ADRODDIAD MISOL

23/06/2014

Alun Ffred Jones AC

Aelod Cynulliad Arfon

Mai 2014

Dyddiadur y Mis

Dydd Iau, Mai 1

Bore - Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd

Pnawn – siarad yng nghynhadledd Renewable UK Cymru yn Neuadd y Ddinas Caerdydd

Dydd Gwener, Mai 2

Swyddfa Caernarfon

Dydd Llun, Mai 5

Gŵyl y Banc

Dydd Mawrth, Mai 6

Plenary yn y pnawn

Dydd Mercher, Mai 7

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Plenary – pm

Cyfarfod Dyfodol i’r Iaith – cynllunio’r Gymraeg yn y Senedd gyda’r nos

Dydd Iau, Mai 8

Pwyllgor Cyllid yn y bore

Cyfarfod briffio technegol ar Bil Cymru

Hedfan nôl i’r gogledd yn y pnawn

Canfasio gyda’r nos

Dydd Gwener, Mai 9

Cymhorthfa Caernarfon

Cyfarfod gydag Adran Datblygu’r Economi, Cyngor Gwynedd – adborth cais S4C

Pwyllgor Ymgyrch gyda’r nos

 Dydd Llun, Mai 12

Gyrru i Gaerdydd

Dydd Mawrth, Mai 13

Cyfarfod trawsbleidiol  ar yr Iaith Gymraeg

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Dathlu llwyddiant Nant Gwrtheyrn – amser cinio

Plenary – pnawn

Dydd Mercher, Mai 14

Pwyllgor Cyllid – bore

Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru yn y Cynulliad – amser cinio

Plenary – pnawn

Dydd Iau, Mai 15

Pwyllgor Amgylchedd - ymweliadau â choedwig Garwnant ger Merthyr a melin lifio CSW ym Mhontnewydd ar Wy

Talwrn Gŵyl Fai - cyflwyno ym Mhenygroes

Dydd Gwener, Mai 16

Cyfarfod Jill Evans – bore

Cyfarfod ynglŷn â pholisi cynllunio Gwynedd  gydag Aled Davies - pnawn

Cymhorthfa Caernarfon – pnawn

Dydd Sadwrn, Mai 17

Canfasio – Groeslon – bore

Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle - pnawn

Dydd Llun, Mai 19

Cyfarfod gyda chynrychiolwyr HSBC gyda Hywel Williams AS i drafod gwrthwynebu cau cangen HSBC ym Mhenygroes

Mynd i Lyn Ogwen i lansio adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd ar reoli tir yn gynaliadwy

Dydd Mawrth, Mai 20

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – bore

Ysgol Gynradd Rhostryfan yn ymweld â’r Cynulliad

Plenary a briff ar y Bil Cenedlaethau i’r Dyfodol – pnawn

Dydd Mercher, Mai 21

Cadeirio Pwyllgor Amgylchedd – bore

Ysgol Llanllyfni yn ymweld â’r Cynulliad

Noddi digwyddiad W.I. ar hynt y Stryd Fawr

Cyfweliad i’r rhaglen Manylu

Plenary

Dydd Iau, Mai 22

Hedfan i fyny – bore

Cyfweliad gydag Eifion Glyn ar Safonau’r Iaith Gymraeg – Byd ar Bedwar

Dydd Gwener, Mai 23

Swyddfa Caernarfon

Ymweliad gyda Hywel Williams â Neuadd Carmel i sioe wedi ei threfnu gan ysgolion Bronyfoel, Carmel a Groeslon.

Dydd Mawrth, Mai 27

Cyfarfod Dafydd Meurig a Dyfed Jones yn Nhalybont  i drafod diogelwch plant yn mynd i Ysgol Llandygai.

Cymhorthfa yng Nghaernarfon.

Cyfarfod gyda Dilwyn Williams prif weithredwr newydd Cyngor Gwynedd.

