Adroddiad Misol

10/11/2014

Croeso i rifyn Hydref o’r adroddiad misol ar fy ngwaith fel A.C. Arfon. Un o achosion pwysicaf y mis oedd adfer y gwasanaeth bysys gyda’r nos o Fangor i ddyffryn Llanberis. Ar ôl ymgyrch egnïol gan bobl leol, a chyfarfodydd a gynhaliodd Hywel Williams AS a minnau gyda Chyngor Gwynedd, fe lwyddwyd i gael y maen i’r wal. Llongyfarchiadau i’r Cyngor am ganfod ffordd o ddatrys y broblem ynghanol yr argyfwng  ariannol llym.

Datblygiad pwysig yn y Cynulliad oedd cael y pedair plaid i gytuno ar y ffordd ymlaen  yn y broses ddatganoli. Mae’n anodd rhagweld beth fydd diwedd yr ysgytwad cyfansoddiadol a achoswyd gan refferendwm yr Alban, ond mae’n dda gweld undod ymhlith gwleidyddion Cymru ynglŷn â’r cam nesaf.

PIGION DYDDIADUR HYDREF    

Mercher, 1 Hydref

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod Llawn

Iau, 2 Hydref

Pwyllgor Cyllid

Pwyllgor Etholaeth, Caernarfon

Gwener, 3 Hydref

Cymhorthfa, Caernarfon

Diwrnod agored Y Bont, Penygroes (Asiantaeth cefnogi teuluoedd)

Ymweld â swyddfa Grŵp Cynefin (Cymdeithas Tai)

Pwyllgor Gwaith Codi’r To

Sadwrn, 4 Hydref

Cyfarfod etholwyr, Llanllyfni.

Llun, 6 Hydref

Cyfarfod Elen ap Robert i drafod Pontio

Cyfarfod yn Llanberis i drafod y gwasanaeth bysys

Recordio rhaglen Sharp End, ITV Wales

Mawrth, 7 Hydref

Cadeirio cyfarfod Grŵp Plaid Cymru

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyfarfod cyflwyno Beibl William Morgan i’r Cynulliad

Cyfarfod Llawn

Mercher, 8 Hydref

Pwyllgor Cyllid

Cyfarfod Llawn

Iau, 9 Hydref

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Gwener, 10 Hydref

Cynhadledd Cymdeithas Amgueddfeydd Prydain yng Nghanolfan y Mileniwm

Llun, 13 Hydref

Cyfarfod ynglŷn â gwasanaeth bysys Llanberis

Mawrth, 14 Hydref

Cadeirio cyfarfod Grŵp Plaid Cymru

Cyfarfod Llawn

Mercher, 15 Mawrth

Cyfarfod Llawn

Iau, 16 Mawrth

Pwyllgor Cyllid

Cyfarfod Llysgennad yr Eidal

Gwener, 17 Hydref

Cyfarfod swyddogion Cyngor Gwynedd i drafod gwasanaeth bysys Llanberis

Cymhorthfa, Caernarfon

Recordio Wales Report ar gyfer Radio Wales

Sadwrn, 18 Hydref

Trafodaeth y W.I. ar fwyd, Plas Tanybwlch

Llun, 20 Hydref

Cyfarfod gyda Scottish Power i drafod y cyflenwad trydan i ystâd Cibyn

Mawrth, 21 Hydref

Cyfarfod ynglŷn â chynaladwyedd y trydydd sector

Cadeirio cyfarfod Grŵp Plaid Cymru

Cyfarfod Llawn

Recordio ar gyfer Rhaglen Dewi Llwyd, Radio Cymru

Mercher, 22 Hydref

Pwyllgor Cyllid

Cyfarfod Llawn

Iau, 23 Hydref

Traddodi’r deyrnged yn angladd Elwyn Jones Griffiths

Gwener, 24 Hydref

Cymhorthfa, Caernarfon

Rhaglen O’r Bae, Radio Cymru

Sadwrn, 25 Hydref

Cynhadledd Plaid Cymru, Llangollen

Llun, 27 Hydref

(Wythnos hanner tymor y Cynulliad)

Cyfarfod yng ngorsaf drenau Bangor – dirywiad y gwasanaeth rhwng de a gogledd Cymru

Gwener, 31 Hydref

Cymhorthfa, Caernarfon

Ymweld â gwaith carthffosiaeth Caernarfon

CWESTIYNAU AC AREITHIAU YN Y CYNULLIAD

1 Hydref

Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford

Paneli Adolygu Byrddau Iechyd Lleol

 A.Ff.J. Pwy sy’n penodi’r paneli hyn a sut mae cael gwybodaeth am eu haelodaeth?

