ADRODDIAD MISOL

24/02/2015

AELOD CYNULLIAD ARFON

ALUN FFRED JONES AC

Ionawr 2015

Pigion Dyddiadur Ionawr

Mercher, 7  Ionawr

Cyfarfod pobl fusnes ym Mhrifysgol Bangor efo Dafydd Wigley

Cyfarfod cyhoeddus ym Mangor efo Leanne Wood

Iau, 8 Ionawr

Cyfarfod cadeirydd Coed Cymru, Roger Thomas

Cyfarfod pennaeth Ysgol yr Hendre, Arwel  Jones

Gwener, 9 Ionawr

Efo Hywel Williams AS i gyfarfod swyddogion y Grid Cenedlaethol i drafod y cynllun i gludo trydan o Ynys Môn i Wynedd

Llun , 12 Ionawr

Y Cynulliad yn ail agor

Cyfarfod ynglŷn â’r Mesur Iaith

Mawrth, 13 Ionawr

Prif sesiwn

Y grŵp trawsbleidiol ar Dwristiaeth yn cyfarfod cynrychiolwyr y diwydiant

Mercher, 14 Ionawr

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Prif sesiwn

Cyfarfod ar wella ansawdd meddygfeydd Cymru

Iau, 15 Ionawr

Cyfarfod ynglŷn â sefydlu menter gymdeithasol yn Nyffryn Nantlle

Pwyllgor etholaeth

Gwener, 16 Ionawr

Cynhebrwng John Huw Jones, Llanllyfni

Cymhorthfa, Caernarfon

Cyfarfod cangen Dyffryn Nantlle

Llun, 19 Ionawr

Ymweld â fferm laeth Pengelli Uchaf, Caernarfon efo’r FUW

Mawrth, 20 Ionawr

Cyfarfod enillwyr Gwir Flas Cymru

Prif sesiwn

Mercher, 21 Ionawr

Pwyllgor cyllid

Prif sesiwn

Cinio anrhegu Carole Willis am ei gwaith dros y Blaid

Iau, Ionawr 22

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Gwener, 23 Ionawr

Prifysgol Bangor – Rhwydwaith Ehangu Mynediad

Cyfarfod yn Neiniolen i drafod atal llifogydd yn Rhes Faenol

Ymweld â Chanolfan Bryn Seiont Newydd  (cartref gofal) Caernarfon

Sul, 25 Ionawr

Brecwast FUW, Lleuar Fawr, Penygroes

Llun, 26 Ionawr

Cymorthfeydd, Caernarfon a Bangor

Mawrth, Ionawr 27

Prif sesiwn

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Mercher, Ionawr 28

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Prif sesiwn

Iau, Ionawr 29

Hedfan i Belfast - ymweld â senedd Stormont

Gwener, Ionawr 30

Seminar yn Stormont, cadeiryddion pwyllgorau Cymru a Gogledd Iwerddon

Sadwrn, Ionawr 31

Cyfarfod Undeb Credyd Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor

 

Cwestiynau ac Areithiau yn y Cynulliad

13 Ionawr

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol

A.Ff.J. Pwrpas cynllun trafnidiaeth cenedlaethol ydy creu cysylltiadau effeithiol integredig, effeithiol diogel a chyflym rhwng pob rhan o’r wlad. Rydych wedi cyfeirio at drydaneiddio, ond nid yw trydaneiddio ond yn effeithio ar un coridor yn y de, fel y gwyddom. Felly, a oes bwriad o gwbl, drwy’r cynllun yma, i gyflymu a gwella’r cysylltiadau rhwng de a gogledd ac, yn wir, rhwng gorllewin a de-ddwyrain Cymru? Er enghraifft, mae’r gwelliannau sy’n digwydd ar y rheilffyrdd rhwng Caer a Wrecsam yn costio £40 miliwn, ond nid yw’n mynd i gyflymu dim, hyd y gwn i, ar y cysylltiad yna, sydd bron yn bedair awr, rhwng Bangor a Chaerdydd. Felly, a oes bwriad gan y Llywodraeth, drwy’r cynllun yma, i wella a chyflymu’r cysylltiadau rhwng de a gogledd Cymru?

