Adroddiad Misol Tachwedd 2014

15/12/2014

PIGION O DYDDIADUR TACHWEDD

Llun 3 Tachwedd

Cyfweliad i Radio Cymru ynglŷn â Pontio

Pwyllgor Cyllid y Cynulliad – trafod y Gyllideb

Cyfweliad am Pontio i Newyddion 9 S4C

Mawrth 4 Tachwedd

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cadeirio cyfarfod Grŵp Cynulliad Plaid Cymru

Sesiwn Lawn

Digwyddiad Stad y Goron

Mercher 5 Tachwedd

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad

Sesiwn lawn

Iau 6 Tachwedd

Pwyllgor Etholaeth, Caernarfon

Gwener 7 Tachwedd

Cyfarfod yr Athro Gareth Wyn Jones, Bangor

Seremoni gwobrwyo MPCT  Bangor – Coleg Hyfforddi’r Lluoedd Arfog

Sadwrn 8 Tachwedd

Bore coffi, Peblig

Sul 9 Tachwedd

Gwasanaeth Sul y Cofio, Eglwys Gadeiriol Bangor

Llun 10 Tachwedd

Cyfarfod Cyngor ar Bopeth Gwynedd a Môn

Mawrth 11 Tachwedd

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad

Cadeirio cyfarfod Grŵp Plaid Cymru

Seremoni Dydd y Cadoediad

Sesiwn Lawn

Mercher 12 Tachwedd

Pwyllgor Cyllid

Sesiwn lawn

Iau 13 Tachwedd

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod blynyddol Antur Nantlle

Gwener 14 Tachwedd

Agoriad Siop Ogwen a Swyddfa’r heddlu, Bethesda

Cymhorthfa, Dyffryn Ogwen

Gwrando ar ddarlith gan Dafydd Wigley, Penygroes

Sadwrn 15 Tachwedd

Cyfarfod etholwyr, Penygroes

Llun 17 Tachwedd

Cymhorthfa, Caernarfon

Ymweld â busnesau yng Nghaernarfon gydag Osborn Jones

Mawrth 18 Tachwedd

Cadeirio cyfarfod Grŵp Plaid Cymru

Sesiwn lawn

Agoriad canolfan newydd ITV Cymru ym Mae Caerdydd

Mercher 19 Tachwedd

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod disgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle ar gyfer rhaglen Hacio S4C

Hedfan i Ddulyn gyda chyd aelodau o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Iau 20 Tachwedd

Ymweld â Senedd Iwerddon, Dail Eireann, i gyfarfod swyddogion ac aelodau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Dail.

Gwener 21 Tachwedd

Cynhadledd grŵp cymorth Asperger / Awtistiaeth Gwynedd a Môn

Sadwrn 22 Tachwedd

Angladd Emlyn Evans, Bethesda, sylfaenydd y cylchgrawn Barn

Llun 24 Tachwedd

Ymweld â fflatiau gwarchod Cae Garnedd, Bangor

Cymhorthfa, Caernarfon

Mawrth 25 Tachwedd

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cadeirio cyfarfod Grŵp Plaid Cymru

Cyfarfod gyda’r Gweinidog Amgylchedd Carl Serjeant

Sesiwn Lawn

Cinio RSPCA                                                 

Mercher 26 Tachwedd

Pwyllgor Cyllid

Grŵp trawsbleidiol ar Bioamrywiaeth

Sesiwn lawn

Annerch digwyddiad Ynni Smart

Iau 27 Tachwedd

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Derbyniad Ynni Anafon, Abergwyngregyn

Gwener 28 Tachwedd

Ymweld â Banc Bwyd, Tesco Caernarfon

Cymhorthfa Caernarfon

Sadwrn 29 Tachwedd

Gêm rygbi Cymru v De Affrica

 

 

 

 

 

 

 

CWESTIYNAU AC AREITHIAU YN Y CYNULLIAD

4 Tachwedd

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

A.Ff.J.