M.D. Mae'r paneli ... yn cael eu penodi gan y Byrddau Iechyd Lleol eu hunain. Hysbysebir eu haelodaeth yn uniongyrchol ar wefannau Byrddau Iechyd Lleol.

7 Hydref

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Cyllido Teg

A.Ff.J. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyllido teg i Gymru? 

C.J. Mae datrys y broblem cyllido teg yn parhau i fod yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru.

A.Ff.J. Mae cyllido teg yn golygu newid i fformiwla Barnett. Nid yw’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud dim ar y mater, mae Nick Clegg yn dweud nad yw am ddadbwytho’r fformiwla—beth bynnag ydy ystyr hynny—ac mae arweinydd eich plaid chi, Ed Miliband, yn dweud ei fod yn barod i edrych ar y mater. Er eglurder i bobl Cymru, a allwch chi ein cyfeirio ni at nodyn, llythyr neu e-bost lle mae Ed Miliband wedi dweud y bydd yn gwneud iawn am y diffyg hwn o £300 miliwn rydych chi wedi ei adnabod yn y fformiwla?

C.J. Os cofiaf, fe ddywedodd hynny mewn cyfweliadau cyhoeddus yn y cyfryngau... Yr hyn sy’n bwysig i ni fel Llywodraeth yw bod yr arian y mae Cymru’n ei haeddu yn dod i Gymru ac nid yw’r ffordd y bydd hynny’n digwydd mor bwysig...

Buddsoddi i Arbed 2014

A.Ff.J. Mae arbed trwy fuddsoddi’n amlwg yn gynllun gwerthfawr iawn. Y gamp, wrth gwrs, yw profi ei fod yn gwneud dau beth, sef gwella’r gwasanaeth i’r bobl ac arbed arian ar yr un pryd. Mae’r benthyciadau hyn—dyna ydyn nhw: benthyciadau—i’w had-dalu, wrth gwrs, a hyd yn hyn, rhyw 50% o’r arian sydd wedi ei ad-dalu. A ydych chi’n ystyried bod hynny’n foddhaol fel canran, hyd yn hyn, a derbyn pwynt Mike Hedges y bydd rhai o’r cynlluniau hyn yn sicr o fethu â chyrraedd y nod.

O ran y gwerthusiad annibynnol, mae rhai cynlluniau lle mae’r arian i’w ad-dalu ar ôl i’r arbedion ddigwydd ac eraill lle mae’r arian yn gorfod cael ei ad-dalu mwy neu lai yn syth. Pam gwahaniaethu rhwng cynlluniau fel hyn? Gan eich bod yn mynd i roi rhestr o gynlluniau a’u llwyddiant i’r Pwyllgor Cyllid, pam na wnewch chi gyhoeddi’r rhestr honno fel bod modd i’r cyhoedd weld beth sy’n digwydd i’r arian hwn sy’n cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus?

Rydych chi wedi cyfeirio at y ffaith bod y rhan fwyaf o’r prosiectau hyn bellach yn y gwasanaeth iechyd. Ychydig iawn ohonynt sydd mewn llywodraeth leol. Eto, yn ôl y gyllideb ddiweddaraf, mae angen yr arbedion llawn cymaint mewn llywodraeth leol. Beth ydy’r rheswm bod cyn lleied o brosiectau yn dod o lywodraeth leol, gan gofio ym mlwyddyn gyntaf y cynllun hwn mai llywodraeth leol oedd yn manteisio fwyaf arno?

Mae'r adroddiad gwerthuso yn dweud, ym mharagraff 3.38,

Nid yw o fewn cylch gwaith y gwerthusiad hwn i ddadansoddi yn fanwl y perfformiad o ran ad-daliad ariannol.

Tybed pam nad yw hyn wedi'i gynnwys yng nghylch gorchwyl y gwerthusiad a phryd y byddwch yn comisiynu dadansoddiad o ad-dalu.

Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth:

Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig dweud bod buddsoddi i arbed yn ymwneud â gwella gwasanaethau ac arbed arian ar yr un pryd, ond mae'n ymwneud hefyd â chyfleoedd i dreialu ffyrdd newydd o weithio, yn enwedig oherwydd y meini prawf o ran arloesi a chydweithio. ..