Dydd Mercher, Mai 28

Eisteddfod yr Urdd

Derbyniad yn yr Annedd Wen  a gweld Seremoni'r Fedal Ddrama a Neges Ewyllys Da a galw heibio nifer o stondinau ar y maes.

Dydd Iau, Mai 29

Seremoni Baton Gemau’r Gymanwlad yng Nghanolfan Hamdden Arfon

Cyfarfod gyda Geraint Day yn y pnawn a thrafod trefniadau swyddfa Bangor.

Dydd Gwener, Mai 30

Cyfweliad ar y Post Cynta’

Dydd Sadwrn, Mai 31

Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru yn Wrecsam.

Cyfle i ymweld â chanolfan gydweithredol Saith Seren.

CWESTIYNAU AC AREITHIAU

6 Mai

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Swyddi

A.Ff.J. Gyda golwg ar eich sylwadau chi ynglŷn â’r economi, mae adroddiad y bore yma sy’n dangos bod 46,000 yn llai o swyddi yng Nghymru yn 2013 nag yr oedd yn 2008. Mae’r patrwm hwnnw yn gyffredin i lawer iawn o ranbarthau Lloegr hefyd. Dim ond de-ddwyrain Lloegr sy’n dangos twf mawr yn nifer y swyddi parhaol. Mae hynny’n cael ei guddio i ryw raddau gan dwf yn y sector hunangyflogedig, ond mae llawer o’r rheini yn swyddi rhan-amser, yn ôl y dadansoddiad sydd wedi cael ei wneud. A ydych yn derbyn bod cael economi ym Mhrydain lle mae’r twf aruthrol hwn yn digwydd mewn un rhan, tra bo gweddill y rhanbarthau a’r cenhedloedd yn dioddef, yn gamgymeriad a’i fod mewn gwirionedd yn tanseilio dyfodol economaidd llewyrchus i bob rhan o Brydain?

C.J. Mae hynny’n iawn, yn fy marn i. Mae gormod o bwyslais wedi cael ei ddodi ar dyfu’r economi yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr...

Cwestiynau i Jane Hutt, Gweinidog Cyllid

 Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru: Cyfleoedd ar gyfer Buddsoddiad Newydd

A.Ff.J. Mae Plaid Cymru yn falch iawn o gael croesawu’r cyhoeddiad hwn heddiw, er yn gresynu ei fod wedi cymryd tair blynedd inni ddod â hwn i fwcwl a’i gyhoeddi yma. Mae’n werth cofio ym maniffesto’r blaid yn 2011 inni ddweud yn glir bod angen gwario o leiaf £2 biliwn ar gynlluniau cyfalaf yn ychwanegol at Barnett i gynnal cyflogaeth a hyrwyddo busnesau yng Nghymru, a hynny, wrth gwrs, oherwydd y dirwasgiad a’r diweithdra roeddem ni’n eu rhagweld ar y pryd. Yn y dyddiau hynny, roedd pwerau benthyg yn bell iawn i ffwrdd a dyna pam y cyflwynodd y blaid y syniad o’r cynllun ‘Build for Wales’, syniad, a bod yn deg, a gefnogwyd gan y Gweinidog sydd yma heddiw’n gwneud y cyhoeddiad. Yn anffodus, dewisodd y Blaid Lafur feirniadu’r syniad fel un cwbl anymarferol, ond dyma ni heddiw a dyma’r Llywodraeth yn cyhoeddi cynllun sydd ar yr un llinellau â ‘Build for Wales’, gyda’r un amcanion a’r un bwriad, felly da iawn.

Rydych chi’n cyfeirio yn eich datganiad eich bod eisoes wedi sicrhau dros £1 biliwn o wariant cyfalaf ychwanegol. A wnewch chi fanylu o ble yn union yr ydych wedi cael yr £1 biliwn hynny, a chadarnhau bod yr arian yr ydych yn ei gyhoeddi heddiw yn £1 biliwn ychwanegol at hynny a bod y benthyciad y mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol o £500 miliwn yn gwneud, felly, gyfanswm o wariant cyfalaf ychwanegol o £2.5 biliwn, sy’n agos iawn at ffigyrau Plaid Cymru yn ôl yn 2011?

