Ff.J. O’r disgyblion yng Nghymru sy’n gymwys i dderbyn cinio am ddim ac sydd yn llwyddo i gael pump TGAU, 28% o’r disgyblion hynny sydd yn llwyddo yng Nghymru. Yn Lloegr, mae’r ffigwr tua 38%. Rŵan, ar ôl 15 mlynedd o Weinidogion addysg Llafur a strategaeth wrthdlodi yn cael blaenoriaeth yng Nghymru, pam mae’r ffigurau yn cymharu mor wael?

C.J. Wel, mae’r ffigurau, wrth gwrs, yn fwy positif. Rydym yn gwybod wrth y ffigurau sydd wedi cael eu cyhoeddi yn yr wythnos diwethaf fod y lefel yn codi,..

4 Chwefror

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt

Cyllido teg i Gymru

A.Ff.J. Pa drafodaethau ydych chi wedi’u cael gyda Gweinidogion y Deyrnas Unedig parthed cyllido teg i Gymru?

J.H. Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau cynharach, wrth gwrs, mae hon yn rhan allweddol o’r broses Ddydd Gŵyl Dewi. Mae ffrwd waith cyllid wedi fy ngalluogi i barhau i bwyso am ein galwad am lawr Barnett i ddarparu trefn gyllido deg, ac wrth gwrs, mae hynny’n allweddol o ran symud ymlaen a chael bargen deg i Gymru o ran pwerau cyllidol newydd.

A.Ff.J. Wel, nid wyf yn siŵr am ‘fair deal’, ond mae GVA y pen yr Alban yn 94% lefel y Deyrnas Unedig. Y ffigwr yng Nghymru ydy 72.3%. Pa gyfiawnhad, felly, sydd am y setliad llawer iawn gwell y mae fformiwla Barnett yn ei roi i’r Alban, a Gogledd Iwerddon petai’n dod i hynny—setliad y mae’ch arweinydd Llafur, Ed Miliband, wedi’i gefnogi?

J.H. Wel, wrth gwrs, nid oes cyfiawnhad dros y setliad gwell y mae’r Alban wedi ei gael ers degawdau o fformiwla Barnett. Hoffem weld diwygio fformiwla Barnett, ond wrth gwrs, yr hyn mae’n rhaid inni ei wneud o ran ein cyfrifoldebau yma yng Nghymru, a’r hyn rwy’n ei wneud fel Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru yw dod o hyd i ffordd ymlaen i sicrhau cytundeb cyllido teg i Gymru. Gallwn sicrhau cytundeb cyllido teg i Gymru os gallwn sicrhau’r llawr a argymhellodd Gerry Holtham pan gynhaliodd y comisiwn annibynnol. Wrth gwrs, cafodd hwnnw ei gefnogi gan y comisiwn Silk trawsbleidiol.

A.Ff.J. Ers i mi fod yn y Cynulliad, rwyf i wedi clywed Gweinidogion ar y fainc flaen yn fanna yn cyfiawnhau fformiwla Barnett, tan yn ddiweddar iawn. Fe gawsoch chi 13 blynedd mewn Llywodraeth a gwnaethoch chi ddim byd am y fformiwla. Pe bai Cymru’n cael ei hariannu ar yr un lefel â’r Alban, yna mi fuasai gennych chi £1 biliwn yn ychwanegol. Rŵan ’te, y cwestiwn ydy: beth ydych chi’n mynd i’w wneud i gael setliad teg i Gymru, a pham y diffyg uchelgais yma ar ran Cymru?

J.H. Wel, rwy’n meddwl bod y ffaith fod y Cynulliad hwn yn gyfan—pob plaid—wedi cefnogi’r argymhelliad am gyllid gwaelodol wedi bod yn bwerus iawn. ..

Caffael y Sector Cyhoeddus yng Nghymru

A.Ff.J.  Pa ganran o wariant caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n cael ei ddyfarnu i gwmnïau yng Nghymru?

J.H. Fel y cyhoeddais yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Rhagfyr, mae dadansoddiad o ddata 2012-13 yn dangos mai cwmnïau wedi’u lleoli yng Nghymru a enillodd 55% o wariant caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru.

A.Ff.J. Diolch yn fawr. Pryd y gallwn ni ddisgwyl ffigurau mwy diweddar na’r rheini, er mwyn i ni gael gweld beth ydy’r cynnydd yn y ganran yna? Fel y gwyddoch chi yn dda, pe baem ni’n gwerthu 75% o’r cytundebau yna i gwmnïau o Gymru, yna mi fyddai hynny’n creu tua 50,000 o swyddi.