Daeth llythyr y bore yma at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn datgan bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi’i osod ar drydydd gris yr ‘escalation status’, beth bynnag ydy hynny yn Gymraeg, am fod pryderon am dri maes: yn gyntaf, gorwario, gyda rhagrybudd y bydd £27 miliwn dros ei gyllideb erbyn diwedd y flwyddyn yma; yn ail, pryderon am gynlluniau cyfalaf, ac yn drydydd, pryderon am amserau aros. Roeddwn yn gwrando ar y Prif Weinidog yn gynt y prynhawn yma, a’r unig beth y gallaf ei ddweud wrthoch chi yw bod cyfarwyddwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn dweud yn glir bore yma fod amserau aros yng ngogledd Cymru yn achos pryder i’r Llywodraeth yma. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog yn adrodd ar y sefyllfa yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn manylu ar y pryderon sy’n bodoli ac esbonio’r hyn sydd yn digwydd i fynd i’r afael â’r sefyllfa?

J.H.

Credaf fod y Prif Weinidog wedi ateb y cwestiwn hwn yn llawn eisoes o ran ei gyfleoedd, ond dywedaf wrth Alun Ffred Jones fod hyn yn rhan arferol o reoli perfformiad sefydliadau'r GIG, o ran trefniadau dwysáu ac ymyrryd...

Datganiad y Gweinidog Adnoddau Naturiol ar Ailgylchu

A.Ff.J.

 A gaf innau ymuno â’r Gweinidog i longyfarch llwyddiant y gwaith sydd wedi’i wneud ar ailgylchu? Yn sicr mae’n achos dathlu ac yn enghraifft o bolisi cyson sydd wedi’i ariannu’n iawn ac sy’n dwyn ffrwyth. Mae wedi’i gyflawni, dylem bwysleisio, gan gynghorau sir, sy’n cael eu beirniadu mor aml yn y Siambr. Yr her—ac mae hi’n her go iawn—fydd cynyddu’r canrannau o’r 52% presennol i 64% erbyn 2019-20. Mae’n mynd i fynd yn fwy anodd ac, yn yr achos hwn, nid oes dwywaith bod cyfathrebu a chael gwell dealltwriaeth gan y cyhoedd yn allweddol. Y cwestiwn sydd gen i yw hyn. A yw’r Gweinidog yn barod i ystyried cynnal ymgyrch gyfathrebu genedlaethol er mwyn gwella dealltwriaeth pobl o’r angen i ailgylchu? 

Mae cyfeiriad wedi bod at y glasbrint, sy’n dilyn newidiadau yn neddfwriaeth Ewrop, a’r pwyslais ar gael un dull cyson ar draws Cymru o gasglu. Byddwn yn atgoffa’r Gweinidog bod adroddiad gan y pwyllgor amgylchedd 10 mlynedd yn ôl a oedd yn argymell bod y Llywodraeth yn creu un system gyffredin drwy Gymru, a’r system honno oedd gwahanu y deunydd ailgylchu ar ochr y ffordd. A fyddai’r Gweinidog yn cydnabod bellach mai camgymeriad oedd peidio â gwneud hynny bryd hynny a rhoi arweiniad clir i’r awdurdodau lleol?

 

Yn drydydd, mae’r Gweinidog, yn berffaith iawn, wedi cyfeirio at fanteision yr economi gylchol a’r ffaith bod deunydd o safon sy’n cael ei ailgylchu yn cael gwell pris. Nid oes enghreifftiau yn ei ddatganiad o le y mae hyn yn gweithio’n dda. Faint o’r deunydd sy’n cael ei ailgylchu yng Nghymru sy’n cael ei werthu i a’i drin gan gwmnïau o Gymru? Wedi’r cwbl, os yw’r rhan fwyaf o’r deunydd hwn yn cael ei allforio i’w werthu i gwmnïau yn Lloegr—ac rwy’n amau mai dyma’r sefyllfa—yn sicr nid ydym yn cael y fantais lawn o gofio’r gost sy’n ymwneud ag ailgylchu. A oes gan y Llywodraeth unrhyw ffigurau yn dangos faint o’r deunydd hwn sy’n cael ei ailgylchu yng Nghymru?