C.J. Wel, yn gyntaf, wrth gwrs, byddwn o blaid—. Nid yw hyn yn un o ddyletswyddau na chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru, ond byddwn o blaid trydaneiddio rheilffordd y gogledd...,

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Cynulliad Jane Hutt: Dyraniadau Canlyniadol Datganiad yr Hydref

A.Ff.J.  Diolch am y datganiad, er nad oes gennym syniad sut bydd yr arian yma yn cael ei wario er budd pobl Cymru ar hyn o bryd. Mae’ch datganiad chi yn dechrau gyda chŵyn sydd wedi bod yn thema gyson gan Lywodraeth Cymru, sef bod polisi llymder Llywodraeth glymblaid San Steffan yn cael effaith niweidiol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau Cymru. Felly, rwy’n credu ei fod o’n deg i mi ofyn cwestiwn penodol i chi: pe bai Mr Miliband yn arwain Llywodraeth yn dilyn etholiad gyffredinol y Deyrnas Unedig, sut bydd pethau’n wahanol yma yng Nghymru? Pa wahaniaeth fyddai i gyllideb Cymru, er enghraifft, yn y flwyddyn gyntaf ac yn y blynyddoedd sydd yn dilyn, o gofio bod Mr Balls wedi dweud y bydd o yn dileu y ddyled, yn union fel mae’r Torïaid yn ei wneud? Felly, a fuasech chi’n egluro y cyd-destun yna, gan eich bod chi eto yn eich ymateb i’r Torïaid wedi beio y glymblaid am y diffygion yn y gyllideb? Mae’r datganiad yma, unwaith eto, yn cyfeirio at yr adnoddau ychwanegol, y £70 miliwn, sydd eisoes wedi’i glustnodi i’r adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. A wnewch chi gadarnhau mai y byrddau iechyd fydd yn elwa o’r arian yma, ac na fydd dim yn mynd i’r gwasanaethau cymdeithasol. Wrth gwrs, mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn wynebu’r un un pwysau â’r gwasanaeth iechyd, efo twf yn y boblogaeth oedrannus, sydd yn dod â gofynion ychwanegol ar ein gwasanaethau cymdeithasol. A wnewch chi gadarnhau mai dyna ydy eich bwriad chi efo’r £70 miliwn?

O ran yr £8.5 miliwn sydd wedi’i glustnodi ar gyfer addysg, bydd hynny’n cael ei groesawu wrth gwrs, ond dyma’r realiti ar lawr gwlad, er eich bod chi’n dweud eich bod chi wedi gwarchod y gyllideb honno i raddau. Mi oeddwn i mewn ysgol yn fy etholaeth y diwrnod o’r blaen, etholaeth sydd â chanran uchel o’i phlant yn dod o gartrefi difreintiedig yn ôl mynegrif y Llywodraeth, ac roedd o’n dweud—y prifathro—wrthyf i y bydd o’n wynebu toriad o 6% yn ei gyllideb yn ystod y tair blynedd nesaf. Felly, faint o wahaniaeth ydych chi’n credu y bydd yr £8 miliwn yma yn ei wneud i ysgolion Cymru dros y flwyddyn nesaf?

J.H. Diolch yn fawr i Alun Ffred Jones. Nid wyf yn credu y bydd yn syndod i Alun Ffred Jones fod arnaf eisiau ymateb i fy natganiad heddiw,.. 

Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2015-16

A.Ff.J. Diolch am y cyfle i gyfrannu at y drafodaeth yma, ac i wneud yn glir na fydd Plaid Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn. Mae’r setliad llywodraeth leol terfynol yn doriad o bron i £150 miliwn yng nghyfanswm y gyllideb—toriad, fel sydd wedi cael ei ddweud, o 3.4%. O ran y dosbarthiad, mae’n ddiddorol bod y chwech sydd â thoriad o dros 4% yn siroedd gwledig. Nid wyf yn mynd ar ôl y mater pleidiol, ond mae’r chwech ohonyn nhw yn siroedd gwledig. Y rhai sy’n gwneud orau mewn setliad gwael yw’r rhai mwy dinesig, wrth gwrs. Mae hynny’n mynd i gael effaith ddifäol ar wasanaethau ar hyd a lled Cymru.