J.H. Wel, wrth gwrs, rwy’n meddwl bod cynnydd mawr yn cael ei wneud, gan ein bod wedi cynyddu’r gwariant gyda chyflenwyr yng Nghymru ...

Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews

 Lefel Cyflogau Uwch Swyddogion Cyngor

A.Ff.J. A gaf innau hefyd gyfeirio at yr argymhelliad ddoe i gadw gwell reolaeth ar gyflogau prif weithredwyr o fewn awdurdodau lleol? Felly, a wnewch chi ymuno â fi i longyfarch Cyngor Gwynedd am gadw cyflog y prif weithredwr a’r uwch-swyddogion i lefel gyda’r isaf yng Nghymru, tra ar yr un pryd yn cynyddu tâl i 2,000 o weithwyr sydd ar y cyflogau isaf? Buaswn i’n credu bod hynny’n esiampl dda i bob cyngor; fuasech chi ddim yn cytuno?

L.A. Wel, rwy’n hapus iawn i groesawu camau a gymerir i gadw cyflogau uwch reolwyr llywodraeth leol i lawr, lle bynnag y mae’n digwydd.

Dadl Plaid Cymru: Ffracio

A.Ff.J. Wel, mae’n ymddangos i mi fod yna fwyafrif yn y Siambr heddiw sydd o blaid yr hyn y mae Plaid Cymru yn galw amdano, sef y dylai’r Cynulliad hwn ddatgan yn glir ein bod o blaid moratoriwm ar ffracio yng Nghymru. Mi fyddai’r neges yna yn un gryf ac arwyddocaol, fod y Senedd yma, sydd yn adlewyrchiad o ddewis democrataidd pobl Cymru, ddim am weld ffracio’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a hefyd yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gael yr hawl i weithredu ar y farn honno.

Mae Leanne Wood wedi sôn yn barod am y diffyg democrataidd o ran pŵer y sefydliad yma o gymharu ag ewyllys pobl Cymru. Mae Mick Antoniw wedi sôn am yr un peth yn bwerus iawn. Mi hoffwn i ymhelaethu ar y pwynt yna. Mae’n ymddangos i mi fod yna fwlch mawr rhwng yr hyn y mae gwleidyddion yn ei ddweud ar un llaw, a’r hyn y maen nhw’n ei wneud ar y llaw arall. Mae’r mater yna’n berthnasol i’r ddadl heddiw ar ffracio.

Mewn ymateb i gwestiwn gan lefarydd Plaid Cymru ar hynny, Llyr Gruffydd, dywedodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol wrth y Cynulliad ei fod o a’r Prif Weinidog wedi cynnal nifer o drafodaethau efo Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ynglŷn â rhoi’r pŵer i Lywodraeth Cymru i gyflwyno moratoriwm ar ffracio. Ond, ar ôl i Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, wirio’r datganiad yma efo Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, mae’n ymddangos nad oedd unrhyw gyswllt wedi bod gan Lywodraeth Cymru ar y mater yma o gwbl.

Wrth gwrs, pan gafodd y Blaid Lafur y cyfle i gyflwyno gwelliannau i’r Bil Isadeiledd yn San Steffan, fe gyflwynon nhw welliant i ddatganoli’r pŵer i’r Alban ond nid i Gymru. Mae’n rhaid gofyn, gan gofio sylwadau cryf Mick Antoniw yn ddiweddar, pam nad oedd Aelodau Seneddol Llafur Cymru yn fodlon gwneud y gwelliant hwnnw. Eto, yr hyn sy’n rhyfedd—yn fwy rhyfedd, mewn gwirionedd—yw’r ffaith, pan ddaru Plaid Cymru gyflwyno gwelliant i’r effaith hynny, fe benderfynodd Llafur beidio â chefnogi’r gwelliant. Mae’r sefyllfa’n warthus ac yn chwerthinllyd, a dweud y gwir.

