RHAID I GYMRU BEIDIO GAEL EI GADAEL AR OL YN SGIL DAEARGRYN GWLEIDYDDOL YR ALBAN

23/10/2014

Mae llawer o etholwyr wedi dod ataf yn ddiweddar i sôn wrthyf am eu pryderon ynglŷn â’r toriadau i’r gwasanaeth bysys rhwng Bangor ac ardal Llanberis. Er pan ddaeth cwmni bysys Padarn i ben, mae’r bws olaf o Fangor i Lanberis yn gadael am 5.45 bob nos. I lawer o bobl sydd heb geir ac yn methu fforddio tacsi, mae hyn yn ei gwneud hi’n amhosib iddyn nhw weithio ym Mangor.

Yn naturiol mae pobl yn disgwyl i’r cyngor lleol ddod i’r adwy a helpu i ariannu gwasanaeth newydd. Y broblem yw bod Gwynedd, fel pob awdurdod lleol arall, yn gorfod ymdopi’n barod efo’r toriadau enbyd sydd wedi eu gosod gan y Trysorlys, a fydd yn llethu’n gwasanaethau cyhoeddus am genhedlaeth.

Mae hyn yn enghraifft leol o’r gwrthdaro ehangach o ran gwerthoedd rhwng ein cymunedau ni a’r bobl sydd â’r rheolaeth dros y pwrs cyhoeddus. Does gan George Osborne a’i ffrindiau ddim problem o gwbl dod o hyd i arian i achub y banciau a’r sefydliadau ariannol a achosodd yr argyfwng yn y lle cyntaf.

Roedd hyn yn un o’r rhesymau am y daeargryn gwleidyddol  a achoswyd gan refferendwm annibyniaeth yr Alban. Yr ochr Na a enillodd, ond allan nhw ddim anwybyddu’r 1.6 miliwn o bobl a bleidleisiodd o blaid er gwaethaf holl rymoedd David Cameron, Gordon Brown, y rhan fwyaf o bapurau newydd, banciau, archfarchnadoedd, Barrack Obama ac - yn ôl y sôn - y Frenhines.

Fe ddylai unrhyw demtasiwn i gefnu ar yr addewidion byrbwyll am hunan lywodraeth i’r Alban a wnaed yn y dyddiau cynhyrfus cyn y bleidlais gael ei chwalu gan yr ymchwydd yn y gefnogaeth i’r SNP,  a dreblodd ei haelodaeth i fwy na  75,000 ers y refferendwm.

Yn y ras i geisio cyfamodi rhwng dyheadau pobl yr Alban a’r doethinebu annelwig am ymreolaeth i Loegr, ein blaenoriaeth ni yw sicrhau na fydd Cymru’n cael ei gadael ar ôl. Mae yna symudiad eisoes yn y Cynulliad i greu consensws rhwng y pleidiau ar gyfer system ystyrlon a sefydlog i gymryd lle’r datganoli tameidiog y bu’n rhaid bodloni arno am y 15 mlynedd diwethaf. Mae’n amlwg ein bod ni gryn dipyn y tu ôl i’r Alban ar ein siwrnai genedlaethol, ond yr un yw’r egwyddorion. Y nod yn y ddwy wlad yw cael llywodraeth gyda’r pwerau i ffurfio polisïau sy’n adlewyrchu’n gwerthoedd nhin hunain yn hytrach na gwerthoedd y Ddinas yn Llundain.