Wrth gwrs, prif achos y toriadau ydy agenda llymder San Steffan. Hyd y gwelaf i, mae’r tair prif blaid yn Lloegr wedi ymrwymo i barhau â’r llymder hwnnw—er, wrth gwrs, mai nid y gwasanaethau cyhoeddus a achosodd yr argyfwng ariannol sydd yn sail i hyn i gyd. Felly, rwy’n credu bod yna neges y byddem ni am ei rhoi allan yn glir i Lywodraeth nesaf y Deyrnas Gyfunol, bod angen inni warchod y gwasanaethau hynny sydd yn rhoi cefnogaeth i bobl sydd wirioneddol eu hangen nhw.

Mae sefyllfa gyllidol llywodraeth leol yn wybyddus i bawb. Nid ydy fel petai’r toriadau yma yn cael eu gwasgaru rhwng bob man. Mae 40% o gyllideb lywodraeth leol yn mynd ar addysg, ac mae addysg yn cael rhyw gymaint o warchodaeth, sydd ynddi’i hun yn cael effaith ar weddill y gyllideb. Mae tua chwarter y gyllideb yn mynd ar wasanaethau cymdeithasol, ac mae Lynne Neagle wedi nodi yn deg iawn, iawn y pwysau eithriadol sydd ar y gwasanaethau hynny ledled Cymru. Ychwanegwch chi fod dros 10% o’r gyllideb hefyd nad oes dim rheolaeth gan gynghorau arni, mae’n golygu bod y gweddill, felly, yn gorfod cymryd y pwysau. Mae’r ffeithiau yn weddol amlwg gan lywodraeth leol. Mae’r toriadau mawr wedi digwydd, wrth gwrs, ar chwaraeon a hamdden-bron i 27%-mae llyfrgelloedd wedi gweld gostyngiad o 20%, ac mae trafnidiaeth wedi gweld gostyngiad o tua 16%. Hynny ydy, mae’r toriadau mawr yma sydd wedi digwydd yn mynd i barhau i ddigwydd: mae llyfrgelloedd yn mynd i gau, mae canolfannau hamdden yn mynd i gau. A ydym ni’n credu o ddifri mai dyna’r math o gymdeithas rydym eisiau ei chreu yng Nghymru? A ydym ni’n credu o ddifri y bydd hynny’n gwella amodau byw pobl? A ydym ni’n credu y bydd hynny’n gwella iechyd pobl yn y pen draw? Mae’n amheus gen i. Wrth gwrs, ar ben hynny, byddwn ni’n gweld diswyddo gorfodol. Lle mae cynghorau yn trio gwarchod cyflogaeth, wrth gwrs, maen nhw wedyn yn gorfod targedu amodau cyflog y bobl hynny, sydd ynddo’i hun yn creu problem ychwanegol.

Mi fydd cynghorau—ac mae’r Gweinidog mwy neu lai wedi dweud hynny—yn gorfod cynyddu’r dreth gyngor dros y blynyddoedd nesaf, dim ond i geisio cadw rhai o’r gwasanaethau hynny yn hyfyw ac yn effeithiol. Ond mae hynny, yn ei dro, yn cael effaith ar lawer iawn o deuluoedd, gan wybod bod cyflogau isel yn broblem barhaus ym mhob rhan—wel, yn y rhan fwyaf—o Gymru. Yng nghymoedd y de neu yn yr ardaloedd gwledig, mae cyflogau isel yn ffaith na fedrwch chi ei gwadu. Yr unig nodyn cadarnhaol yw bod Llywodraeth Cymru, o’r diwedd, wedi peth perswadio, wedi amddiffyn yr aelwydydd mwyaf bregus rhag talu’r dreth gyngor, er nad oedden nhw, i ddechrau, eisiau darparu’r warchodaeth honno.