8 Hydref

Cwestynau i Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

A.Ff.J. Mae’r gyllideb ddrafft yn rhoi £225 miliwn yn ychwanegol i’r gwasanaeth iechyd y flwyddyn nesaf. Ar yr un pryd, mae toriad o dros £150 miliwn i grant refeniw cynghorau lleol. Pa werthusiad yr ydych wedi’i wneud i effaith tebygol y cwtogi llym hwn mewn llywodraeth leol ar y galw o fewn y gwasanaeth iechyd?

J.H. Yn amlwg, mae'n bwysig eich bod chi, unwaith eto, yn cydnabod y £225 miliwn rydym yn ei ddyrannu i'r gwasanaeth iechyd...

A.Ff.J. Fy nghwestiwn i oedd: pa effaith fydd y toriadau yn ei gael ar y galw o fewn y gwasanaeth iechyd? Fodd bynnag, gadewch inni symud ymlaen at y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Y llynedd, fel cam tuag at well cydweithrediad rhwng y ddau wasanaeth, cyflwynwyd y gronfa gofal canolraddol, yr ‘intermediate care fund’. Beth fydd rhagolygon y gronfa hon a sut fydd y newidiadau yn cryfhau’r cydweithio rhwng y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol?

J.H. Wel, wrth gwrs, dyma ni ym mlwyddyn y cytundeb a oedd gennym i ariannu cronfa gofal canolraddol i helpu i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ac i helpu i hybu’r gwaith o integreiddio a hyrwyddo'r newidiadau a oedd eu hangen a oedd yn hysbys i ninnau fel hwythau, ac rydym yn gweld canlyniadau hynny...

A.Ff.J.  Buaswn i’n ei leicio pe bawn yn cael ateb i gwestiwn pan fyddaf wedi ei ofyn. Yr hyn a ofynnais i oedd: beth yw dyfodol yr ‘intermediate care fund’ a beth fydd effaith hynny ar y berthynas rhwng y ddau wasanaeth?

Rydych wedi dweud wrth y Pwyllgor Cyllid eich bod wedi gosod maen prawf i bob rhaglen ac i bob gwasanaeth o ran a yw’r rhaglenni hynny yn gwarchod pobl. Credaf mai ‘preventative’ oedd y gair y bu ichi ei ddefnyddio. A allwch esbonio sut y mae lleihau cronfa gwarchod pobl yn cyd-fynd â’ch strategaeth chi ac yn cefnogi pobl fregus?

J.H. Gwn na fynnech chi, o bosibl, fod yn fy sefyllfa innau fel Gweinidog cyllid sy’n wynebu toriad gwerth £1.5 biliwn yn ein cyllideb oddi wrth Lywodraeth y DU, ac rwy’n siŵr y byddech yn eich cael eich hun mewn lle anodd iawn, Alun Ffred Jones, o ran y penderfyniadau anodd rydym wedi gorfod eu gwneud. Rydym wedi canolbwyntio ar fuddsoddiad ataliol ac rydym wedi canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar...

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynghylch yr Arfer Gorau mewn Prosesau Cyllidol

A.Ff.J.

Diolch yn fawr am y cyfle i ddweud gair byr fel rhan o’r drafodaeth hon. Mae’r adroddiad ar arfer gorau yn y broses gyllido yn sôn am dryloywder, ac mae’r tystion—yr holl dystion, a dweud y gwir—wedi dweud am yr angen i gysylltu gwariant ar raglenni Llywodraeth â chanlyniadau. Fodd bynnag, mae amryw o’r tystion hefyd yn rhybuddio bod perygl mewn gosod nod neu amcanion rhy gyffredinol ac aruchel. Er enghraifft, os ydych yn rhoi nod i wella iechyd pobl Cymru, yna mae’n anodd iawn profi’r cyswllt rhwng y gwariant a’r canlyniad.

Yr un pryd, mae rhybudd hefyd bod gosod gormod o fân dargedau’n gallu bod yr un mor wrthgynhyrchiol, sy’n ein gadael ni â chwestiynau ynglŷn â pha fath o amcanion y dylid eu gosod. Fodd bynnag, mae pawb yn gytûn bod angen mesur effeithiolrwydd pob rhaglen wariant a bod angen gosod meincnod ar gyfer y rhaglenni hynny. Nid yw hynny’n digwydd ar hyn o bryd—neu, o leiaf, nid yw’n digwydd yn ddigon cyson.