Yn olaf, gan gyfeirio at ailgylchu deunydd gwyrdd yr oedd Ann Jones yn cyfeirio ato, nid oes dwywaith bod hwn yn wasanaeth sy’n cael ei werthfawrogi, ond rhaid imi ddweud y dylem fod yn annog pobl i gompostio eu deunydd gwyrdd adref. Dyna’r peth call i’w wneud. Mae’n llai o gost, mae’n llai o dreth ar yr amgylchedd ac, mewn gwirionedd, mae’n hollol wrthgynhyrchiol mynd â lorïau o gwmpas y wlad yn casglu’r deunydd gwyrdd hwn pan y gallai’r rhan fwyaf ohono fod yn cael ei ailgylchu yn y cartref.

5 Tachwedd

Cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gethin

Gwasanaethau Aciwt  yn Ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

A.Ff.J. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar wasanaethau acíwt yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

V.G. Diolch am y cwestiwn. Mae gwasanaethau aciwt yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Rwy’n disgwyl i fyrddau iechyd ddarparu gofal o ansawdd uchel yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn y lleoliad mwyaf priodol.

A.Ff.J. Diolch yn fawr. A ydych yn cydnabod mai’r barn feddygol yw y dylai trigolion fyw o fewn taith awr o ganolfan trawma ac uned achosion brys ac, os felly, bod sicrhau gwasanaeth o’r fath ym Mangor yn gwbl angenrheidiol i wasanaethu poblogaeth y gogledd-orllewin yn ddiogel?

V.G. Diolch am y cwestiwn dilynol. Mae’r her o redeg gwasanaethau ysbytai, nid yng ngogledd Cymru’n unig ond ar draws Cymru, yn un y mae’r Siambr hon wedi ei hystyried ar nifer o achlysuron, fel y gwnaeth y pwyllgor iechyd mewn amryw o ffyrdd hefyd...

Dadl Plaid Cymru: Yr Economi

A.Ff.J.

Wrth ymateb i Araith y Frenhines eleni, galwodd Plaid Cymru am Fil tegwch economaidd a fyddai’n mynd i’r afael â statws y Deyrnas Unedig fel gwladwriaeth fwyaf anghyfartal Ewrop, i gydbwyso’r economi fel nad yw’r holl gyfoeth yn aros yn Llundain a’r de-ddwyrain. Gwrandawais ar Eluned Parrott a’i dadansoddiad hi o’r cynnig a’r angen i fod yn fwy manwl o ran yr hyn yr oeddem yn ei feddwl; credaf fod pawb yn deall bod anghyfartaledd economaidd dybryd, nid yn unig ar raddfa ranbarthol, ond hefyd yn unigol, fel cyfoeth y pen, rhwng y de-ddwyrain a Chymru, ond hefyd a’r rhanbarthau eraill yn Lloegr, a bod yn hollol deg.

Byddai Plaid Cymru am ddeddfu i roi dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i greu polisi economaidd sy’n lefelu cyfoeth y pen ac a fyddai’n creu economi decach o ran ffyniant ac o ran cyfle. Y gwir amdani, dan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol yn Llundain, yw bod cyfoeth wedi ei bolareiddio ar lefel yr unigolyn ac ar lefel ranbarthol. Rydym i gyd yn gwybod mai canol Llundain yw’r ardal gyfoethocaf yn yr Undeb Ewropeaidd, tra bod rhai cymunedau Cymreig bellach yn dlotach na gwledydd cyn-gomiwnyddol. Er bod Eluned Parrott, unwaith eto, yn dweud bod yr un patrwm i’w weld mewn gwledydd eraill, mae’r patrwm yn fwy amlwg yma yn y Deyrnas Gyfunol, a dyna’r hyn rydym yn ceisio ymateb iddo yn y cynnig hwn, a gyda’r awgrym o greu Bil tegwch economaidd..

