Adroddiad Misol

23/10/2014

Croeso i’r adroddiad ar-lein cyntaf ar fy ngweithgareddau ers i’r Cynulliad ail gyfarfod ar ôl egwyl yr haf.  Digwyddiad gwleidyddol mawr y mis, wrth gwrs, oedd y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban.  Er mai’r ochr Na aeth a hi, mae’r ymgyrch a’r canlyniad wedi ail danio’r diddordeb yn nhrefn lywodraethol gwledydd Prydain, a fu’n destun dadl ar lawr y Cynulliad yng Nghaerdydd.

Pigion Dyddiadur Medi

Llun, 1 Medi

Cymhorthfa yng Nghaernarfon

Cyfarfod ynghylch Pontio, Bangor

Cyfarfod Beicio Bangor yng Nghanolfan y Garth

Iau, 4 Medi

Cyfarfod ynghylch Fflatiau Glanymôr, Caernarfon

Cymhorthfa, Bangor

Pwyllgor Etholaeth

Gwener, 5 Medi

Ail agor ein swyddfa etholaeth  ym Mangor ar ôl ei hadnewyddu

Dathliad 30 mlynedd Antur Waunfawr

Mercher, 10 Medi

Cyfweliad BBC am refferendwm yr Alban

Iau, 11 Medi

Cyfarfod yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Trafod Cynllunio gydag Aled Davies o Gyngor Gwynedd

Cyfarfod perchnogion newydd Lladd-dy Caernarfon

Sadwrn, 13 Medi

Cyfarfod etholwyr yn Neiniolen

Gŵyl Abergwyngregyn - Cynllun Ynni Hydro

Llun, 15 Medi

Cyfarfod disgyblion Blwyddyn 12 Ysgol Syr Hugh Owen

Cymhorthfa Bangor

Cyfarfod meddygon ymgynghorol Ysbyty Gwynedd i drafod dyfodol yr ysbyty

Mawrth, 16 Medi

Y Cynulliad yn ail agor

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyfarfod Llawn

Dadl ‘Beth am Gymru’ a drefnwyd gan Gorwel (Y Sefydliad Cymreig ar gyfer Syniadau Newydd)

Mercher, 17 Medi

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Cyfarfod Llawn

Cyfarfod ymddeol un o staff y Blaid, David Bradley

Iau, 18 Medi

Refferendwm yr Alban – cyfarfod yn y Cynulliad

Gwener, 19 Medi

Pwyllgor cyllid Codir To, elusen sy’n darparu hyfforddiant cerddorol i ysgolion Glan Cegin a Maesincla

Sadwrn, 20 Medi

Clirio sbwriel ar draeth Dinas Dinlle, ymgyrch gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol fel rhan o’r ‘Great British Beach Clean’

Llun, 22 Medi

Cynhadledd Parc Gwyddoniaeth Menai

Cymhorthfa, Bangor

Mawrth 23 Medi

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyfarfod Llawn

Mercher 24 Medi

Pwyllgor Cyllid

Cyfarfod Llawn

Iau, 25 Medi

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Gwener, 26 Medi

Bore Coffi Macmillan, Felinheli

Cyfarfod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Ysbyty Gwynedd

Dathliad 25 mlynedd Anheddau Cyf, Bangor, sy’n rhoi cymorth i bobl fregus

Sadwrn, 27 Medi

Bore Coffi Macmillan, Caeathro

Cyfarfod etholwyr ym Mangor

Llun, 29 Medi

Cymhorthfa, Caernarfon

Mawrth, 30 Medi

Cyfarfod y Gweinidog Cyllid Jane Hutt

Cyfarfod Llawn

CWESTIYNAU AC AREITHIAU YN Y CYNULLIAD

16 Medi

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Ysmygu

A.Ff.J.  Pa dystiolaeth sydd gan y Llywodraeth o lwyddiant ymgyrchoedd i berswadio pobl ifanc i beidio â dechrau ysmygu?