Mae’r enghraifft yr oeddwn am dynnu sylw ati heddiw’n enghraifft loyw o arfer da a ddaeth gerbron y pwyllgor. Mae’n enghraifft, rwy’n credu, a all wneud gwahaniaeth yn y tymor hir—ac yr wyf yn pwysleisio mai yn y tymor hir y byddai hyn. Hynny yw’r CPB, sef yr hyn rwy’n credu yw enw’r corff yn yr Iseldiroedd—y ‘central planning bureau’, neu fiwro cynllunio canolog. Mae gan y biwro 100 o staff ac mae’n gwerthuso canlyniadau polisïau’r Llywodraeth. Mae’n gorff annibynnol o ran ei raglen waith, gyda phwyllgor rheoli annibynnol. Mae hyd yn oed yn gwerthuso maniffestos y gwrthbleidiau—os ydynt yn dymuno hynny—cyn etholiadau, sy’n wasanaeth rhyfeddol i ni ac yn ‘concept’ rhyfeddol i ni yn y gwledydd hyn. Fodd bynnag, yr hyn y mae’r corff hwn yn gallu ei wneud yw gwerthuso rhaglenni’r Llywodraeth wrth iddynt fynd yn eu blaenau. Mae hyd yn oed yn gwerthuso’r polisïau y mae Llywodraeth newydd yn eu cynnig ymlaen llaw, gan roi rhagolwg o’r hyn y mae’n tybio y bydd y canlyniadau. Dyna yw tryloywder mewn gwirionedd.

Mae’r gwerthusiad gwrthrychol hwn o holl waith y Llywodraeth, a’r gwaith monitro o bolisïau newydd, fel yr oeddwn yn dweud, yn gwneud byd o wahaniaeth. Rwy’n credu y byddai’n gwneud byd o wahaniaeth i’r gwasanaeth sifil o ran ei berfformiad. Byddai’n peri i wleidyddion feddwl yn ofalus iawn cyn rhuthro i greu strategaethau a deddfwriaeth, ac mi fyddai’n codi ansawdd maniffestos y gwrthbleidiau. Yn bwysicach na hynny, yn fy marn i, mi fyddai’n rhoi arf cryf yn nwylo’r etholwyr. Mi fyddai’n fodd i’r etholwyr gael rhyw fath o syniad o sut y mae Llywodraeth yn gweithredu a pha mor effeithiol y mae’n gwario’r arian. Byddai, fel yr wyf yn dweud, hefyd yn gosod her i bawb ohonom sy’n ymwneud â chreu polisi cyhoeddus. Nid wyf yn disgwyl i’r Gweinidog ddweud ei bod yn mynd i sefydlu corff tebyg yn ystod y flwyddyn nesaf, na’r blynyddoedd nesaf, ond rwy’n credu, fel nod ac amcan tymor hir, ei fod yn gorff y dylem ni yng Nghymru ei efelychu os ydym o ddifrif am greu trefn ddemocrataidd agored a thryloyw yma yng Nghymru.

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: Y Grant Amddifadedd Disgyblion

A.Ff.J

Gallwn ddadlau hyd Sul y pys ynglŷn â faint o arian sydd ar gael a lle y dylid dosrannu’r arian hynny, ond, yn gyntaf, mae’r toriadau o fewn y flwyddyn hon yn dangos methiant i gynllunio’n briodol. Mae wedi cythruddo staff a swyddogion a oedd eisoes wedi cynllunio ac yn gweithredu grant a oedd, mae’n debyg, â bwriad penodol iddo, ac mae’r diffyg dealltwriaeth sylfaenol hwn o’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad yn rhywbeth y dylwn ymboeni yn ei gylch. Wedi’r cwbl, os yw’r Llywodraeth yn dechrau blwyddyn gyda bwriad penodol o wario arian mewn ffordd arbennig sydd, gobeithio, â deilliant penodol, yna nid yw’n arfer da i dynnu’r arian hwnnw yn ôl yn ystod y flwyddyn honno, yn ddirybudd, wrth gwrs, a heb drafodaeth, er mwyn llenwi bwlch yn rhywle arall. Mae’n dangos diffyg cynllunio ar raddfa ddifrifol iawn iawn.