Rydym wedi clywed bod y gwasanaeth bancio wedi ei ganoli yn Llundain a’r de-ddwyrain, ond mae hwnnw wedi ei atgyfnerthu ar ôl y cwymp economaidd yn 2008, tra bod cryfderau traddodiadol yr economi Cymreig yn parhau i fod yn wan—mae cynnyrch diwydiannol 15% yn is a gweithgynhyrchu 10% yn is na’r lefelau cyn y cwymp. Mae’r ffeithiau hyn yn feirniadaeth ddamniol o fethiannau economaidd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a derbyn y cyd-destun rhyngwladol.

Yn amlwg, byddai Bil fel hwn yn ceisio symud pwyslais yr economi oddi wrth y gwasanaethau ariannol a thuag at gynhyrchu a pheirianneg, gan dderbyn eto y pwynt a wnaethpwyd ynglŷn â’r economi werdd gan Alun Davies, a hefyd yn cyfeirio gwariant a buddsoddiad mewn isadeiledd at yr ardaloedd hynny lle mae’r GVA isaf.

Mae’r mater hwn o dargedu buddsoddiad cyfalaf ar yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf yn fater pwysig ac allweddol, achos rydym yn gweld gwariant ar hyn o bryd yn cael ei gyfeirio at Lundain, gwariant anferthol fel y cynlluniau ar gyfer rheilffordd HS2, sy’n cael ei ystyried yn wariant Prydeinig efo dim ‘consequential’ i Gymru. Eto, mae’r budd yn dod, hyd y gwelwn ni ac fel sy’n digwydd dro ar ôl tro, i un ardal yn unig, sef Llundain a’r de-ddwyrain. Dyna yw un o’r pethau y mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig—tra bod Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig—fynd i’r afael ag ef.

Rwyf am wneud un sylw pellach cyn fy mod yn gorffen. Mae’r anghyfartaledd a welwn yn yr economi Brydeinig hefyd yn dueddol o ddigwydd yng Nghymru, lle mae tuedd i ganolbwyntio ar goridor yr M4, lle mae’n gymharol hawdd—neu’n haws o leiaf—i greu twf economaidd. Rydym am weld polisi Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio dod â thegwch i bob rhan o Gymru, ac yn sicr yn peidio ag ailgreu y methiant sydd wedi digwydd ar lefel Brydeinig. Rydym am weld twf felly yn cael ei ymestyn y tu hwnt i’r de-ddwyrain yng Nghymru hefyd.

11 Tachwedd

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Hyrwyddo Twristiaeth

A.Ff.J.

Mae busnesau Caernarfon wedi cael haf llwyddiannus, ac mae’r gwaith y mae Cadw wedi’i wneud ger muriau’r castell, mewn ardal sy’n cael ei adnabod fel ‘the south of France’, wedi cael croeso mawr. Fodd bynnag, mae angen byrddau dehongli yno. Mae safle hefyd y tu ôl i swyddfa’r harbwrfeistr ar y Cei Llechi sy’n dal angen ei ddatblygu. Mae hwnnw’n allweddol gan ei fod drws nesaf i’r castell. A wnewch chi sicrhau bod eich adrannau chi yn manteisio ar bob cyfle i edrych am bosibiliadau i wella’r amgylchedd yn nhref hynafol Caernarfon?

C.J.

Gofynnaf i’r Gweinidog i ysgrifennu atoch chi o ran y manylion, ond wrth gwrs mae Caernarfon wedi gweld newidiadau mawr, ac nid dim ond o ran y ffaith bod y castell yno, ond hefyd o ran beth sydd wedi digwydd yn noc Fictoria...

12 Tachwedd

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt

Fformiwla Barnett

A.Ff.J.

