ADRODDIAD MISOL

18/07/2014

Alun Ffred Jones AC
Aelod Cynulliad Arfon
Mehefin 2014

Pigion Dyddiadur Mehefin
Llun, 2 Mehefin
Cyfarfod dirprwyaeth o Drelew, Patagonia yn Galeri, Caernarfon i drafod cynlluniau dathlu canrif a hanner sefydlu’r Wladfa
Mawrth, 3 Mehefin
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad
Cyfarfod briffio gyda BMA Cymru
Sesiwn Lawn
Mercher 4 Mehefin
Pwyllgor Cyllid
Sesiwn Lawn y Cynulliad
Iau 5 Mehefin
Pwyllgor Amgylchedd
Pwyllgor Etholaeth, Caernarfon
Llun 9 Mehefin
Cyfweliad Radio Cymru, Deddf yr Iaith Gymraeg
Cymhorthfa, Caernarfon
Pwyllgor Gwaith, Codi’r To, Caernarfon
Mawrth 10 Mehefin
Sesiwn Lawn
Mercher 11 Mehefin
Cyfafod SEACAMS Prifysgol Bangor yn y Cynulliad
Pwyllgor Amgylchedd
Sesiwn Lawn
Iau 12 Mehefin
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Gwener 13 Mehefin
Cymhorthfa, Caernarfon
Cyfarfod ynglŷn â Pharc Solar ger y Felinheli
Sadwrn 14 Mehefin
Sioe Dyffryn Ogwen, Bethesda
Sul 15 Mehefin
Cerdded rhan o Glawdd Offa gydag Ieuan Wyn Jones i godi arian at elusen
Llun 16 Mehefin
Seremoni Codi Baner y Lluoedd Arfog, Caernarfon
Cyfarfod CAB
Cyfarfod ar sefyllfa Llydaw
Mawrth 17 Mehefin
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Sesiwn Lawn
Mercher 18 Mehefin
Pwyllgor Cyllid
Teithio i Sir Benfro
Iau 19 Mehefin
Pwyllgor Amgylchedd yn ymweld â Sgomer ac Aber y Cleddau
Gwener 20 Mehefin
Cyfarfod Dŵr Cymru
Cyfarfod Gwyn Angell Jones ynglŷn â chysylltiadau cenhadol Cymru a Bryniau Casia yn India
Llun 23 Mehefin
Cyfarfod cwmni Anheddau Cyf, Bangor
Cyfarfod Iwan Trefor Jones, Cyngor Gwynedd
Mawrth 24 Mehefin
Cyfarfod Cyfrifon Cyhoeddus
Sesiwn Lawn
Mercher 25 Mehefin
Pwyllgor Amgylchedd
Cyflwyniad Dramatig gan fyfyrwyr Coleg Menai yn y Cynulliad
Sesiwn Lawn
Iau 26 Mehefin
Ymweliad Ysgol Llandygai i’r Cynulliad
Pwyllgor Cyllid
 
CWESTIYNAU AC AREITHIAU
3 Mehefin
Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones
Damweiniau beiciau modur

A.Ff.J. Mae hefyd y ddamwain angheuol ym Mhontblyddyn ac un arall ar yr A470, a phob un yn ymwneud â beiciau modur. Pa drafodaethau y mae’r Llywodraeth wedi eu cael gyda chomisiynwyr yr heddlu i weld a oes modd cynnal ymgyrch i geisio newid arferion rhai o’r gyrwyr hyn?
C.J. Rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth call ac yn rhywbeth, rwy’n siŵr, y bydd y Gweinidog yn mo’yn ei ystyried...

Datganiad Llywodraeth am Wyddoniaeth
A.Ff.J. Diolch i’r Gweinidog am y datganiad. Mae’n amlwg bod y cyswllt rhwng gwaith ymchwil gwyddonol a llwyddiant economaidd yn gwbl allweddol os yw Cymru’n mynd i fwrw ymlaen a dod yn llwyddiannus yn economaidd yn y dyfodol, ac roedd yn dda gallu dathlu gwyddoniaeth yn y Cynulliad ychydig wythnosau yn ôl a gweld brwdfrydedd yr addysgwyr a ddaeth yma’r diwrnod hwnnw.

Mae’n dda hefyd i allu dathlu llwyddiant yr ymchwil sy’n digwydd yng Nghymru, fel sydd wedi cael ei nodi yn barod, ond rydym yn dal yn fyr o darged y Llywodraeth i ennill cyfran deg o gyllid ymchwil y Deyrnas Unedig yma yng Nghymru. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod gan y Gweinidog beth sy’n cael ei wneud i sicrhau ein bod yn dod yn fwy llwyddiannus yn y dyfodol. Da hefyd yw nodi’r cydweithio rhyngwladol sy’n profi’n llwyddiannus yn ein prifysgolion, a bod hynny’n dod â llwyddiant i wyddonwyr a’r prifysgolion eu hunain.