C.J. Roeddwn yn gweld bod nifer y bobl ifanc sy’n dechrau ysmygu yn cwympo. Hoffwn sicrhau ei fod yn cwympo yn gyflymach nag ar hyn o bryd, ond o edrych ar y cynllun iechyd i reoli tybaco, mae cynlluniau i sicrhau bod y niferoedd yn cwympo’n sylweddol yn y dyfodol.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid  a Busnes Jane Hutt

Fforwm Cydlyniant yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel

A.Ff.J.  Rwy’n croesawu presenoldeb y Gweinidog yn y gynhadledd. Mae Plaid Cymru yn cytuno y dylai cyfartalu neu gysoni economaidd fod yn un o flaenoriaethau’r Undeb Ewropeaidd. Y ffaith ydy, yn anffodus, fod anghyfartaledd economaidd yn waeth yn y Deyrnas Unedig nag yn unrhyw wladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd. Yng Nghymru y mae rhai o’r wardiau mwyaf difreintiedig yn Ewrop. Gwaetha’r modd, mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y Cymoedd, y gorllewin a Chymru gyfan wedi llithro’n ôl o’u cymharu â GDP cyfartalog 28 gwlad yr Undeb Ewropeaidd. Felly, nid yw’r cefndir hwnnw yn un addawol.

Gan droi at gwestiynau, rydych yn cyfeirio yn eich ail baragraff at bwysigrwydd cyd-drafod â chymdeithas sifil a phartneriaid cymdeithasol, ond a fuoch chi’n trafod y TTIP o gwbl, sef y bartneriaeth masnach a buddsoddi trawsiwerydd, rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau, sef y ‘transatlantic trade and investment partnership’? Un o amcanion y cytundeb hwn yw ei gwneud yn haws i gwmnïau rhyngwladol gymryd gwasanaethau cyhoeddus drosodd ac i roi pŵer iddyn nhw erlyn llywodraethau sy’n bygwth eu helw, hynny ydy, drwy warchod gwasanaethau cyhoeddus. A fu unrhyw drafod ar hyn? Os na fu unrhyw drafod ar hyn, buaswn i’n gofyn pam, oherwydd mae’n fygythiad uniongyrchol i’r union bartneriaid yr ydych chi’n cyfeirio atynt yn yr ail baragraff.

Yn ail, ers yr argyfwng ariannol, mae tri chwarter y gostyngiad mewn busnesau hyfyw wedi digwydd yng ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. A ydy’r Llywodraeth wedi cynnal asesiad o sut mae cryfhau a hybu busnesau yn yr ardaloedd difreintiedig yma ac ardaloedd lle mae cysylltiadau trafnidiaeth, ac yn y blaen, yn ei gwneud hi’n fwy anodd iddyn nhw gynnal eu busnes? Felly, dyna ydy’r ail gwestiwn.

Yn drydydd, gwyddom yn iawn fod gwariant cyfalaf yn bwysig fel hwb economaidd. Rydw i wedi eich clywed chi, yma, yn beirniadu’r Llywodraeth yn Llundain am dorri ar wariant cyfalaf, er, rydym yn gwybod bellach y bydd y Blaid Lafur yn glynu at y patrymau gwariant hynny. Ond mae’n fater o bryder mawr i Blaid Cymru fod y Llywodraeth hon yng Nghymru wedi rhoi ei hwyau i gyd ym masged yr M4, sef £0.5 biliwn o’i holl hawl gwario ychwanegol a £0.5 biliwn arall o’r bloc grant ar un rhan o’r ffordd yn y de-ddwyrain, gan anwybyddu gofynion gweddill Cymru, er enghraifft cyfleoedd i drydaneiddio lein gogledd Cymru...

17 Medi

Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw Lewis

Adolygiad o’r Cwricwlwm TGAU

A.Ff.J. Ar ôl yr adolygiadau hyn, pa obaith sydd y bydd pobl ifanc a phlant Cymru yn cael dysgu mwy am hanes eu gwlad ynghyd ag am lenyddiaeth a chelfyddyd Cymru?

H.L. Bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, fod yr adolygiad o’r Cwricwlwm Cymreig wedi ei dderbyn gennyf ac yna ei fwydo i mewn i’r adolygiad cwricwlwm cyffredinol....

