FFIGYRAU DIWEITHDRA DDIM YN DWEUD Y STORI’N LLAWN

08/09/2014

Rwyf wedi pwysleisio o’r blaen yn y golofn hon fod diweithdra ymysg pobl ifanc yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu pobl Cymru heddiw. Mae’r ystadegau diweddaraf gan Twf Swyddi Cymru yn tanlinellu maint y broblem.

Mae’r fenter hon gan Lywodraeth Cymru yn darparu profiad gwaith am chwe mis, ar isafswm cyflog neu uwch, i bobl ifanc, i’w helpu i ddod o hyd i’w swydd gyntaf ar ddiwedd y cyfnod. Yn anffodus, llai na hanner y rhai ar y cynllun sy’n cael eu cyflogi wedi chwe mis. Ar y llaw arall, mai nifer prentisiaethau yng Nghymru yn uwch nag erioed, diolch i gytundeb gwerth £40m rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth. 

Yn gyffredinol, roedd 12,000 yn llai o bobl mewn gwaith yng Nghymru yn Ebrill-Mehefin 2014 nag yn y chwarter blaenorol. Cymru oedd yr unig un o genhedloedd y Deyrnas Unedig ble gwelwyd gostyngiad yn y nifer a gyflogwyd yn ystod y cyfnod hwnnw. 

Mae yna broblemau eraill yn wynebu’r gweithlu, nad yw’r ystadegau yn eu dangos. Y bennaf o’r rheini yw nifer y bobl sy’n gweithio ar gyflogau isel iawn, neu ddim yn gweithio i’w llawn botensial. Ar adeg o gyni ariannol mae pobl yn barotach i dderbyn swyddi sy’n talu’n wael, ac mae hynny’n arbennig o wir yng Nghymru. Dyna un rheswm pam fod nifer y bobl sy’n gweithio yn aros yn weddol gyson. Ers rhai blynyddoedd mae prisiau nwyddau a gwasanaethau wedi bod yn tyfu’n gyflymach na chwyddiant, ac mae’r bwlch mewn enillion rhwng y cyfoethog a’r tlawd yn ehangu trwy’r adeg. Mae’r Isafswm Cyflog yn annigonol ar gyfer y rhan fwyaf o deuluoedd, ac mae’n rhaid anelu at sicrhau’r Isafswm Cyflog Byw i bob gweithiwr. Mae pobl ar y brig yn dal i ennill taliadau bonws enfawr, tra bod rhai ar waelod yr ysgol, sydd heb unrhyw gyfrifoldeb am achosi’r llanast ariannol,  yn dal i orfod dioddef effeithiau gwaethaf y toriadau.  

Mae diweithdra ymhlith rhai 19-24 oed yng Nghymru yn 21%, sy’n llawer uwch na’r ffigyrau cyffredinol. Mae gennym gyfrifoldeb i helpu’r genhedlaeth ifanc i ennill y sgiliau y mae eu hangen ar fusnesau a chymdeithas. Mae angen gweledigaeth i gau’r bwlch ariannol rhwng Cymru a gweddill y DU, ac ail strwythuro’r economi yn gyffredinol.