Mae pobl yng Nghymru yn cael eu twyllo yn hyn o beth. A gaf i wneud un peth yn gwbl glir heddiw? Mae Plaid Cymru yn erbyn ffracio. Mae Plaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn ffracio yn y Senedd yma, yn Senedd y Deyrnas Gyfunol ac yn Senedd Ewrop ar bob cyfle posib, a dyna a wnawn ni i’r dyfodol. Rŵan, rwyf yn deall bod yna rai sydd o blaid ffracio ac yn pleidleisio i gyflawni hynny heddiw, ond i rai ohonoch sydd yn dweud eich bod yn ei erbyn, yna bydd eich record bleidleisio yn atseinio’n gliriach na’ch geiriau chi. Diolch yn fawr.

10 Chwefror

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Cefnogaeth i Gyn-filwyr

A.Ff.J. Mae merched a dynion ifanc sydd wedi ymuno â’r fyddin a’r lluoedd arfog wedi dioddef oherwydd brwdfrydedd Llywodraethau San Steffan i fynd i ryfel, gan gynnwys rhyfel anghyfreithlon Irac wrth gwrs. Rydym ni wedi gweld colli bywyd; rydym wedi gweld anableddau difrifol ac, wrth gwrs, salwch meddyliol ymysg cyn aelodau o’r lluoedd arfog. A oes gennych chi wybodaeth fel Llywodraeth beth yw canran y cleifion iechyd meddwl yng Nghymru sydd yn gyn aelodau o’r lluoedd arfog?

C.J. Nid oes ffigwr ynglŷn â hynny gyda fi nawr, ond fe wnaf ysgrifennu at yr Aelod gyda’r ffigwr hwnnw os oes un ar gael...

Datganiad y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth : Datganoli Trethi yng Nghymru—Ymgynghoriad ar Dreth Trafodiad Tir

A.Ff.J. Wel, rwy’n croesawu’r datganiad ac yn cytuno, i raddau helaeth, â’r bwriadau. Mi fydd datganoli dreth dir y doll stamp yn 2018 yn gam arwyddocaol ymlaen i Gymru. Nid bod y swm yn enfawr, ond mae’r cam yn un pwysig ac mae trethi eiddo a thir, wrth gwrs, yn fanteisiol iawn fel ffrydiau refeniw am eu bod nhw’n anodd iawn i’w hosgoi. Ar yr un pryd, mi fydd yn gyfle i ail-lunio’r dreth i gwrdd ag anghenion Cymru, yn unol â’r hyn yr oedd Alun Davies yn ei ddweud yn gynharach.

Hoffwn gyfeirio at eich pumed paragraff, lle'r ydych yn datgan

‘Rwyf yn ceisio "llawr" Barnett a fydd yn darparu cyllid teg i Gymru'.

Rwy'n credu y byddai llawr Barnett yn sicr yn darparu cyllid tecach i Gymru, ond yr unig gyllid teg i Gymru, does bosib, yw cydraddoldeb â’r Alban, a dyna beth sy'n mynd i gadw llyfrgelloedd ar agor, cyllidebau ysgolion yn ddigonol a’r gwasanaeth iechyd yn hyfyw. 

Ond, i droi yn ôl at y dreth, dewis Plaid Cymru yn lle’r doll stamp fyddai cael strwythur mwy blaengar gan wneud i ffwrdd â’r effaith slab, fel mae’n cael ei alw. Fe wyddom ni fod treth fwy blaengar yn mynd i gael ei gweithredu yn yr Alban, ac mae Canghellor y Deyrnas Gyfunol hefyd wedi symud i’r cyfeiriad hwnnw yn natganiad diwedd yr hydref, fel y cyfeirioch chi ato fo. Rwy’n nodi bod y Gweinidog yn ffafrio llwybr tebyg.

Mi ddaeth y newidiadau a gyflwynwyd gan y Canghellor i rym yn syth cyn cyflwyno treth trafodion tir ac adeiladau’r Alban, er bod Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cynllunio a chreu rhagamcanion ar gyfer y dreth newydd honno. Mi fydd newidiadau’r Canghellor nawr yn cael effaith ar refeniw Llywodraeth yr Alban ym mlwyddyn gyntaf y dreth newydd, oherwydd newidiadau mewn ymddygiad na allai Llywodraeth yr Alban fod wedi eu rhagweld. O ystyried hyn i gyd, a ydy’r Gweinidog yn caniatáu digon o hyblygrwydd yn ei hagwedd hi? Rwy’n gwybod ei bod hithau wedi cyfeirio at hynny yn ei datganiad y prynhawn yma.