Rydych wedi cyfeirio at adroddiad yr Institute for Fiscal Studies, sydd yn cael ei adrodd yn y ‘Financial Times’ y bore yma ac yn y ‘Western Mail’, sy’n profi unwaith eto bod fformiwla Barnett yn gweithio yn erbyn buddiannau Cymru—a buddiannau Lloegr, fel mae’n digwydd, hefyd. A ydych chi wedi cynnal trafodaethau ar lefel gweinidogol gyda Llywodraeth San Steffan i ddiwygio fformiwla Barnett?

J.H.

Rwy’n falch fod Alun Ffred Jones wedi tynnu sylw at hyn heddiw. Wrth gwrs, fy ffocws pennaf ar hyn o bryd yw sicrhau cyllid teg i Gymru ac i sicrhau’r cyllid gwaelodol y cytunodd pawb yn y Siambr hon sy’n allweddol er mwyn mynd i’r afael ag anfanteision fformiwla Barnett  fel y caiff ei chymhwyso yng Nghymru...

A.Ff.J.

Rydym i gyd yn cytuno â’r hyn a ddywedoch chi, ond nid ydych yn ateb fy nghwestiwn i. Y cwestiwn a ofynnais i oedd: sawl cyfarfod a ydych chi wedi’u cynnal gyda swyddogion, neu ar lefel gweinidogol, gyda Llywodraeth San Steffan yn pledio’r achos i newid fformiwla Barnett? Felly, a allwch ateb: sawl cyfarfod sydd wedi bod, neu sawl llythyr ydych chi wedi eu hanfon, i ofyn i ddiwygio’r fformiwla?

J.H.

Rwy’n meddwl bod y cynnydd pwysig rydym wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, a lwyddais i, fel eich Gweinidog cyllid, i’w sicrhau yn y cyd-ddatganiad diwygio cyllid yn 2012, yn gydnabyddiaeth gan Lywodraeth y DU y bu cydgyfeirio yn sgil fformiwla Barnett ar gyllid cymharol Cymru ers dechrau datganoli, a bod tebygolrwydd uchel o gydgyfeirio pellach yn y dyfodol oni bai ein bod yn ei atal...

Awdurdod Refeniw i Gymru

A.Ff.J.

Wrth sefydlu’r corff awdurdod refeniw i Gymru, fe fydd cost ynghlwm â hyn. A ydych chi wedi gofyn i’r Trysorlys am gyfran o’i gyllideb fel cyfraniad tuag at y gost hon o gofio y bydd yn gwneud llai o waith? Os felly, beth oedd yr ymateb?

J.H.

Mae’r costau trosglwyddo wedi bod yn rhan o fy nhrafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Yn ddiddorol, o ran Deddf yr Alban 2012 a’r pwerau treth newydd a sicrhaodd, ni chododd yr Alban fater costau, ond yn sicr gwnaethom ni hynny...

Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews

Y Gyllideb Ddrafft

A.Ff.J.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith y gyllideb ddrafft ar lywodraeth leol? 

L.A.

Cyhoeddais y setliad llywodraeth leol amodol ar 8 Hydref. Mae’n rhoi’r wybodaeth i awdurdodau sydd ei hangen arnynt i baratoi eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dylai awdurdodau drafod â’u cymunedau fel rhan o’r broses honno.

A.Ff.J.

Mae’r cynghorau sir wedi bod yn gwneud arbedion sylweddol ers blynyddoedd, ac y mae’r ergyd ddiweddaraf hon—ergyd o £190 miliwn—yn mynd i gael canlyniadau difrifol ar wasanaethau statudol ac anstatudol. Yn wyneb adroddiad y Farwnes Andrews, a oedd yn cael ei drafod ddoe, sy’n pwysleisio pwysigrwydd llyfrgelloedd, amgueddfeydd a gweithgaredd celfyddydol i ddatblygiad plant ac ieuenctid, sut y byddwch yn sicrhau bod cynghorau yn cynnal y gwasanaethau hyn yn wyneb y setliad gwael y mae llywodraeth leol wedi’i gael?

L.A.