O ran y cwestiynau, mi fyddwn yn hoffi gofyn hyn i’r Llywodraeth: sut y mae’r Gweinidog yn annog prifysgolion i wella eu perfformiad yn y maes? Sut, hefyd, y mae troi mwy o’r ymchwil da sy’n digwydd yn fusnesau ‘entrepreneurial’? Yn hynny o beth, mi fyddwn yn gwerthfawrogi cael rhagor o ystadegau am lwyddiant rhaglenni—er enghraifft, y rhaglen ‘life science’ y bu’n cyfeirio ati. Byddwn yn hoffi gweld mwy o ystadegau ynglŷn â faint o fusnesau sydd wedi cael eu sefydlu ac i ba raddau y mae’r rheini yn cyflogi.

O ran annog pobl ifanc, wrth gwrs, mae problem arbennig, fel y mae’n nodi yn ei datganiad, ynglŷn â merched yn dod i wyddoniaeth. Pa gefnogaeth y gall y Llywodraeth ei rhoi i gynlluniau i annog mwy o bobl ifanc i gymryd pynciau gwyddonol ar gyfer lefel A ac wedyn i wneud yr hyn yr oedd hi’n sôn amdano, sef mwynhau’r pynciau hynny a gweld y maes fel un y gellir ymhyfrydu a chael sbort ynddo, yn ogystal â chreu gyrfa ohono? Mae toriadau wedi bod yn rhai o’r rhaglenni hynny sy’n annog cystadlaethau mewn ysgolion, ac mi fyddwn yn hoffi gwybod pa gefnogaeth y mae’r Llywodraeth am ei rhoi i’r dyfodol er mwyn creu’r sefyllfaoedd hynny lle mae pobl ifanc yn gallu bod yn greadigol wrth astudio eu pynciau gwyddonol.

Edwina Hart: Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn parhau i weithio gyda'r prifysgolion a'u hannog i wella'r materion yr ydych wedi'u codi...

4 Mehefin
Cwestiynau i’r [Cyn] Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies
Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae’ch panel cynghori ar strategaeth coetiroedd yn dweud mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn llwyddo i gael y gwerth gorau o’i gytundebau. Y rheswm am hynny, medd y panel, yw bod y prosesau yn gymhleth, yn aneglur ac yn anghyson. Beth sydd wedi mynd o’i le?
A.D. Nid wyf yn cydnabod y dadansoddiad hwnnw...
Diwydiant Coed Meddal
A.Ff.J.  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ragolygon y diwydiant coed meddal yng Nghymru? 
A.D. Bydd y rhagolwg cynhyrchu ar gyfer y 50 mlynedd nesaf, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn helpu i ddangos i ba raddau y dylai'r sector prosesu coed fuddsoddi a chynllunio ei weithgareddau yn y dyfodol. Dylai'r wybodaeth annog buddsoddiad yn y defnydd o bren domestig, a fydd, yn ei dro, yn cefnogi twf economaidd a rheoli coetiroedd.
A.Ff.J. A ydych chi’n hyderus y bydd digon o goed meddal i ddiwallu angen y farchnad i’r dyfodol, o gofio bod y rhan fwyaf o’r coed hwnnw’n dod o goedlannau sydd ym meddiant y Llywodraeth?
A.D. Ydw...

Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sargeant
Lletyoedd Myfyrwyr

A.Ff.J. Mae ardaloedd cyfan mewn trefi a dinasoedd lle mae prifysgolion a cholegau addysg bellach—ond prifysgolion yn bennaf—yn dioddef oherwydd bod ardaloedd cyfan yn mynd i edrych yn flêr oherwydd cyflwr gwael y tai, sy’n cael eu rhentu wrth gwrs gan fyfyrwyr. A fydd eich Bil chi yn gwneud unrhyw beth i alluogi awdurdodau lleol i gael gwell trefn ar yr ardaloedd hyn, sy’n effeithio, wrth gwrs, ar fywydau’r trigolion sy’n byw yn yr ardaloedd hynny?
C.S. Dyma’r union reswm pam rydym yn cyflwyno’r cynllun trwyddedu landlordiaid...