Yn olaf, mi ddylem ni hefyd ystyried y pwnc prynwyr tro cyntaf. Yn ei datganiad gweinidogol, roedd y Gweinidog yn pwysleisio tegwch, symlrwydd a sefydlogrwydd i drethdalwyr a busnesau wrth gynllunio’r dreth newydd, ond a oes cyfleoedd i ddefnyddio unrhyw agweddau o’r dreth newydd i helpu prynwyr tro cyntaf?

J.H. Diolch i Alun Ffred Jones am ei gwestiynau a hefyd am gydnabod bod hwn yn gam pwysig inni o ran dyfodol datganoli yng Nghymru a bod rhaid inni, gyda'r pwerau newydd hyn, ad-drefnu fel y bo’n briodol...

Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru)

A.Ff.J. Rwy’n falch i gyfrannu at y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, a fu’n gyfrifol am graffu ar y Bil yn ystod Cyfnod 1. Fe glywsom ni gan amryw o randdeiliaid i gasglu eu barn ynglŷn ag a fyddai’r Bil yn cyflawni'r hyn y maen nhw’n yn ei ddisgwyl gan ddeddfwriaeth. Rwy’n diolch i bawb a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor. 

O ran yr egwyddorion cyffredinol, fe fyddwch chi’n gweld o’r adroddiad ein bod ni fel pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Mae’n werth nodi, ar y llaw arall, ein bod ni wedi gwneud 42 o argymhellion sy’n ceisio mynd i’r afael â phryderon bod angen i’r Bil fod yn fwy cyson, yn fwy effeithlon ac, yn fwy na dim efallai, yn fwy democrataidd. Fe fyddaf i nawr yn cyfeirio at rai o’r prif argymhellion hyn.

Un feirniadaeth oedd cymhlethdod y gyfundrefn gynllunio sy’n cael ei hargymell. Mae rhai tystion wedi dadlau fod y trefniadau newydd sy’n cael eu nodi yn y Bil yn ddiangen o gymhleth ac y byddan nhw’n creu strwythur pedair haen o gynllunio. Mae’n werth nodi hefyd y bydd angen pasio 65 o ddarnau o is-ddeddfwriaeth cyn bod y Bil yn weithredol. Mae yna bryderon wedi’u mynegi hefyd fod y strwythur newydd yn gweithredu o’r brig i lawr ac yn rhoi pwerau ychwanegol sylweddol i Weinidogion Cymru. Rydym wedi galw yn y gorffennol am ddiwygiadau i’r system gynllunio, ond, fodd bynnag, mi allai canoli pwerau a diwygio prosesau symud pŵer oddi wrth cymunedau ac unigolion a’i gwneud hi’n anoddach i’r gymuned gymryd rhan yn y system, gan erydu democratiaeth leol. Rwy’n meddwl bod hwn yn rhybudd y dylai’r Llywodraeth ei gymryd o ddifri. Felly rydym ni’n argymell y dylai’r Gweinidog gyflwyno gwelliant i roi statws cynllun datblygu ffurfiol i gynlluniau lleoedd a rhoi rhagor o ystyriaeth i sut gall cymunedau lleol gael mwy o gyfleoedd i gymryd rhan.

O ran diben statudol ar gyfer cynllunio, pan ystyriodd y pwyllgor y Bil drafft, fe argymhellodd grŵp cynghori annibynnol y dylid cynnwys diben statudol ar gyfer cynllunio ar wyneb y Bil. Mae’r Gweinidog yn dadlau bod bodolaeth y Bil yn dileu’r angen am ddiben statudol. Fodd bynnag, oherwydd swmp y dystiolaeth a ddaeth i law, rydym ni’n argymell y dylai’r Gweinidog gyflwyno gwelliant i’r Bil er mwyn cynnwys diben statudol ar gyfer cynllunio ynddo. Rwy’n nodi sylwadau’r Gweinidog, ac yn ddiolchgar amdanyn nhw, parthed y Gymraeg a chynllunio. Mae’r rhain yn gyson ag argymhelliad a wnaeth y Prif Weinidog yn ystod yr haf diwethaf. Fel pwyllgor, rydym ni’n credu fod y Bil yn gyfle i gefnogi twf y Gymraeg ledled Cymru ac y dylai sefyllfa’r Gymraeg yn y system gynllunio gael ei chryfhau i sicrhau cydraddoldeb ag ystyriaethau eraill. Rydym yn cydnabod, ar y llaw arall, y dystiolaeth a gawsom ni na ddylai’r Gymraeg gael ei hystyried uwchlaw pob ystyriaeth berthnasol arall. Oherwydd hyn, mae’r pwyllgor yn argymell y dylai’r Gweinidog gyflwyno gwelliannau i osod gofynion ar y rhai sy'n llunio cynlluniau i gynnal asesiad o effaith cynlluniau datblygu ar y Gymraeg, ac i nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol. Rydym ni hefyd yn credu y dylai Comisiynydd y Gymraeg gael rôl o ran asesu ansawdd yr asesiadau effaith ieithyddol ar gyfer cynlluniau datblygu. Nid yw hynny yr un fath â dweud y dylai’r comisiynydd fod yn ymdrin â cheisiadau cynllunio mewn unrhyw ffordd.