Rydym yn croesawu’r buddsoddiad yn ffordd Blaenau’r Cymoedd—sef cynllun a hyrwyddwyd gan y cyn Ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones—a’r buddsoddiad yn Felindre.

Rydych wedi cyfeirio at gynlluniau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru—a wnewch chi fanylu beth yn union yw’r cynlluniau hyn? Mae llawer o niwl o’u cwmpas o’u cymharu â rhai o’r cynlluniau eraill yr ydych yn cyfeirio atynt. A ydynt yn cynnwys, er enghraifft, bont newydd dros y Fenai, neu drydaneiddio rheilffordd y gogledd, neu drydaneiddio rheilffordd y canolbarth? Mae’n bwysig bod pob rhan o Gymru yn derbyn rhywfaint o fudd o’r arian strategol hwn—wrth gwrs, mae eisiau ei wario yn strategol, nid ei ddosbarthu o gwmpas y wlad, ond mae’n bwysig bod dosbarthiad daearyddol eang o’r arian hwn i sicrhau'r buddiannau yr ydych chi eich hun wedi cyfeirio atynt yn eich datganiad.

Mae cyfeiriad wedi cael ei wneud hefyd bod angen inni wneud y gorau o’r arian hwn o ran sicrhau mwy o gytundebau i gwmnïau o Gymru, a hynny am resymau amlwg nad oes angen mynd ar eu holau heddiw, yn union fel y dywedodd Gerry Holtham yn ôl yng ngwanwyn 2011. Beth yw’r ystadegau diweddaraf am ganran y contractau cyfalaf fel hyn sy’n dod i gwmnïau o Gymru? Os nad yw’r ffigyrau hynny gennych heddiw, a fyddech yn barod i ddiweddaru’r Cynulliad ynglŷn â’r sefyllfa honno? Mae’n rhaid inni godi’r ganran honno o’r 50% presennol yn nes at 75% er mwyn inni sicrhau'r budd gorau i bobl Cymru a busnesau Cymru.

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Alun Ffred Jones. Rwyf yn falch iawn eich bod yn croesawu'r cyhoeddiad hwn heddiw. Wrth gwrs, mae'n dod ar ben y gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni...

7 Mai

Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Mark Darkeford

A.Ff.J. Nid wyf yn disgwyl sylw ar yr achos unigol, ond mae etholwr i mi wedi bod yn disgwyl am fisoedd i gael archwiliad colonosgopi. Nid oedd y canlyniadau’n eglur, ac mi fydd angen archwiliad pellach, gwahanol. Mae ef bellach wedi mynd yn ôl i waelod y ciw nesaf. Pe bai’n fodlon talu, mi fyddai’r un arbenigwr sydd yn ei drin yn fodlon trefnu archwiliad o fewn wythnosau yn yr un ysbyty. Pam y mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn goruchwylio trefn sy’n rhoi gwell gofal iechyd i’r rhai sy’n gallu talu amdano?

Mark Drakeford; Clywais yr hyn yr oedd yr Aelod wedi ei ddweud, ond heb weld manylion a chefndir yr achos y mae’n ei godi, mae’n amhosibl i fi ateb y cwestiwn. Os yw’n dymuno ysgrifennu ataf, achos mae’n codi pethau pwysig—

A.Ff.J.

Mae pawb yn gwybod.

M.D. Wel, nid wyf wedi gweld y manylion o gwbl, ond rwy’n fodlon—os yw’r Aelod yn fodlon ysgrifennu ataf—i edrych i mewn i’r hyn y mae ef wedi ei ddweud ac i’w ateb yn llawn, achos mae’r pwyntiau y mae wedi eu codi yn bwysig.

Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Jeff Cuthbert

Datblygu Cynaliadwy

A.Ff.J. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu cynaliadwy?

Jeff Cuthbert: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae cynaliadwyedd a sicrhau’r llwybr datblygu hirdymor cywir ar gyfer Cymru yn ganolog i’n rhaglen lywodraethu. Rwy’n edrych ymlaen at groesawu barn yr Aelodau ar yr adroddiad blynyddol diweddaraf ar ddatblygu cynaliadwy pan fyddwn yn ei drafod ym mis Gorffennaf ac edrychaf ymlaen at gyflwyno Bil cenedlaethau’r dyfodol yn fuan wedi hynny.

A.Ff.J.

Mae’r term ‘datblygu cynaliadwy’ wedi ei gynnwys yn nwy Ddeddf Cymru. Beth yw diffiniad Llywodraeth Cymru o’r term ‘datblygu cynaliadwy’ erbyn hyn?

J.C. Rydych yn llygad eich lle—mae gennym ddiffiniad ʻCymru’n Un: Cenedl Un Blaned’. O ran wyneb y Bil cenedlaethau’r dyfodol, mae’n debygol mai diffiniad Brundtland fydd yn ymddangos...

Dadl ar Ynni

A.Ff.J. Rwy’n falch o gymryd rhan yn y drafodaeth hon heddiw, ac mae’r ffaith ein bod wedi gosod nifer o welliannau yn dangos ein bod yn cymryd y ddadl hon o ddifrif.

Mae newid hinsawdd wedi’i wthio i gyrion y drafodaeth wleidyddol yn y blynyddoedd diwethaf, am resymau amlwg, ac mae hynny wedi bod yn gamgymeriad mawr. Mae rhybuddion y gwyddonwyr yn dychryn—ac mi ddylent fod yn dychryn—y byd i gyd. Mae adroddiadau diweddar, fel y clywsom yn gynharach, yn tanlinellu’r dystiolaeth sydd wedi cael ei chyflwyno dros ddegawd a mwy erbyn hyn. Mae’n rhaid inni ymateb, ac mae’n rhaid inni symud oddi wrth ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.

Er fy mod yn gwerthfawrogi ysbryd y cynnig gan y Rhyddfrydwyr Democrataidd, ac yn cytuno efo llawer iawn—y mwyafrif, mae’n siŵr—o sylwadau Bill Powell, mae’n rhaid i’r blaid dderbyn ei chyfrifoldeb fel rhan o’r glymblaid yn Llundain. Fodd bynnag, rwy’n cytuno’n llwyr â sylwadau Bill Powell ar agweddau dall a dwl UKIP tuag at newid hinsawdd—agweddau peryglus iawn pe bai’n llwyddiannus yn etholiadau yn y dyfodol.

A gaf i gyfeirio at rai o’r gwelliannau yr ydym wedi’u cyflwyno? Mae’r gwelliant cyntaf, gwelliant 2 yn enw Elin Jones, yn cywiro’r frawddeg ffuantus sy’n awgrymu nad oes gan y Democratiaid Rhyddfrydol unrhyw rôl i’w chwarae o fewn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Mae’r cynnig heddiw yn trio gwneud yr awgrym fod yna wahaniaeth mawr rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r hyn sy’n digwydd yn y Llywodraeth. Llywodraeth glymblaid ydy hi, ac rwy’n gwybod bod hynny’n gallu bod yn anodd ac yn anghyfforddus i’r rhai sydd ynddi, ond mae’n rhaid ichi dderbyn y cyfrifoldebau sy’n dod gyda hynny. Nid Llywodraeth Geidwadol sydd yn San Steffan, ond Llywodraeth glymblaid, ac mae’r Llywodraeth honno wedi troi ei chefn, mewn nifer o agweddau, ar y mater hynod o bwysig o leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil. Fodd bynnag, ni af ar ôl hynny ymhellach.