Dadl y Ceidwadwyr: Yr Economi Ddigidol
A.Ff.J. Diolch am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl a chynnig y gwelliannau. Yn amlwg, bydd amryw o’m sylwadau yn ailddweud pethau sydd wedi cael eu dweud gan Eluned Parrott a hefyd gan William Graham achos mae’r themâu a’r problemau yn gyffredin ym mhob rhan o Gymru. Mae ehangu ac uwchraddio ein seilwaith digidol yn gwbl allweddol i sicrhau economi gryfach a chynaliadwy. Mae pawb yn gytûn ar hynny. Mae’r seilwaith hwnnw yn ddiffygiol iawn ar hyn o bryd. Mae pawb hefyd yn cytuno, byddwn i’n tybio, bod angen hyrwyddo defnydd band eang yng Nghymru. Mae lefelau gweithgarwch yn isel iawn yng Nghymru o’u cymharu ag ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig. Byddwn i’n hoffi clywed beth mae’r Llywodraeth yn mynd i’w wneud ynglŷn â hynny—hyrwyddo a gwella’r defnydd o fand eang.

Rwyf eisiau cyfeirio fy sylwadau yn bennaf at ddwy agwedd o’r pwnc, sef hynt a helynt y 4% na fydd y rhaglen Cyflymu Cymru yn cyrraedd ac rwyf hefyd am gael gwybodaeth well a chywirach am y cynnydd yn y rhaglen mae BT yn gyfrifol amdani. I ddechrau gyda rhaglen BT, mae gwybodaeth ddiweddaraf Ofcom yn dangos darlun digalon iawn, efo tua hanner tiriogaeth Cymru yn cael ei dynodi yn gategori 5, hynny yw y categori gwaethaf o ran perfformiad band eang. Felly, ble ydym ni ar hyn o bryd gyda’r rhaglen? Os ydych chi’n edrych ar ddiweddariad diwethaf BT, fe welwch ei fod yn cynnwys nifer o ffeithiau sydd, os ydyn nhw i gyd yn wir, yn rhyfedd iawn. Hynny yw, mae’n dweud bod 135,000 o anheddau wedi cael eu cysylltu bellach. Mae’n mynd ymlaen i ddweud: ‘by the end of spring 2014, 480,000 properties will be covered.’

Mae bellach yn ddiwedd gwanwyn 2014, ac fe hoffwn wybod a yw’r Llywodraeth yn gytûn bod 0.5 miliwn o anheddau wedi’u cysylltu fel rhan o’r rhaglen. Mae BT yn mynd ymlaen i ddweud ei fod, o’i arian ei hun, wedi cysylltu 600,000 o anheddau yng Nghymru. Os yw’r ffigurau yna i gyd yn gywir, yna rydym yn wir yn symud ymlaen yn llwyddiannus iawn. Fodd bynnag, mae gennyf fy amheuon am hynny, o’m profiad fel Aelod yn lleol. Mae angen inni gael diweddariad mwy cywir, er mwyn inni allu rhoi’r wybodaeth gywir i’n hetholwyr.
 
Mae gwelliant 5 yn canolbwyntio ar ddatblygu strategaeth debyg i’r un ar gyfer band llydan ym maes data symudol 4G. Byddai gwneud hynny o bosibl yn mynd ychydig o’r ffordd tuag at ateb problemau y 4%. Hoffwn ddod at hynny yn awr. Os bydd BT yn llwyddo i gyrraedd ei nod o sicrhau gwasanaeth band cyflym i 96% o anheddau a busnesau yng Nghymru, bydd 4% yn weddill. Roedd BT, a ddaeth gerbron y pwyllgor tua blwyddyn yn ôl, yn eithaf hyderus ynglŷn â’r ffigwr hwnnw, a’n sôn hefyd bod datblygiadau diweddar yn golygu ei fod yn gallu cyrraedd lleoedd nad oedd yn meddwl y gallai eu cyrraedd. Fodd bynnag, nid dyna’r dystiolaeth ar lawr gwlad.

Felly, y cwestiwn yw hyn: beth a ddaw o’r 4%? Beth yw cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y 4%? Mae amryw o’r 4% yng nghefn gwlad, fel rydym wedi’i glywed, ond maent hefyd mewn cymoedd poblog ôl-ddiwydiannol ac mewn rhai ardaloedd yn ein dinasoedd, fel y dywedodd Eluned Parrott. Beth bynnag a fydd yn digwydd, mae amryw o anheddau yn mynd i gael band eang gwell, ond oherwydd y llinellau copr i’r cabinet a phellter, ni fydd y cyflymder yn cyrraedd y lefelau aruchel yr oeddem wedi gobeithio eu cyrraedd. Beth fydd yn digwydd i’r 4%? Dyna’r cwestiwn yr hoffwn gael ateb yn ei gylch gan y Dirprwy Weinidog heddiw. Mae’n bosibl y byddai ehangu’r rhwydwaith 4G yn cynnig un ateb i’r broblem honno, ond, hyd y gwn i, nid oes strategaeth gynhwysfawr gan y Llywodraeth i ehangu’r rhwydwaith honno ychwaith. Felly, er bod newyddion da, rydym eisiau cael ein sicrhau bod y Llywodraeth hefyd yn edrych ar yr ardaloedd hynny na fydd yn elwa o’r rhaglen bresennol.