Cwestiynau i’r Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth  Edwina Hart

Datblygu’r Sector Ariannol

A.Ff.J. Yn anffodus, mae banciau wedi cilio o drefi a phentrefi cefn gwlad Cymru, a gwendid y sector ariannol yw nad ydyw’n cefnogi busnesau a masnach yn ddigonol. Dyna pam, i raddau, y crëwyd Cyllid Cymru—Finance Wales. Mae wedi bod yn llwyddiant ar lawer cyfrif, ond mae gormod o gyfrinachedd o gwmpas Cyllid Cymru. A fydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi o hyn allan?

E.H. Bydd. Credaf, wrth i mi ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a’r adroddiad ardderchog a wnaeth y pwyllgor, y bu i mi ddweud y byddai mwy o dryloywder am sut mae Cyllid Cymru yn darparu o ran yr arian y mae’r sector cyhoeddus yn ei gyfrannu...

23 Medi

 Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

 Y Dreth Llofftydd

 A.Ff.J. Rhan o’r newidiadau i’r drefn fudd-daliadau yw’r dreth llofftydd, sy’n gymaint o fwrn i gymaint o bobl. A yw’r Llywodraeth wedi gwneud astudiaeth i weld faint o bobl sydd wedi cael eu heffeithio ac wedi gorfod symud oherwydd y dreth hon, a beth yw’r gost a’r golled i Gymru o’r dreth arbennig hon?

 C.J. Nid oes ffigurau gennyf ar gyfer hynny, ond, wrth ystyried yr hyn yr wyf yn ei weld yn fy etholaeth i, rwy’n gweld pobl yn gorfod talu rhagor, achos ni allant symud mor rhwydd â hynny...

Lansio’r Papur Gwyn ar Gasglu a Rheoli Trethi Datganoledig yng Nghymru

A.Ff.J. Rwy’n croesawu’r datganiad heddiw gan y Gweinidog. Y sôn yn wreiddiol gan y Llywodraeth oedd mai’r bwriad oedd creu trysorlys i Gymru. Bellach, mae datganiad heddiw yn sôn am gorff dipyn llai ei ddylanwad, sef awdurdod refeniw Cymru, ond corff cwbl angenrheidiol. Nid yw’r trethi sy’n mynd i gael eu datganoli hyd yn hyn—y dreth dirlenwi a’r dreth dir—yn ateb holl wendidau cyllidol Cymru wrth gwrs. Cam bach iawn yw hwn ond cam pwysig. Pan fyddwn ni yn cymryd rhagor o bwerau a chyfrifoldebau ariannol fel gwlad, bydd rhaid i ni sefydlu trysorlys go iawn, neu gorff tebyg a fydd yn gallu rhoi arweiniad i’r Llywodraeth, i’r Cynulliad ac i bobl Cymru ar y sefyllfa gyllidol ac effaith polisïau’r Llywodraeth arni. Dyna lle rydym angen bod os ydym am fod yn gyfrifol, mewn ffordd ystyrlon, am ddatblygu’n economi a’n gwlad. Yn y cyfamser, rydym yn cymryd y cam bychan hwn, er ei fod yn gam pwysig. Mae’r Alban wrthi’n sefydlu ei gorff yntau, Revenue Scotland, ac felly gofynnaf i chi pa wersi yr ydych wedi’u dysgu o’r Alban gan ein bod yn gwybod eich bod wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion y Llywodraeth yno.

A gaf hefyd gyfeirio at y sefyllfa a fydd yn bodoli ar ôl sefydlu’r corff? Bydd rhai trethdalwyr yng Nghymru o bosibl â dau gorff yn gyfrifol am gasglu eu trethi neu ran o’u trethi. Sut y byddwch chi, felly, yn sicrhau bod trethdalwyr yn ymwybodol o fodolaeth yr awdurdod refeniw Cymreig, ac a ydych yn rhagweld unrhyw broblemau yn codi o gael dau gorff felly yn gyfrifol am gasglu’r trethi? A fydd rhaid i rai pobl lenwi dwy ffurflen? Dyna rai o’r cwestiynau.