Mae’n ail welliant, gwelliant 3, yn cyfeirio at y ffaith nad oes gennym reolaeth ar y diwydiant hwn yng Nghymru. Rydym yn cwyno’n aml iawn am Lywodraeth San Steffan—am yr hyn y mae’n ei wneud o ran polisi ynni—ac, yn wir, mae’r cynnig heddiw yn cwyno am safbwynt y Llywodraeth ar ynni adnewyddadwy. Wrth gwrs, pe bai ynni wedi’i ddatganoli’n llawn, heb unrhyw derfyn diystyr fel 50 MW, ni fyddai angen inni gwyno o gwbl. Mae Plaid Cymru yn gwbl glir ar hyn—pobl Cymru sy’n berchen ar adnoddau naturiol ein gwlad, nid Llywodraeth San Steffan ac nid cwmnïau preifat. Dylai pobl Cymru elwa o’r adnoddau naturiol hynny, a Llywodraeth Cymru ddylai greu polisi ynni, nid Llywodraeth San Steffan.

Mae’r Blaid Lafur yma yn aml yn crybwyll ei bod o blaid datganoli ynni yn llawn, ar wahân i niwclear—am ryw reswm, nid ydym yn abl i ddelio efo niwclear. Yn wir, mae’r Blaid Lafur wedi pleidleisio yma o blaid datganoli’r cyfrifoldebau hynny. Fodd bynnag, mater arall ydy hi’n llwyr pan fo aelodau’r Blaid Lafur yn San Steffan yn dod i bleidleisio—nid ydynt yn gefnogol. Mae’n rhaid ichi siarad gydag un llais os ydych i gael eich cymryd o ddifrif.

Mae gwelliant 4 yn gofyn i’r Llywodraeth edrych ar y posibilrwydd o sefydlu cwmni ynni cenedlaethol i Gymru. Unwaith eto, rydym yn trio tanlinellu'r angen i bobl Cymru elwa’n uniongyrchol o’n hadnoddau. Byddai cwmni felly yn gallu cynhyrchu a gwerthu ynni yn uniongyrchol i gwsmeriaid Cymru ac, o bosibl, y tu hwnt i Gymru, a chadw unrhyw elw ar gyfer naill ai buddsoddi mewn seilwaith ynni neu sybsideiddio biliau cwsmeriaid Cymru. Mae gennym fodel yng Nghymru, wrth gwrs, sef Glas Cymru, sy’n gwneud hynny gyda dŵr, ac fe allem wneud hynny gydag ynni hefyd maes o law.

Ffordd arall o ostwng biliau ynni, wrth gwrs, yw defnyddio llai o ynni yn y lle cyntaf, a dyna’r hyn y mae gwelliant 6 yn cyfeirio ato. Mae cynlluniau’r Llywodraeth, Arbed a Nyth, yn ddwy esiampl lwyddiannus gan y Llywodraeth hon ac rydym yn llongyfarch y Llywodraeth ar y rheini. Fodd bynnag, dylai’r Llywodraeth adeiladu ar y llwyddiant hwn ac ehangu’r rhaglenni. Yn sicr, mae cyflwr llawer iawn o’r hen stoc dai—ac mae hynny’n wir yn y gorllewin, y gogledd a’r de—yn golygu ei fod mewn angen dybryd i gael ‘retrofit’, ac mae’n bwysig iawn felly bod gennym raglen i ddelio â hynny.

13 Mai

Strategaeth Ddwr i Gymru

Rydych yn cyfeirio yn eich datganiad at weithredu i sicrhau gwelliannau parhaol—rhywbeth y byddwn yn ei groesawu’n fawr. Rydych newydd ddweud hefyd bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn y gallem gyflawni gyda’r pwerau sydd gennym. Felly, hoffwn gyfeirio at achos penodol, sef Llyn Padarn; dŵr lle mae safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig wedi ei llygru dros nifer o flynyddoedd, a lle mae poblogaeth y pysgodyn prin y torgoch ar fin diflannu o’r llyn. Roedd achos llys yr wythnos diwethaf lle cyfaddefodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod ei brosesau arolygu wedi bod yn ddiffygiol, a thynnodd allan o’r achos llys.