10 Mehefin
Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones
Diwydiannau Creadigol

A.Ff.J. Y cymorth uniongyrchol amlycaf i’r diwydiannau creadigol yw cronfa diwydiannau creadigol y Llywodraeth. Fel Cyllid Cymru, arian cyhoeddus yw hwnnw sydd yn cael ei fuddsoddi mewn mentrau neu brosiectau preifat. A wnewch chi ryddhau’r manylion ynglŷn â’r gronfa hon, os gwelwch yn dda, megis faint o fuddsoddiadau sydd wedi cael eu gwneud a faint o ad-daliadau sydd wedi dod yn ôl i’r Llywodraeth, er mwyn trylwyredd a llywodraeth agored?
C.J. Fe ofynnaf i’r Gweinidog i ysgrifennu â mwy o fanylion.
11 Mehefin

Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert
Comisiynydd Plant Cymru
A.Ff.J. Beth yw prif gyfraniad y comisiynydd a’i swyddfa i wella lles a gobeithion plant Cymru?
J.C. Mae’r comisiynydd yn gweithredu i raddau helaeth fel llais annibynnol ac yn trafod materion sy’n effeithio ar blant gyda mi yn rheolaidd...

17 Mehefin
Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones
Cyfartaledd Cyflog

A.Ff.J. Mae’r gwasanaeth gofal, fel rydych yn dweud, yn llawn merched yn gweithio, ac wrth gwrs, mae’n sector lle, yn draddodiadol, mae cyflogau yn isel iawn—fel arfer, dim ond yr isafswm cyflog sy’n cael ei dalu. Hefyd, mae’n faes sy’n llawn contractau dim oriau. Rydych wedi cyfeirio at ddyletswydd y Llywodraeth yn Llundain; a yw’r pwerau gan y Llywodraeth yng Nghymru i ddylanwadu ar y sefyllfa anffodus hon, sydd, wrth gwrs, yn tanseilio gallu merched i ennill cyflog teg?
C.J. Rhywfaint, ond ddim digon. Mae’n glir nad oes gennym y pwerau dros gyflogaeth...

Datganiad Polisi’r Iaith Gymraeg
A.Ff.J. A gaf innau roi croeso gochelgar i’r datganiad? Rwy’n cytuno â’ch gosodiad tua diwedd eich datganiad, sef na ddylai unrhyw un sy’n becso am ddyfodol yr iaith gredu mai mater i’r Llywodraeth yn unig ydyw. Mae hynny’n berffaith gywir. Ond, mae’n rhaid i’r Llywodraeth arwain ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth gael ei gweld yn arwain. Nid wyf yn siŵr bod y cyfeiriad yn ddigon clir yma, sef cyfeiriad a fyddai’n chwyldroi'r sefyllfa bresennol.
Mae gennyf un sylw a dau neu dri o gwestiynau. O ran maes addysg, rwy’n pryderu’n fawr am y distawrwydd ynglŷn â’r cyfnod sylfaen. Rwy’n credu, os ydym am chwyldroi’r sefyllfa, fod yn rhaid i ni gyflwyno’r Gymraeg fel rhan o’r rhaglen honno ac mae’n rhaid i ni felly baratoi gweithlu ar gyfer hynny. Rydych yn cyfeirio at gyrff y bydd ganddynt ddyletswyddau i hyrwyddo’r Gymraeg, ac yna’n dweud y bydd y safonau yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau asesu effaith eu penderfyniadau polisi ar yr iaith. Pa sefydliadau yw’r rheini? A ydynt y tu allan i’r awdurdodau lleol, y parciau a’r Gweinidogion? Os felly, pa rai fyddant?

Gofynnaf i chi hefyd ateb y cwestiwn a ofynnodd Simon Thomas ynglŷn â chanolfannau twf, sef yr argymhelliad a wnaeth y gweithgor ar yr economi a’r iaith. A ydych yn mynd i weithredu ar hyn neu a ydych wedi gwrthod yr argymhelliad?