Felly, nid yw’n amser da i fod yn gynghorydd, nac, yn sicr, yn amser da i fod yn oedrannus, os ydych chi’n derbyn gofal y gwasanaethau cymdeithasol. Ni allaf weld bod yna—. Dwy ochr o’r un geiniog ydy gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaeth iechyd, ac mae un yn dibynnu ar y llall. Mae tlodi un yn golygu bod yna ragor o bwysau yn mynd i fod ar y gwasanaeth iechyd. Mi fyddwn ni’n ôl yn y cylch dieflig yna rydym mor gyfarwydd â fo. Felly, rydym ni wedi gwrthwynebu cyllideb Llywodraeth Cymru am 2015-16 oherwydd penderfyniad y Llywodraeth ar yr M4. Rydym yn bryderus iawn, iawn ar yr ochr yma am yr hyn sydd yn mynd i ddigwydd yn ein cymunedau ni oherwydd y setliad hwn i lywodraeth leol.

 20 Ionawr

 Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2015

A.Ff.J. Diolch am y cyfle i siarad. Fe gyfeiriwyd y Gorchymyn at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w ystyried, ac mi hoffwn i ddweud ychydig o eiriau ar gasgliadau’r pwyllgor.

 Er ein bod ni’n cefnogi’r egwyddor o roi pwerau i’r Cynulliad i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn perthynas â datblygu cynaliadwy, mi rydym yn bryderus ynghylch y broses a ddilynwyd gan Lywodraeth Cymru i gael y cydsyniad angenrheidiol y tro hwn. Rydym yn deall mai bwriad y Llywodraeth, os caiff y Gorchymyn ei gymeradwyo—rwy’n siŵr y caiff o—yw i gyflwyno gwelliant i Ddeddf Lywodraeth Cymru 2006 trwy Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Roeddem ni wedi ein siomi bod y Gweinidog wedi gosod y Gorchymyn mor hwyr yn ystod y broses o graffu ar y Bil, heb unrhyw rybudd. Nid oeddem, felly, yn gallu ystyried y Gorchymyn ar y cyd â’r Bil.

 Rydym yn credu ei bod yn hanfodol craffu’n ddigonol wrth ddiwygio darn mor arwyddocaol o ddeddfwriaeth, ac y dylai’r broses gynnwys amser i ymgysylltu â rhanddeiliaid. Fe gawsom ni dystiolaeth gan y Gweinidog, ond, oherwydd cyfyngiadau amser a phwysau deddfwriaethol eraill, nid oeddem wedi gallu rhoi cymaint o amser i ystyried y Gorchymyn ag y byddem ni wedi dymuno. Rydym ni’n siomedig nad oedd gennym ddigon o amser i gynnal ymgynghoriad cyflawn nac i gymryd tystiolaeth gan randdeiliaid. Nid ydym yn credu bod hyn yn foddhaol.

 Er ein bod ni’n cefnogi’r egwyddor o roi’r pŵer hwn i'r Cynulliad, nid ydym o’r farn bod y dull a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth yn arfer da. Mi fyddem yn pryderu’n fawr pe byddai hyn yn gosod cynsail ar gyfer cyflwyno unrhyw welliannau i Ddeddf Llywodraeth Cymru yn y dyfodol fel hyn. Ein hargymhelliad yw y dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn glir yn y gwelliant y mae’n bwriadu ei gyflwyno i'r Bil, mai dim ond drwy ddeddfwriaeth sylfaenol y dylai unrhyw newidiadau pellach i adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru gael eu gwneud, er mwyn sicrhau y caiff digon o waith craffu ei gynnwys yn y broses. Diolch yn fawr.

 21 Ionawr

 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant

Prosiect i Ddarparu ar gyfer Effaith Weledol

 A.Ff.J. Mae’r grid cenedlaethol wedi argymell y bydd y gwifrau trydan newydd o Wylfa B ar Ynys Môn yn cael eu gosod o dan afon Menai, sydd, wrth gwrs, yn ardal o harddwch arbennig. Ar ochr Arfon i’r Fenai, dim ond ychydig filltiroedd sydd yna i’r is-orsaf ym Mhentir, a pheth o hwnnw ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. A wnewch chi ymuno â mi i ddwyn pwysau ar y grid i danddaearu’r llinellau hyn o’r Fenai i Bentir?