Gwnaethoch gyfeirio at Llywelyn ap Gruffydd, Llywelyn Fawr, a oedd yn wleidydd praff o Arfon, wrth gwrs. Ni wn a oedd y trethi yr oedd ef yn eu gosod yn deg nac yn berthnasol i ni, ond yn sicr, roedd ei arweiniad gwleidyddol cadarn a di-ofn yn rhywbeth y gallem ni yng Nghymru ddysgu oddi wrtho. Gallaf eich sicrhau chi fod amryw o fwystfilod yn dal i gerdded mynyddoedd Arfon o hyd. [Chwerthin.] Diolch i adran y gyfraith Prifysgol Bangor am ei gwaith arloesol ym maes y gyfraith ac yn y cyfeiriad hwn.

24 Medi

Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sergeant

Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy

A.Ff.J. Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â chyrraedd ei tharged o ran cynhyrchu ynni adnewyddol. Yn wir, roedd wedi methu ei tharged o dros 60%. A yw’r Gweinidog yn gwybod pam mae’r Llywodraeth wedi methu mor eithafol, a beth yw’r targedau newydd sydd wedi’u gosod?

C.S.  Nid wyf yn cydnabod ein bod wedi methu’n eithafol. Mae hynny'n ddatganiad gwleidyddol arall yn amlwg a ddefnyddir gan y gwrthbleidiau. A dweud y gwir, rwy’n falch iawn o'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn cymunedau a chan y Llywodraeth hon o ran cyfle a chynhyrchu ynni...

Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Lesley Griffiths

Mynediad at Gyfrifon Banc

A.Ff.J. Gan fod banciau bellach yn diflannu o’n pentrefi a’n trefi, gan ei gwneud yn llai tebygol y bydd pobl yn ymuno gyda banc, pa drafodaethau y mae’r Llywodraeth wedi’u cynnal gyda chyrff allanol i geisio creu banc y bobl—banc a fyddai yn gwasanaethu pobl ym mhob rhan o Gymru?

L.G. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau o'r fath. Nid wyf yn ymwybodol a fydd cydweithwyr gweinidogol wedi gwneud hynny, ond credaf ei fod yn bwysig...

Dadl Plaid Cymru: Y Berthynas Rhwng Cenhedloedd y DU

A.Ff.J. Roedd hi’n bleser bod yn bresennol yn y Siambr ddoe, ac roedd yn brofiad ychydig bach yn swreal ond digon pleserus clywed siarad rhwydd am hunanlywodraeth, Keir Hardie a phedair cenedl y wladwriaeth Brydeinig. Yn wir, mae’r tir wedi symud, ac mae cyfle, fel yr oedd Kirsty Williams yn ei ddweud, i Gymru siarad ag un llais. Rwy’n credu bod hynny yn bwysig os ydym eisiau symud pethau yn eu blaen, a hynny yn gyflym. Fodd bynnag, dylem gofio mai un rheswm, ac un rheswm yn unig, sydd am hyn, sef Llywodraeth yr SNP yn yr Alban ac arweinyddiaeth gadarn Alex Salmond a daniodd ddychymyg unigolion a grwpiau ar lawr gwlad drwy’r wlad gan ysgwyd y pleidiau unoliaethol i’w seiliau.

Yma, yng Nghymru, rydym mewn proses o ddiwygio cyllidol a datganoli treth, o ganlyniad i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol gytuno â rhai o argymhellion y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru. Fodd bynnag, yr hyn y mae’n rhaid i ni ei dderbyn yw nad yw’r trethi bychain sy’n cael eu datganoli yn creu unrhyw atebolrwydd ariannol sylweddol i’r sefydliad hwn. Yr unig dreth y gellir ei datganoli yn bragmatig, ac sy’n rhoi atebolrwydd ystyrlon, ydy treth incwm. Bu Plaid Cymru yn ymgyrchu yn erbyn y mecanwaith cloi cyfraddau, sef y ‘lockstep’ y mynnodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ei gynnwys yn ei chynigion gwreiddiol am dreth incwm—er, mae’n weddol sicr bellach y bydd hynny’n cael ei ddileu, gobeithio. Mae hynny i’w groesawu’n fawr, ond mae’n gadael problem y refferendwm y mae'r Prif Weinidog yn dal i gredu ei fod yn angenrheidiol.