Yn olaf, o ran y cynllunio, rydych yn dweud eich bod yn archwilio pob cam ymarferol i gryfhau’r Gymraeg yn y system gynllunio. A allwch chi ddweud wrthym beth yn union yw’r camau ymarferol hynny? Barn swyddogion cynllunio yr wyf wedi trafod â hwy yw ei bod yn anodd iawn gweithredu’n gadarnhaol o blaid y Gymraeg heb fod cyfeiriad penodol ar wyneb y Bil cynllunio ynglŷn â hynny. Gallwch fanylu wedyn ynglŷn â’r math o ymyrraeth y gallwch ei wneud o dan y Bil cynllunio. Rwy’n derbyn nad yw’n rhwydd, ond, heb hynny, rwy’n credu y bydd yn anodd iawn i awdurdodau wneud dim byd y tu hwnt i’r cynllun lleol ei hun. Mae cyfyngiadau ar hynny, wrth gwrs.

18 Mehefin
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths
Gweithio ar y Cyd rhwng Gwasanaethau Cyhoeddus

A.Ff.J. Mewn adroddiad a ryddhawyd ym mis Ionawr ynglŷn ag ymdrin â’r heriau ariannol sy’n wynebu llywodraeth leol yng Nghymru, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dweud bod disgwyliadau afreal o ran manteision ariannol cydweithio. A ydych chi’n cytuno â’r archwilydd cyffredinol?
L.G. Fel y dywedais, nid oes diben gydweithredu er ei fwyn ei hun, ond rwy’n meddwl ei fod yn fodd o gefnogi integreiddio gwasanaethau...

Dadl Plaid Cymru: yr M4 o amgylch Casnewydd
A.Ff.J. Rwy’n falch o gael cyfle i gymryd rhan yn y drafodaeth hon. Bydd Aelodau yn ymwybodol bod y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd rwy’n ei gadeirio yn craffu penderfyniad y Llywodraeth i hyrwyddo llwybr i M4 newydd, y llwybr du, a materion cysylltiol. Serch hynny, rwyf am ei wneud yn glir heddiw mai fel llefarydd cyllid Plaid Cymru rwy’n cyfrannu at y ddadl hon heddiw. Gyda llaw, mae’r llythyr hwnnw wedi bod yn gyhoeddus ers dros wythnos.

Ar 5 Mai eleni, dywedodd y Gweinidog Cyllid y byddai’n gwneud defnydd llawn o’r hawl benthyg o £500 miliwn sydd yn Bil Cymru. Ychwanegodd y byddai’n defnyddio corff na fydd yn dosbarthu elw i godi £300 miliwn arall i gwblhau rhannau 5 a 6 o’r A465 erbyn 2020, a dywedodd y Gweinidog hefyd y byddai £200 miliwn pellach yn cael ei godi drwy ddull tebyg i ddatblygu canolfan gofal cancr arbenigol yn Felindre. Rhoddodd y Gweinidog addewid i ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth eraill yn y gogledd hefyd drwy’r un dull ariannu, mae’n debyg, a gwyddom fod y Llywodraeth wedi manteisio ar allu benthyca llywodraeth leol a chymdeithasau tai er mwyn hyrwyddo cynlluniau cyfalaf, ac rydym wedi bod yn gefnogol iawn i hynny oherwydd ein bod yn credu bod hynny’n bwysig i’r economi, ond hefyd er mwyn datblygu isadeiledd Cymru.

Ar y pryd, croesewais y dull arloesol hwn o godi cyfalaf gan y Llywodraeth fel un o’r ychydig ffyrdd y gallai geisio lliniaru’r toriadau a wnaed i gyllidebau cyfalaf gan Lywodraeth y DU. Unig feirniadaeth Plaid Cymru oedd y dylai’r gwaith ar y model cyllid arloesol fod wedi ei ddechrau a’i orffen lawer ynghynt. Yn wir, roedd datblygu model nad yw’n dosbarthu yn ein maniffesto ar gyfer 2011, o dan y teitl ‘Adeiladu i Gymru’. A bod yn deg, roedd y Gweinidog Cyllid bob amser yn gefnogol i bolisi o’r fath; nid oedd eraill yn ei phlaid. Yn anffodus, efallai bod hynny wedi arwain at oedi wrth ddatblygu’r dull. Wedi dweud hynny, rydym yn awr mewn sefyllfa lle mae rhai cynlluniau yn mynd yn eu blaenau, neu ar fin mynd yn eu blaenau.
Mae’n rhaid cofio i fodel ‘Adeiladu i Gymru’ Plaid Cymru gael ei hyrwyddo fel ymateb i’r diffyg pwerau benthyca a methiant y fenter cyllid preifat i sicrhau gwerth am arian.