Mae’r rhain yn faterion y bydd yn rhaid i bob awdurdod lleol eu hystyried yng nghyd-destun eu blaenoriaethau eu hunain. Wrth edrych dros y cynigion a ddaw gan gynghorau ledled Cymru—rhai sy’n cael eu rhedeg gan ei blaid ef a rhai sy’n cael eu rhedeg gan bleidiau eraill—gwn eu bod yn mynd ati i edrych ar y ffyrdd gorau o ddarparu’r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd... 

18 Tachwedd

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Awtistiaeth

A.Ff.J.

Mae nifer o achosion wedi dod i fy sylw i yn fy etholaeth gan rieni sy’n nodi bod ysgolion yn gwrthod neu’n methu ag adnabod cyflwr ac anghenion plant yn y maes hwn. Mae amryw o rieni yn gorfod mynd yn breifat, hyd yn oed, er mwyn cael diagnosis cyn bod ysgolion yn fodlon cydnabod a chyn eu bod yn ymateb gyda rhaglen briodol. Pa arweiniad rydych chi, fel Llywodraeth, yn ei rhoi i awdurdodau lleol i sicrhau bod plant gyda’r cyflwr hwn yn cael eu hadnabod ac yna bod awdurdodau lleol yn ymateb yn briodol?

C.J.

Byddwn yn erfyn iddynt sicrhau eu bod yn adnabod y plant hyn. Nid wyf yn deall pam y byddai’n rhaid mynd yn breifat i gael diagnosis. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn rhoi’r gwasanaethau y dylent eu rhoi i blant ag anghenion arbennig a phlant awtistaidd. Felly, os oes enghraifft o le nad yw hynny’n digwydd, rwy’n siŵr y byddai’r Gweinidog am wybod amdano.

Y GYLLIDEB DDRAFFT 2015-16

A.Ff.J.

Fel mae eraill wedi cyfeirio, cefndir y gyllideb hon yw’r wasgfa ariannol sy’n dod o Lundain. Bydd pobl gyffredin yn gweld dirywiad yn eu gwasanaethau tra bo’r bobl a oedd yn gyfrifol am greu’r dirwasgiad—y marchnadoedd arian direol ac anfoesol, a gafodd eu mawrygu, gyda llaw, gan y Blaid Lafur pan oedd mewn Llywodraeth—yn dal i dorri cyfraith ryngwladol heb i neb eu cosbi a heb i neb godi llais yn eu herbyn. Fel y dywedodd Mick Antoniw yn glir iawn, mae’r cyfoethog yn dal i ymgyfoethogi ac mae’r tlotaf yn mynd yn dlotach.

Wrth wrando ar y Gweinidog, gallech feddwl bod rhagor o arian yn mynd i gael ei wario ar bob gwasanaeth yng Nghymru. Mae yna arian ychwanegol, mae’n debyg, i wasanaethau cymdeithasol ac mae addysg yn cael ei warchod. Os felly, sut mae’r cynghorau sir yn mynd i ddelio â’r £190 miliwn y maent yn mynd i’w golli'r flwyddyn nesaf? Os bydd gwario ychwanegol ar wasanaethau cymdeithasol, ac mae’r galw’n fawr, ac addysg yn cael ei gynnal, mae hynny’n 60% o gyllideb llywodraeth leol. Mae’r toriadau ar bopeth arall yn mynd i fod yn ffiaidd. Yn wir, cyn i George Osborne gael gafael ar y £45 biliwn ychwanegol hwn, bydd pob llyfrgell, canolfan hamdden, pwll nofio, theatr, canolfan ddydd a phob gwasanaeth bws gwledig o dan fygythiad. Dyna yw’r realiti a fydd yn wynebu rhai o’n cynghorau’r flwyddyn nesaf. Mae’r Gweinidog yn sôn am benderfyniadau anodd i’r Llywodraeth, ond y gwir amdani yw mai cynghorwyr a chynghorau sir Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau anodd hynny, a’r rheiny fydd yn gorfod wynebu y bobl wrth iddynt weld eu gwasanaethau yn dirywio ac yn pellhau oddi wrthyn nhw, ac mi fydd y Llywodraeth wedi golchi ei dwylo o hynny.