O ran cysylltiadau â chyfundrefnau eraill, sef argymhellion 11 ac 12, mae nifer o dystion wedi galw am wybodaeth fwy pendant am ba fath o gysylltiad a fydd rhwng y gwahanol fathau o gynlluniau sydd wedi’u cynnig ym Mil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Bil Cynllunio (Cymru), a Bil yr amgylchedd a fydd yn dod maes o law. Rydym ni’n pryderu nad oes cysylltiad penodol wedi’i wneud yn y Bil rhwng trefniadau ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth cenedlaethol statudol a’r fframwaith datblygu cenedlaethol newydd a fyddai’n cael ei greu gan y Bil. Felly, rydym ni’n argymell y dylai’r Gweinidog ddod â gwelliannau gerbron i sefydlu cysylltiadau statudol newydd rhwng y systemau hyn.

O ran y parciau cenedlaethol, fel y mae’r Gweinidog wedi sôn, sef argymhelliad 15, yr argymhelliad ydy y dylai’r Gweinidog adael y Bil fel y mae wedi’i ddrafftio o ran y parciau cenedlaethol. Os nad yw’n bwriadu gwneud dim byd ynglŷn â nhw, pam cymryd y cyfrifoldeb a pham rhoi’r pŵer iddo fo’i hun i allu eu dileu neu eu cyfuno â phwyllgorau cynllunio eraill?

O ran y fframwaith datblygu cenedlaethol, sef argymhellion 18 ac 19, un o’r prif newidiadau a wneir gan y Bil yw creu fframwaith datblygu cenedlaethol, sef yr NDF, i gymryd lle cynllun gofodol Cymru. Fel mae’r Bil wedi’i ddrafftio, nid oes raid i’r NDF gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad, ac nid oes raid i Weinidogion Cymru esbonio sut maen nhw’n cymryd barn y Cynulliad i ystyriaeth. Roedd nifer o dystion wedi codi pryderon am hyn, felly rydym ni’n argymell y dylai’r Cynulliad allu pennu ei weithdrefnau ei hun o ran ystyried yr NDF drafft, ac y dylai fod yn ofynnol i’r NDF gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad.

Rwy’n sylwi fy mod i’n mynd i redeg allan o amser, felly fe wnaf i jest gyfeirio at rai o’r meysydd eraill. O ran y cynlluniau datblygu strategol a’r paneli cynllunio strategol, mae yna bryderon ynglŷn ag atebolrwydd ac aelodaeth y paneli. Ond mae yna bryder cyffredinol hefyd ein bod ni’n creu strwythur rhy gymhleth yn y maes yma, ac mae pryderon wedi’u mynegi ynglŷn â’r haen yma.

O ran datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, mae’r Bil yn cyflwyno cyfundrefn newydd o ddatblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, sy’n golygu y byddai Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar rai ceisiadau.

Rŵan ’te, mi glywsom bryderon y gallai diffyg diffiniad ar wyneb y Bil arwain at Lywodraeth yn y dyfodol yn diwygio’r diffiniad er mwyn cyfiawnhau cyflwyno’r categorïau newydd hyn o ddatblygiad. Felly, rydym ni yn argymell y dylai’r Gweinidog gynnwys diffiniad o DNS ar wyneb y Bil yn hytrach nag mewn is-ddeddfwriaeth, ac rydym ni wedi cael ein perswadio hefyd y dylai fod amserlen statudol ar gyfer ystyried DNS gan Weinidogion Cymru.