Bydd yn rhaid i’r ymrwymiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud gan ddefnyddio modelau ariannu arloesol gael eu talu yn ôl yr un fath, felly wir unrhyw gyllid arall rydym yn ei fenthyca ar gyfer buddsoddiad cyfalaf. Rydym yn edrych ar symiau mawr iawn o arian refeniw yn cael eu hymrwymo i dalu dyled. Gyda’r rhan fwyaf o gyllid refeniw Llywodraeth Cymru yn dal i fynd ar iechyd ac addysg, rhaid i ni fod mewn sefyllfa lle y gellir cyfiawnhau benthyca ar raddfa fawr a lle y mae iddo gefnogaeth wleidyddol eang. Nid oes gennym y gefnogaeth eang honno i’r M4 newydd, ac nid yw’r Llywodraeth wedi mynd allan o’i ffordd i geisio’r gefnogaeth honno.

Mae’n hanfodol bod budd buddsoddiad cyfalaf yn cael ei deimlo ar draws Cymru gyfan. Nid yw hyn yn fater o droi gwahanol ardaloedd o Gymru yn erbyn ei gilydd. Fel y gwyddom, mae prosiectau cyfalaf wedi cael eu cymeradwyo yng ngogledd-orllewin Cymru—er enghraifft, ffordd osgoi y Bontnewydd dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Nid yw’n fater o ddadlau nad oes dim yn digwydd y tu hwnt i dde-ddwyrain Cymru. Fodd bynnag, y risg gyda’r llwybr du a ffefrir gan Lywodraeth Cymru yw y gall prosiectau yn y dyfodol gael eu gohirio oherwydd cost ariannol aruthrol y cynllun dan sylw hwn. Mae Plaid Cymru bob amser wedi gwrthwynebu’r cysyniad o M4 newydd i’r de o Gasnewydd, ond mae’n parhau i gefnogi buddsoddiad cymesur a chynaliadwy i liniaru problemau coridor yr M4.

24 Mehefin
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths
Gwario Cyfalaf

A.Ff.J. Mae cynlluniau cyfalaf yn eithriadol o bwysig, wrth gwrs, i lwyddiant yr economi; byddwn yn clywed mwy yn nes ymlaen y prynhawn yma am hynny. A yw’r Llywodraeth yma yng Nghymru yn credu y dylai Cymru gael arian canlynol o fformiwla Barnett yn dilyn y gwario sylweddol a fydd ar greu HS2?
L.G. Yn amlwg, mae’r rheini’n drafodaethau sy’n parhau gyda Llywodraeth y DU...

Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths
Adfywio ar Sail Treftadaeth

A.Ff.J. Rhan o dreftadaeth gogledd Cymru, wrth gwrs, yw’r chwareli a’r trenau bach a oedd yn cario gweithwyr a llechi i ac o’r chwareli hynny. Un o’r llwyddiannau diweddar yw’r rheilffyrdd bach, ac un ohonynt yw rheilffordd llyn Padarn yn Llanberis. A fyddech chi’n ymuno â mi i longyfarch y criw sydd wrthi gyda’r cwmni dielw ar gynnal gŵyl ynni i blant ysgolion cynradd yr ardal? Hefyd, a fyddech chi’n hoffi derbyn gwahoddiad i deithio ar y trên hyfryd hwnnw ar hyd glannau llyn Padarn?
J.G. Fel llawer o Aelodau yma heddiw, mae’n siŵr gennyf, rwyf yn mwynhau teithio ar y trên yn fawr iawn, a byddwn yn falch iawn o dderbyn y gwahoddiad hwnnw gan Alun Ffred Jones...

Datganiad: Buddsoddi yn Seilwaith Cymru
A.Ff.J.  Diolch am y datganiad. Yn gyffredinol, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn croesawu’r cyfeiriad y mae’r Llywodraeth yn ei ddilyn o ran gwariant cyfalaf. Roedd Plaid Cymru wedi adnabod yr angen am gynnal gwariant cyfalaf ac i ychwanegu ato i geisio cynnal cyflogaeth ac i roi hwb i gwmnïau yn ystod y dirwasgiad ers cyn yr etholiad.

Roeddem hefyd wedi nodi’r angen i chwilio am ffynonellau ychwanegol o arian cyfalaf, ac, wrth gwrs, dyna oedd wrth wraidd ein cynllun, ‘Build for Wales’, ac er i’r Prif Weinidog ddifrïo’r syniad hwnnw i ddechrau, rwy’n falch iawn o weld bod cynllun o’r fath yn rhan o strategaeth y Llywodraeth hon.