Roedd Plaid Cymru yn anghytuno â’r angen am refferendwm. Yn nes ymlaen, bu i ni dderbyn yr argymhelliad yn amodol fel rhan o becyn ehangach Silk, ond mae’r angen i edrych ar y Deyrnas Gyfunol gyfan yn golygu bod yn rhaid symud ymlaen a gwneud hynny’n gyflym. Mae’r Alban yn derbyn system newydd o ddatganoli treth incwm dan Ddeddf yr Alban 2012 heb fod angen refferendwm ar y cwestiwn hwnnw. Mae refferendwm ei hun yn llawn ansicrwydd ynghylch faint o bobl fyddai’n pleidleisio ar fater technegol cyfyng ei apêl. Os ydym wedi dysgu rhywbeth o refferendwm yr Alban, y wers honno yw bod yn rhaid cynnal refferendwm ar faterion pwysfawr a sylfaenol yn unig. Dyna beth sy’n tanio pobl a dychymyg pobl.

Gan droi at gyllido teg, safbwynt Plaid Cymru erioed oedd bod cyllid teg a chyfrifoldeb am dreth yn mynd gyda’i gilydd ac y dylid eu gweithredu ar yr un pryd. Dyna a argymhellodd comisiwn Holtham yn ei ail adroddiad. Fodd bynnag, ni ddylid defnyddio’r naill i atal y llall.

Mae Plaid Cymru yn glir o ran ei gweledigaeth gyfansoddiadol. Os cynigir treth gorfforaeth i’r Alban, rhaid i Gymru dderbyn triniaeth gyfartal. Ni wnaeth y Prif Weinidog, a bod yn deg, troi ei gefn ar hynny ddoe, er bod ganddo ambell amheuaeth, ond rhaid i ni archwilio unrhyw gynnig cyllidol sy’n cael ei wneud i’r Alban gan nodi pa elfennau y byddai’n bosibl neu’n ddichonadwy i’w gwneud yma yng Nghymru.

I gloi, wrth i ni drafod taith ddemocrataidd Cymru fel cenedl, mae’n rhaid i ni fod yn llai ofnus ynghylch y math o gyfrifoldebau ariannol y mae angen i ni eu hysgwyddo. Mae’n rhaid i ni symud y cloi cyfraddau y cyfeiriais ato er mwyn cael Cynulliad Cenedlaethol sy’n ariannol atebol. Nid oes cywilydd mewn mynnu cyfran deg o adnoddau’r Deyrnas Gyfunol, ond dylem fod yn barod hefyd i dderbyn y cyfrifoldeb sy’n mynd gyda hynny. Gallu derbyn y cyfrifoldeb hwnnw sy’n rhoi’r cyfle i ni wedyn i newid Cymru a newid sefyllfa pobl ar lawr gwlad er gwell.

 30 Medi

 Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

 Safonau’r Gymraeg

A.Ff.J. A ydych yn credu, Brif Weinidog, pan fydd y safonau hyn yn cael eu cyflwyno i’r Cynulliad, bedair blynedd i mewn i dymor y Llywodraeth hon, fod hynny’n dangos ‘commitment’ a gallu cynllunio bwriadus, effeithiol o safbwynt y Gymraeg?

C.J. Beth sy’n bwysig yw ein bod yn sicrhau bod y rheolau hyn yn rhai sy’n cael eu cefnogi a hefyd yn rheolau sy’n ymarferol. Mae hynny’n meddwl, wrth gwrs, fod rhaid cael y Comisiynydd yn rhan o’r broses, a hefyd ymgynghori mewn ffordd iawn—ac, wrth gwrs, bod y rheolau’n dod yn ôl gerbron y Cynulliad. Er mwyn cael pethau’n iawn, mae pethau’n gallu hala tamaid bach mwy o amser.