Y symudiad mawr yn y gyllideb yw’r £225 miliwn ychwanegol i’r gwasanaeth iechyd y flwyddyn nesaf. Mae’r Gweinidog yn dadlau mai adroddiad Nuffield arweiniodd at y penderfyniad hwn, a hefyd wrth gwrs dyna sy’n esbonio’r £200 miliwn sydd wedi’i gribinio at ei gilydd eleni i lenwi’r twll yng nghyllideb y byrddau iechyd. Fodd bynnag, dylai’r Gweinidog—ac nid yw wedi gwneud o gwbl hyd y gwelaf i—gyfeirio at adroddiad yr archwilydd cyffredinol eleni ar y gwasanaeth iechyd, a oedd wedi adnabod y gorwario yma ac yn ei amcangyfrif yn £192 miliwn ar y pryd. Felly, mewn gwirionedd, mae’r arian ychwanegol eleni yn mynd i lenwi twll. Y cwestiwn sydd yn ein hwynebu ni i gyd yw: pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd yr arian ychwanegol yn arwain at newidiadau a fydd yn gwella’r gwasanaethau i bobl gyffredin?

 

Yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, clywsom fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn debygol o orwario £60 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, ac yn dynn ar ei ôl y bydd bwrdd iechyd Hywel Dda, sy’n debygol o orwario £40 miliwn. Dyna i chi hanner yr arian newydd wedi diflannu yn barod. Efallai ei bod yn berthnasol mai dau fwrdd iechyd yw’r rhain sydd yn gwasanaethu ardaloedd gwledig. Cyfeiriwyd at fformiwla Townsend fel yr un a fydd yn sail i ddosbarthu’r arian ychwanegol yma, ond roedd swyddogion y gwasanaeth iechyd yma yn cyfaddef bod honno hefyd yn wallus.

A derbyn bod y Llywodraeth mewn lle anodd ar ôl methu perswadio ei phlaid ei hun pan yr oedd mewn Llywodraeth i gywiro annhegwch fformiwla Barnett—rwy’n clywed Gweinidogion ac Aelodau yn gweiddi ynglŷn â Barnett, ac yn hollol deg ynglŷn â hynny—y gwir amdani yw, tra yr oedd y Blaid Lafur mewn Llywodraeth yn Llundain, ni wnaeth unrhyw beth i ddiwygio fformiwla Barnett, heb sôn am gysoni’r gwario rhwng Cymru a’r Alban.

 

Felly, mewn sefyllfa argyfyngus fel hon, byddwn yn disgwyl i’r Llywodraeth edrych yn fanwl ar bob rhaglen er mwyn asesu eu gwerth a’u heffeithlonrwydd. Ond, o holi’r Gweinidog, deallwyd mai dim ond un cynllun pitw bach sydd wedi ei derfynu ymhlith holl raglenni'r Llywodraeth—un cynllun, tra’n condemnio ein cynghorau sir ni i flwyddyn arall o doriadau milain i wasanaethau sy’n cynnal pobl go iawn ledled Cymru.

25 Tachwedd

Effaith Dwygiadau Lles Llywodraeth y DU yng Nghymru

Ymyriad yn araith Alun Davies AC

 A.Ff.J.

Diolch yn fawr iawn am adael i mi ymyrryd. Rwy’n cytuno â’th ddadansoddiad di, ond mae’r Blaid Lafar wedi datgan y bydd yn glynnu at batrwm gwario’r glymblaid hon am ddwy flynedd. Sut bydd hynny’n gwella cyflwr y bobl yr wyt ti newydd fod yn siarad amdanyn nhw?

A.D.

Rydym yn gwybod nad polisi yn unig yw’r rhaglen hon, ond athroniaeth y mae’r blaid Geidwadol wedi’i dilyn ers blynyddoedd lawer...