A gaf fi hefyd groesawu’r cyhoeddiadau heddiw ynglŷn â gwariant ychwanegol ar dai cymdeithasol? Mae hynny i’w groesawu’n fawr iawn; mae’r angen yn fawr iawn ac fe fydd nid yn unig yn diwallu’r angen, ond yn hwb i gwmnïau adeiladu.

Un anhawster gyda’r adroddiad hwn, fel rwyf yn ei weld, yw bod y rhestr cynlluniau yn rhedeg dros nifer fawr o flynyddoedd, ac mae’n anodd, os nad yn amhosibl, gweld beth sydd yn digwydd mewn un flwyddyn. Rwy’n meddwl bod angen cyflwyniad ychydig yn fwy manwl er mwyn i ni gael gwerthuso llwyddiant ac aflwyddiant y cynlluniau hyn. Er enghraifft, cafodd cynllun ailddyblu’r rheilffordd Wrecsam i Saltney ei gyhoeddi, os ydw i’n cofio’n iawn, yn ystod Llywodraeth Cymru’n Un, a dim ond rŵan y mae’n cael ei wireddu. Felly, rwy’n credu bod lle i wella’r ffordd yr ydym yn cyflwyno’r wybodaeth sydd ar gael.

A gaf i hefyd ddweud ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n gwerthuso llwyddiant ac effaith y cynlluniau hynny? Wrth gwrs fod cynlluniau o’r fath yn cynnig cyflogaeth, ac mae hynny i’w groesawu, ond rwy’n meddwl y dylai’r Llywodraeth fod yn gwneud rhyw fath o ymdrech i geisio gwerthuso llwyddiant y cynlluniau hyn ar ôl iddynt gael eu cyflawni. Nid oes dim, neu ychydig iawn o arwydd o hynny sydd yn yr adroddiad.

O ran cwestiynau, mae caffael yn dal i fod yn elfen bwysig iawn o lwyddiant neu aflwyddiant y gwariant cyfalaf hwn a’r angen i weld cymaint o gwmnïau o Gymru â phosibl yn ennill cytundebau o’r fath. Felly, a wnaiff y Gweinidog amlinellu dangosyddion tryloyw a mesuradwy am ganran y contractau caffael cyhoeddus sy’n cael ei hennill bob blwyddyn gan gwmnïau sydd wedi’u seilio yng Nghymru?

Hefyd, yn natganiad diweddaraf y Gweinidog ar fodelau cyllido arloesol, a groesawyd gennym yn gyffredinol, soniodd y Gweinidog fod prosiectau trafnidiaeth yn y gogledd yn cael eu hystyried. A fyddech chi’n gallu manylu ar y cynlluniau hyn a beth yn union sydd dan ystyriaeth o safbwynt yr angen i wella’r A55, ystyriaethau ynglŷn â chroesfan newydd ar draws afon Menai a rheilffordd ar draws y gogledd hefyd?

A sôn am reilffyrdd, rydym ni eisiau gwybod a yw’r Llywodraeth yn cytuno â Phlaid Cymru y dylai Cymru, pan aiff prosiect HS2, a HS3 o bosibl, ymlaen, gael cyfran o’r gwariant hwnnw i’n pwrpas ein hunain gan eu bod nhw, i bob pwrpas, yn gynlluniau penodol ar gyfer Lloegr. Rwy’n credu ei bod yn bwysig inni wybod beth yw safbwynt y Llywodraeth ar hynny.

Yn olaf, o ran effaith y gwariant hwn a’r benthyciadau newydd hyn ar y gyllideb refeniw, gan gynnwys y dulliau cyllido arloesol hynny, mae angen mwy o fanylion arnom am y trefniadau ad-dalu ar gyfer unrhyw fenthyca a buddsoddiadau drwy fecanweithiau di-ddifidend. Felly, a oes modd i ni gael hynny, naill ai fel rhan o’r adroddiad blynyddol neu fel rhan o adroddiad pellach gan y Gweinidog yn y dyfodol?
25 Mehefin

Dadl Plaid Cymru: Gweithgaredd Corfforol
A.Ff.J. Rwyf am siarad am gyfleusterau chwaraeon yn bennaf, a gwasanaethau, ac mae’r pwynt wedi cael ei wneud yn gynharach, wrth gwrs, nad oes rhaid i chi gymryd rhan mewn chwaraeon ffurfiol er mwyn bod yn iach ac er mwyn eich lles corfforol. Mae hynny’n berffaith wir. Ar y llaw arall, nid oes dwywaith bod cymryd rhan mewn chwaraeon o ryw fath, boed yn gystadleuol neu fel arall, yn rhoi pleser di-ben-draw ac yn llesol ar sawl lefel.