Yn anffodus, mae hwn wedi effeithio ar yr union ddisgyblion o gefndir difreintiedig y mae’r Llywodraeth a’r Democratiaid Rhyddfrydol am eu helpu. Mae’n rhaid i mi ddweud, er fy mod yn parchu sylwadau Eluned Parrott, mae’n sôn am blant o ardaloedd neu o gefndir difreintiedig, ac yna bu iddi sôn am ‘affluent families’. Yn fy ardal i, er enghraifft, lle bydd y manteision hyn yn dod i rai ysgolion yn unig, mae’n anodd disgrifio ysgolion cyffredin yn Llanllyfni, Bethesda neu Llanberis fel ysgolion sydd mewn ardaloedd ‘affluent’; nid ydynt—maent yn ardaloedd cymharol dlawd. Wrth gwrs, mae arfer yn y pentrefi hynny i fynd allan i weithio, ond mae’r cyflogau yn fychan ac mae’r cefndir yn rhyfeddol o debyg i lawer o ardaloedd a fydd yn elwa. Felly, rwy’n ymwrthod â hynny, a’r hyn sy’n bwysig yw ein bod yn sicrhau bod cysondeb yn yr addysg sydd yn cael ei gyflwyno ar draws y sbectrwm ac ym mhob ardal yn ddiwahân.

O safbwynt y grant disgyblion difreintiedig hwn, wrth gwrs bydd croeso cyffredinol yn yr ysgolion a fydd yn elwa, ond y cwestiwn sylfaenol, ac rwy’n credu bod hwn yn rhan o’r drafodaeth a gawsom mewn dadl arall y prynhawn yma, yw: beth yw effaith a chanlyniadau’r gwariant hwn? Hyd yn hyn, nid wyf wedi gweld y dystiolaeth honno.

Peter Black:   A ydych mewn gwirionedd wedi cadarnhau ble mae’r grant amddifadedd disgyblion hwn yn mynd, gan y bydd bron pob ysgol yng Nghymru yn elwa mewn rhyw ffordd ar y grant hwn?

A.Ff.J. Bydd, ond mae wedi ei sylfaenu ar y rhai sydd yn derbyn cinio am ddim; dyna yw sail y peth. Mae prifathrawon yn dweud wrthyf nad yw hynny ynddo’i hun yn sail wyddonol i farnu pa rai sydd mewn angen. Y gwir amdani yw nad oes unrhyw dystiolaeth wrthrychol, hyd y gwn i—rwy’n barod i gael fy nghywiro—o effaith a chanlyniadau’r grant penodol hwn. Os wyf yn anghywir rwy’n barod i gael fy nghywiro. Y cwestiwn yw: a yw’n gwella cyrhaeddiad disgyblion? Dyna pam rwy’n gobeithio fod gan y Llywodraeth raglen werthuso ar waith er mwyn sicrhau bod yr arian sy’n cael ei wario yn dod â chanlyniadau yn ei sgîl, achos dyna fyddai’n cyfiawnhau’r gwariant, a bod yr ysgolion y mae’r grant yn effeithio fwyaf arnynt yn gweithredu rhaglenni sydd yn cael canlyniadau penodol.

Mae dau faes arall yn wynebu toriadau, ac un ohonynt yw prentisiaethau. Mae llawer iawn o frolio wedi bod ar lwyddiant y rhaglenni prentisiaethau, ond rydym yn clywed Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn rhybuddio y bydd £11 miliwn yn cael ei golli, ac y bydd hynny’n arwain at golli cyfleoedd di-rif i bobl ifanc sydd angen y prentisiaethau hynny. Bydd effaith ddifrifol hefyd o ran y rhaglen Young Recruits, lle rydym yn deall y bydd 9,000 o bobl ifanc yn colli cyfleoedd.

Manylion yw’r rhain ar un ystyr, ac eto y gwir amdani yw ei fod yn golygu bod pobl ifanc yn colli cyfle ar adeg pan maen nhw fwyaf angen cael hyfforddiant i sicrhau eu bod yn gallu mynd ymlaen yn y byd.

 14 Hydref

 Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw Lewis

 Buddsoddi ym Maes Addysg

 A.Ff.J. Pryd ydych chi’n disgwyl y bydd y cynnydd addysgol sy’n deillio o’r grant amddifadedd disgyblion yn amlygu ei hun?

 H.L. O ran y grant amddifadedd disgyblion, unwaith eto, cyfeiriaf yr Aelod at y gwaith dwys iawn yr ydym ar fin ei gael gan IPSOS Mori a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru...

Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart

Gwario ar ffyrdd y Gogledd

A.Ff.J. Ar yr A55 rhwng Llandegái a Llanfairfechan, yn fy etholaeth i, pan fydd damwain neu lifogydd—ac, yn anffodus, mae llifogydd yn digwydd yn reit aml—mae llawer o’r traffig, gan gynnwys lorïau trwm, yn defnyddio lôn fach gul Crymlyn ger pentref Aber, ac mae lorïau yn mynd yn sownd yno. Yn wir, bu lori’n sownd yno am ddau ddiwrnod rai blynyddoedd yn ôl. Felly, a wnaiff eich swyddogion gyflwyno mesurau i atal traffig trwm rhag defnyddio’r ffordd gul, droellog hon gan greu anawsterau mawr i’r trigolion?

E.H.  Yn amlwg, rydych chi wedi codi'r mater hwn ynglŷn â’r gogledd, ac mae hwn yn fater eithaf cyffredin sy'n cael ei godi gyda mi pan fydd pobl yn mynd oddi ar y brif ffordd i'w hosgoi....

21 Hydref

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Refferendwm yr Alban

A.Ff.J. Un canlyniad i’r refferendwm oedd addewid gan dri arweinydd y pleidiau Prydeinig na fyddai unrhyw newid i fformiwla Barnett, sy’n cloi Cymru i mewn i danariannu, fel yr ydych chi eich hun wedi dweud lawer gwaith. Dyna safbwynt UKIP hefyd, hyd y gwelaf. A fuoch chi’n rhan o unrhyw drafodaethau cyn i’r datganiad hwnnw gael ei wneud?

C.J. Na, nid oeddwn. Ni fu imi siarad â’r Prif Weinidog na’r Dirprwy Brif Weinidog. Fe wnes i siarad ag Ed Miliband; mae hynny’n wir. Roedd yn rhywbeth a gafodd ei wneud mewn rhyw fath o banig, wrth gofio beth roedd y polau barn yn dweud yn yr Alban ar y pryd. ’Nawr, wrth gwrs, nid oes neb yn gwybod cweit beth sy’n mynd i ddigwydd ar ddiwedd y mis, ond, yn fy marn i, yr hyn sy’n amlwg yw bod addewid wedi cael ei wneud i’r Alban, ac mae’n rhaid i’r addewid i’r Alban gael ei gadw. Nid yw hynny’n meddwl na ddylid cael setliad teg i Gymru. Dylai hynny symud ymlaen hefyd. Wrth gwrs, rydym wedi cael yr ymrwymiad hwnnw gan Ed Miliband er mwyn sicrhau hynny

22 Hydref

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant

Plannu Coetir

A.Ff.J. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar darged Cyfoeth Naturiol Cymru i blannu 100,000 hectar o goetir erbyn 2030? 

C.S. Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, wedi ymrwymo i blannu rhagor o goed yng Nghymru. Bydd y gwaith arfaethedig o gyrraedd targed 100,000 ha Llywodraeth Cymru i greu coetiroedd yn cael ei ystyried fel rhan o adolygiad o'r adroddiad ar ddefnydd tir a newid yn yr hinsawdd.

A.Ff.J.

Mae hwnnw’n swnio i mi fel nad ydy’r targed hwnnw yn mynd i aros yn hir iawn, ac nid oes rhyfedd, achos, yn y tair neu bedair blynedd diwethaf, dim ond 1,200 ha o goetir sydd wedi cael ei blannu. A dweud y gwir, ailblannu ar dir sydd yn goetir yn barod ydy hynny, a rhyw 200 ha o goetir newydd sydd wedi cael ei blannu. Felly, a ydy’r targed hwn yn un rydych chi’n glynu ato neu a ydyw, mewn gwirionedd, yn un targed arall a fydd yn cael ei ollwng?

C.S. Yn fy ymateb i'r Aelod, dywedais y byddwn yn adolygu'r mater ynglŷn â chreu coetiroedd. Ni ddywedais air am ostwng targedau neu fel arall...

Cwestiynau i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths

Tlodi plant

A.Ff.J. Mae llawer iawn o’r mesurau gwrth-dlodi sydd wedi’u canolbwyntio ar blant, wedi’u canolbwyntio ar ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Gwyddom bod hanner y plant sy’n dioddef o dlodi oherwydd amgylchiadau teuluol yn byw y tu allan i’r ardaloedd hynny. Faint o’r plant hynny sydd yn gallu elwa o gynllun ‘Flying Start’?

L.G. Mae’r ddau yn gweithio law yn llaw...