Mae yna rai materion eraill hefyd yr ydym ni’n cyfeirio atyn nhw. Un ydy datganiadau dylunio a mynediad. Yr argymhelliad yn y Bil ydy dileu y rheini, ond rydym ni wedi cael ein perswadio eu bod nhw â rhan bwysig i’w chwarae yn y broses. Hefyd, mae’r Gweinidog wedi cyfeirio at feysydd tref a phentref, ac rydym ni’n croesawu’r ffaith bod y Gweinidog wedi gwrando ar y dystiolaeth yn hynny o beth.

Felly, at ei gilydd, mae yna gefnogaeth i’r egwyddorion cyffredinol, ond rwy’n credu bod yna bryderon mawr bod y Bil yn canoli pŵer a bod angen iddo fo fod yn fwy democrataidd o ran y sefydliad yma, o ran y Cynulliad ei hun, ond hefyd, er tegwch i awdurdodau lleol a chymunedau hefyd ledled Cymru.

11 Chwefror

Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis

Gwariant ar Addysg

A.Ff.J. Mae ysgol yn fy etholaeth â 40% o’r plant yn dod o gartrefi o amddifadedd uchel—hynny ydy, ymhlith yr 20% gwaethaf yng Nghymru—ond dim ond hanner y plant hynny sy’n derbyn cinio am ddim, er y gallent i gyd, wrth gwrs, dderbyn cinio am ddim, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael effaith sylweddol ar gyllideb yr ysgol. Gan fod yr ysgol a’r plant yn colli allan felly, beth yw eich cyngor chi i’r prifathro?

H.L. Wel, wrth gwrs, mater i’r awdurdod lleol ac i arweinyddiaeth yr ysgol unigol yw mynd ati i geisio unioni problem o’r fath, ac mae’n bosibl nad yw rhieni’n ymwybodol o’r hyn y gallai fod ganddynt hawl iddo, neu eu bod yn amharod i’w hawlio...

Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart

Gwasanaethau Trên

A.Ff.J. O sôn am fuddsoddi, pryd fydd teithwyr rheilffyrdd gogledd Cymru yn cael trenau sydd yn perthyn i’r unfed ganrif ar hugain yn hytrach nag i 1970au’r ganrif ddiwethaf?

E.H. Cyn gynted ag y cawn y pwerau.

 24 Chwefror

 Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

 Cyffuriau drud

 C.J....  Felly, unwaith eto, rwy’n gwneud y pwynt hwn: mae'n hurt dweud, fel y mae Prif Weinidog y DU wedi ei ddweud, bod cyffuriau achub bywyd rhywsut yn cael eu gwrthod i bobl yng Nghymru a’u bod yn marw o’r herwydd. Mae hynny'n anghywir, a heriaf y Blaid Geidwadol i roi un enghraifft o gyffur achub bywyd—cyffur achub bywyd—nad yw ar gael yng Nghymru. Byddant yn aflwyddiannus yn hynny o beth, fel y maen nhw bob amser.

 A.Ff.J. Nid wyf i’n meddwl y bydd teulu Mr Irfon Williams yn diolch i chi am y math o drafodaeth yr ydym ni newydd ei chael ynglŷn â’r cais yma. Mae Mr Irfon Williams, sy’n dad i faban bach, o dan ofal arbenigwr canser yn ysbyty Aintree yn Lerpwl, a’r arbenigwr hwnnw sydd wedi gwneud y cais am y cyffur cetuximab. Rŵan, mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwrthod y cais ac wedi gwrthod ail gais hefyd. Fy nghwestiwn i ydy: oni ddylai ceisiadau anodd fel hyn gael eu gwneud ar lefel Cymru gyfan, yn hytrach na chael eu gadael i fyrddau iechyd lleol, er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch?

 C.J. Yn gyntaf, a gaf i ddweud hyn wrth yr Aelod? Rwy’n credu ei fod e’n wir i ddweud, weithiau, wrth gwrs, bod yna drafodaethau yn digwydd lle’r ydym ni’n anghofio’r unigolyn. Rwy’n derbyn hynny...

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Jane Hutt

Nofio am ddim

A.Ff.J. Pan gyhoeddwyd y rhaglen nofio am ddim dros 10 mlynedd yn ôl, roedd yn un o gonglfeini rhaglen y Llywodraeth ar y pryd, ac mi fu newidiadau dros y blynyddoedd. Yn fy nghyfnod i fel Gweinidog, fe roddwyd blaenoriaeth i hyfforddi plant i nofio o fewn y rhaglen honno. Bellach, mae newidiadau pellach i’r fformiwla sydd yn ariannu’r rhaglen yma. Mae Gwynedd, er enghraifft, yn mynd i golli 40% o’i chyllideb, sydd yn mynd i gael effaith ddifrifol ar blant ac ar henoed y sir, a’u gallu nhw i ddysgu nofio. Gofynnaf, felly, am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog ar y strategaeth a’r newidiadau hyn, sydd yn mynd i gael effaith ddifäol mewn llawer iawn o siroedd yng Nghymru.