C.S.  Wel, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae llawer o’r ceisiadau hyn heb eu datganoli, i benderfyniadau a wnaed gan Weinidogion Cymru. Mae’r Aelod yn gwneud ei farn yn hysbys ac mae’n gyson o ran y broses honno...

Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths

Plant o Gartrefi Difreintiedig

A.Ff.JPa gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi i helpu plant o gartrefi difreintiedig? 

L.GDiolch. Bydd buddsoddiad sylweddol yn y blynyddoedd cynnar a gweithredu i wella canlyniadau addysgol drwy raglenni fel Dechrau’n Deg a’r grant amddifadedd disgyblion oll yn cyfrannu at gefnogi plant o gartrefi incwm isel. Mae ein strategaeth tlodi plant ddiwygiedig a’r cynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi yn nodi ein dull cyffredinol o drechu tlodi.

A.Ff.J.  Diolch yn fawr. Rydych wedi cyfeirio at y grant amddifadedd disgyblion, wrth gwrs, sy’n cael ei roi i blant o gartrefi difreintiedig i wella eu cyraeddiadau addysgol nhw, ond mae’r grant yma, wrth gwrs, yn dibynnu ar y plentyn yn derbyn cinio am ddim. Mewn ysgol yn fy etholaeth i, mae 40% o’r plant yn dod o gefndir gyda’r mwyaf difreintiedig, ond dim ond hanner y rheini sydd yn derbyn cinio am ddim. Felly, mae hanner y plant difreintiedig hyn yn colli allan ac mae’r ysgol yn colli allan. Beth mae’r Llywodraeth yn mynd i’w wneud i sicrhau cefnogaeth deilwng i’r plant yma?

L.G.  Wel, mae’n rhywbeth y byddaf yn hapus iawn i’w drafod â’m cydweithiwr, y Gweinidog Addysg a Sgiliau...

27 Ionawr

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Cynulliad, Jane Hutt

Rheilffordd rhwng Wrecsam a Chaer

A.Ff.J. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth ar ailddyblu'r rheilffordd rhwng Wrecsam a Chaer, os gwelwch yn dda? Ceir nifer o bryderon: mae'r ailddyblu wedi ei dorri yn ôl i tua hanner y maint gwreiddiol a addawyd, gan adael tua hanner y pellter ar un rheilffordd o hyd; bydd llawer o'r llwybr yn dal i fod wedi’i gyfyngu i 60 milltir yr awr, a gwariwyd yn sylweddol y tu hwnt i’r costau, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Beth bynnag, mynegwyd yr holl bryderon hyn i ni gan deithwyr, ac rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth i wneud datganiad yn ei gylch.

J.H. Yn sicr, bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, rwy'n siŵr, eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y darn pwysig hwn o reilffordd o ran y gwaith ailddyblu rhwng Wrecsam a Chaer.

Ionawr 28

Cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething

Amseroedd aros mewn adrannau brys

A.Ff.J. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros mewn adrannau brys yng ngogledd Cymru?

V.G. Mae’n parhau i fod yn gyfnod prysur iawn ar adrannau achosion brys yng ngogledd Cymru, fel rhannau eraill o’r DU. Rydym yn disgwyl i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr reoli eu hamgylchiadau lleol a’r pwysau gweithredol, ar sail eu cynlluniau a’u harbenigedd lleol.

A.Ff.J. Diolch yn fawr. Roedd Andy Burnham, ar raglen ‘Today’ y diwrnod o’r blaen, yn dangos anwybodaeth lwyr o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ynghyd â’r holwraig hefyd, os caf i ddweud. Ond mae Andy Burnham, sydd, fel y gwyddoch chi, yn gysgod Weinidog iechyd Llafur yn Lloegr, yn dweud bod y canran o gleifion brys sy’n cael eu gweld o fewn pedair awr yn Lloegr yn argyfwng, ac mae’r lefelau hynny yn 92.5%, fel rwy’n deall. Sut byddech chi’n disgrifio’r canran yng Nghymru sy’n cael ei weld o fewn pedair awr, sef 81%?

V.G. Fel yr eglurais pan ryddhawyd y ffigurau, nid yw’r ffigurau hyn lle’r ydym eisiau iddynt fod o gwbl..