Cyllideb Ddrafft 2015-16

A.Ff.J. Cyllideb a fydd yn crebachu gwasanaethau cyhoeddus yw hon. Dyna fwriad a nod y Canghellor, George Osborne, a dyna sy’n digwydd yng Nghymru hefyd. Mae Syr Bob Kerslake, pennaeth y gwasanaeth sifil yn y Deyrnas Unedig, yn honni y bydd y crebachu hwn yn parhau am bum mlynedd arall, ni waeth beth fo lliw’r Llywodraeth yn Llundain. Mae hwn yn ymosodiad ar bobl fregus, pobl ar ymylon cymdeithas, a phobl gyffredin. Mae pawb yn talu pris am wallgofrwydd y marchnadoedd arian, methiant y Llywodraeth Lafur flaenorol i’w rheoli, a Llywodraeth glymblaid yn Llundain sy’n ochri â’r da eu byd.

Rydym yn gweld y crebachu hwn yn ein cymunedau: rydym yn gweld llyfrgelloedd yn cau, canolfannau hamdden yn cau, a gwasanaethau bysiau a gwasanaethau sy’n cefnogi pobl yn diflannu o’n cymdeithas ac o’n cymunedau. Dyna’r cefndir, ac mae hynny’n cael ei gydnabod gan y Gweinidog.

Yr hyn sy'n ddiddorol yn y datganiad hwn yw ei fod yn nodi'n glir bod y grant bloc wedi cael ei dorri 10%—neu’r hyn sy'n cyfateb i 10%—ac eto mae pob rhan o'r datganiad yn sôn am ehangu, arian ychwanegol, a dyraniadau ychwanegol. Ychwanegol i beth, Duw a ŵyr, ond dyna yw naws y datganiad. Felly, beth sydd wedi cael ei dorri? Pa wasanaethau sy’n crebachu? A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r meysydd a fydd yn crebachu yn y flwyddyn ariannol nesaf?

I droi at iechyd, rydym yn amlwg wedi gweld ymgyrch fawr i achub y byrddau iechyd, gan gynnwys arian sydd wedi’i adfachu eleni, yn ystod y flwyddyn, a’r toriadau i lawer o feysydd craidd gwariant cyhoeddus. A allai'r Gweinidog egluro beth yn union yw'r cynnydd canrannol ar gyfer iechyd yn y flwyddyn nesaf, 2015-16, a pha arian ychwanegol sydd wedi’i ddyrannu yn ystod y flwyddyn o'r cyfanswm o £425 miliwn y soniodd amdano?

Mae gofal i’r henoed yn un o'r meysydd gwasanaeth iechyd sy’n wynebu’r pwysau mwyaf, ac mae galw’n tyfu, rydym ni'n gwybod hynny. Mae'r setliad ar gyfer llywodraeth leol yn peri risg amlwg o doriadau i gyllidebau gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r Gweinidog yn sôn am £10 miliwn ychwanegol. Mae hynny yng nghyd-destun toriad o £150 miliwn i awdurdodau lleol. Beth sy'n mynd i fethu? A allai’r Gweinidog egluro dyfodol arian ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol?

Ar ben hynny, byddem yn croesawu datganiad am y gronfa gofal canolraddol. Mae'n hanfodol ei bod yn cael ei diogelu yn rhan o'r gwariant ar iechyd, a chaiff unrhyw ddiogelu o'r fath ei groesawu, wrth gwrs. Felly, a allem ni gael unrhyw sicrwydd am symudiadau yn y dyfodol tuag at integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol?

A wnewch chi gadarnhau, Weinidog, bod cyllideb y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei thorri gan £5 miliwn? Pam nad yw honno wedi’i diogelu? Mae honno’n ymdrin â’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac eto caiff £5 miliwn ei dorri o'r rhaglen fechan ond hanfodol honno. Felly, a yw'r Gweinidog yn cytuno mai canlyniad anochel y gyllideb fydd cau gwasanaethau cymunedol, megis llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, crebachu gwasanaethau bysiau, a chymorth i bobl agored i niwed yn y gymuned?

 Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes: Diolch i Alun Ffred Jones am ei gwestiynau am fy natganiad. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch iddo am gytuno ein bod mewn sefyllfa anodd, o ran yr heriau enfawr a wynebwn gyda chyllideb sy’n lleihau...