J.H. Alun Ffred Jones, nid wyf yn ymwybodol o'r rhesymau am yr effaith hon yn y newidiadau o ran y dyraniadau cyllid. Byddwn yn sicr yn edrych ar hyn, gan fod ein hymrwymiad i fuddion cyffredinol, fel nofio am ddim, wrth gwrs, yn rhan bwysig o'n cyllideb...

Treth ar Waredu i Safleoedd Tirlenwi

A.Ff.J. Rwy’n croesawu’r ymgynghoriad sydd wedi cael ei lansio heddiw, a diolch yn fawr hefyd am y briffio fuodd y bore yma i’r gwrthbleidiau.

Mae llawer iawn o’r cwestiynau wedi cael eu gofyn, ac mae’r atebion wedi bod yn llawn, ac mae’ch datganiad chi yn llawn. A gaf fi jest nodi rhai pethau? Rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn rydych yn ei ddweud: bod busnes a diwydiant angen sicrwydd a thegwch. Mae hynny’n bwysig iawn. Felly, a gaf ofyn pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda diwydiant ynglŷn â’r dreth newydd benodol yma, sydd, wrth gwrs, yn bwysig iawn, iawn I lawer iawn o’n busnesau? Yn sicr, byddai rhywun yn cytuno nad oes cyfiawnhad mewn newid dim ond er mwyn newid yn y sefyllfa sydd ohoni. Rydych wedi cyffwrdd â hyn, ond os bydd strategaeth ailgylchu’r Llywodraeth yn llwyddiannus, ac mae pwyslais ychwanegol ar hynny rŵan, bydd llai a llai o arian yn dod o’r dreth tirlenwi. Sut mae’r Llywodraeth yn mynd I gynnwys hyn yn ei rhag-baratoadau cyllidol i’r dyfodol?

Yn olaf, rwyf i hefyd eisiau cyfeirio at y gronfa gymunedol tirlenwi yma, sydd, ar hyn o bryd, yn cael ei gweinyddu ar draws y Deyrnas Unedig. Byddwn I am wneud un ple: na ddylai defnydd y cronfeydd yma gael ei reoli gan y Llywodraeth yn ganolog. Wedi’r cwbl, mae’r trethi yma wedi cael eu targedu ar gyfer yr ardaloedd hynny lle mae safleoedd tirlenwi. Os ydych eisiau cael trosolwg, a bod defnydd strategol yn cael ei wneud ohonyn nhw, yna mae hynny’n gyfrifoldeb, byddwn i’n awgrymu, i’r cynghorau lleol. Mae gormod o gronfeydd o’r math yma yn cael eu rheoli yn ganolog gan y Llywodraeth, a chanlyniad hynny yw bod ardaloedd cyfan o Gymru, a theuluoedd yng Nghymru, yn cael eu hallgáu o gronfeydd o’r fath ac nid wyf eisiau gweld rhagor o hynny yn digwydd. Ac mi fyddwn ni yn cadw llygad barcud ar hynny wrth i’r ymgynghoriad yma fynd yn ei flaen.

25 Chwefror

Cwestiynau i’r Gweiniog Cyfoeth Naturiool, Carl Sergeant

Allyriadau Carbon Deuocsid

A.Ff.J. Os ydym ni yn mynd i leihau ein hallyriadau carbon, yna mae’n rhaid i ni gynhyrchu mwy o drydan mewn ffordd gynaliadwy i’r dyfodol. Pryd fydd y Llywodraeth yn gosod targedau ystyrlon ar gyfer cynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddol?

C.S. Wel, rydym yn awyddus iawn i gael cymysgedd o ynni. Mae rhaglenni ynni carbon isel yn rhan o’r rhaglen honno. Rwy’n siŵr y gallaf ddibynnu ar gefnogaeth yr Aelod i dechnoleg carbon isel wrth i ni symud ymlaen yma yng Nghymru, yn enwedig yn Ynys Môn