Rwy’n hoff iawn o’r dyfyniad hwnnw gan y chwaraewr pêl-droed hyfryd hwnnw o Frasil Oscar a ddywedodd rywdro: ‘Beauty comes first. Victory is secondary. What matters is joy.’ Wrth gwrs, roedd o’n gallu fforddio dweud hynny gan ei fod yn gystal chwaraewr, ond ta waeth.
Cyn y gallwn ni sôn am chwaraeon a chymryd rhan mewn chwaraeon, mae angen cyfleusterau, boed rheiny yn rai cyhoeddus, trydydd sector neu breifat, a strwythurau sy’n cynnal y gweithgarwch hwnnw. Rwy’n falch iawn o weld ffigurau calonogol Chwaraeon Cymru am y niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Maent i’w croesawu yn fawr iawn, ac, yn sicr, o 2008 ymlaen, pan oedd gennyf ryw fath o gyfrifoldeb am y maes hwn yn Llywodraeth Cymru’n Un, fe ddaru Chwaraeon Cymru, ac iddo mae’r clod, ganolbwyntio ar ddatblygu hyfforddi arweinwyr a fyddai’n hyrwyddo a datblygu gweithgarwch chwaraeon o fewn clybiau a chwaraeon gwahanol. Mae wedi talu ar ei ganfed ac mae i’w ganmol yn aruthrol am y llwyddiant hwnnw. Roedd y pwyslais yn gwbl iawn. Roedd yn manteisio ar frwdfrydedd y strwythurau ar lawr gwlad, wrth gwrs.

Fodd bynnag, wrth edrych ymlaen, y gwir amdani ydy bod y wasgfa ar lywodraeth leol yn bygwth ein cyfleusterau chwaraeon ni ledled y wlad, ac rydym ni wedi gweld cyfleusterau’n cael eu cau yn Wrecsam ac mewn lleoedd eraill wrth i’r esgid wasgu. Yn y blynyddoedd nesaf, rydym yn disgwyl neu’n ofni y bydd toriadau llym ar wario a chyllidebau llywodraeth leol, efallai dros 3%. Yn wyneb y cystadleuaeth neu’r angen o’r sector statudol, y gofynion o ran addysg a gwasanaethau cymdeithasol, fe allwch chi weld pam byddai cynghorau yn edrych yn fanwl ar eu gwariant ym maes hamdden. Rwy’n credu mai camgymeriad fyddai hynny, ond nid oes dwywaith bod hyn yn berygl gwirioneddol.

Felly, beth ydym yn eu cynnig fel atebion ym Mhlaid Cymru? Yn sicr, rydym yn cytuno â Chwaraeon Cymru bod angen gweld cydweithio rhwng cynghorau, ond nid wyf yn credu byddai hynny’n ddigon. Rydym hefyd yn meddwl y dylid edrych yn fanwl ar y posibiliadau o ryw fath o gerdyn ‘Oyster’ lles cenedlaethol er mwyn caniatau i ddinasyddion Cymru ddefnyddio cyfleusterau mewn gwahanol rannau o’r wlad. Yn sicr, o ran datblygu a chynnal y cyfleusterau, mae’n rhaid ar batrymau o’r newydd. Mae Bethan Jenkins wedi cyfeirio at Iwerddon, lle mae partneriaethau chwaraeon lleol yn gyfrifol am hyrwyddo cyfranogiad mewn chwaraeon ar lawr gwlad. Nid yw hynny mor wahanol i’r hyn mae Chwaraeon Cymru yn ceisio anelu ato, heblaw nad yw’r strwythurau hynny yn eu lle.

Fodd bynnag, nid oes dwywaith yn fy marn i bod yn rhaid i ni edrych ar y brwdfrydedd hwnnw a’r diddordeb hwnnw sydd yn bodoli o fewn chwaraeon ac o fewn clybiau ym mhob rhan o Gymru fel un ateb i’r problemau. Yn Sweden, maent yn dibynnu ar y sector gwirfoddol i drefnu gweithgarwch chwaraeon a rhedeg cyfleusterau, ond gyda chymorth llywodraeth leol a’r wladwriaeth. Mae hwn yn fodel ac yn strwythur yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn awyddus i weld yn datblygu yng Nghymru er lles, wrth gwrs, ein pobl, a hefyd fel ffordd o ymbweru a rhoi egni i’n pobl ar lawr gwlad, a chyrraedd yr hyn yr ydym i gyd eisiau gweld, sef cenedl iach a ffit sydd hefyd yn cael llwyddiant ar y llwyfan ryngwladol.