Rydym yn gwybod bod llygredd o garthffosiaeth sydd wrth graidd y broblem, ac wrth gwrs mai Cyfoeth Naturiol Cymru, a’i ragflaenwyr, yw’r rheolydd yn yr achos hwn i Ddŵr Cymru. Yr hyn rwyf eisiau gofyn i chi heddiw, yn wyneb y datganiad hwn, ynglŷn â’r heriau yw hyn: pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i drigolion yr ardal, i ddefnyddwyr y llyn a physgotwyr y bydd bioamrywiaeth ac ansawdd dŵr y llyn a’r afonydd o fewn y dalgylch yn cael eu gwarchod i’r dyfodol?

Alun Davies, Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd:
Rwy’n ymwybodol o’r mater y mae’r Aelod yn awyddus iawn i godi gyda mi y prynhawn yma. Bydd yr Aelod hefyd yn ymwybodol fy mod yn mynd i fod yn garcus yn y ffordd rwy’n ymateb iddo, oherwydd mae’r materion y mae wedi’u disgrifio, fel y mae wedi datgan, wedi bod gerbron y llysoedd...

Cynllun Gweithredu Strategol Morol a Physgodfeydd

A.Ff.J. O gofio bod ein glannau a’n moroedd yn ganolog i fywoliaeth cannoedd o filoedd o bobl Cymru ac yn eithriadol o bwysig i’r economi, mae gweithgaredd y Llywodraeth yn y maes yn ganolog i ddatblygiad y polisïau hynny. Rydych yn cyfeirio at ‘refreshed approach’ yn eich datganiad. Beth yn union yw ystyr hynny, yn wyneb y ffaith bod eich cynllun gweithredu ddim ond newydd gael ei gyhoeddi ddiwedd y flwyddyn diwethaf?

Mae beirniadaeth wedi bod fod diffyg blaenoriaeth i’r polisi morol; dyna oedd canlyniad ymchwil gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y llynedd. Fodd bynnag, mae croeso cyffredinol wedi bod i’r cynllun gweithredu strategol morol a physgodfeydd, ond mae beirniadaeth wedi bod gan randdeiliaid am fethiant i integreiddio polisïau morol o fewn y Papur Gwyn ar yr amgylchedd, er enghraifft. Felly, sut fydd y polisi morol hwn yn cael ei integreiddio yn y Bil cynllunio a’r polisi cynllunio cadarnhaol?

Rydych wedi cyfeirio at adnoddau, ac mae beirniadaeth wedi bod ynghylch diffyg adnoddau yn eich adran. A allwch chi fanylu ar nifer y staff sydd gennych yn gweithredu yn y maes hwn, a faint o gynnydd sydd wedi bod yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf?

Hoffwn gyfeirio hefyd at gyfarwyddyd fframwaith strategol morol sy’n sôn am yr angen i gael statws amgylcheddol da erbyn 2020 i’n moroedd a’n dyfroedd. Rwyf wedi cyfeirio mewn cwestiwn blaenorol at gyfrifoldeb rheolydd Cyfoeth Naturiol Cymru a chyfrifoldeb Dŵr Cymru. A ydych chi’n credu bod y targed hwnnw yn realistig o gofio’r heriau yr ydym yn eu hwynebu?

Yn olaf, o safbwynt gwybodaeth a’r angen i gasglu rhagor o wybodaeth, beth yw’r cysylltiadau sydd gennych gydag adrannau megis ysgol eigioneg Prifysgol Bangor ac adrannau eraill mewn prifysgolion sydd wedi bod yn gwneud gwaith yn y maes hwn ers degawdau?

Alun Davies: Rwy’n gobeithio bod ein perthynas ni yn un da ac yn un positif. Yn bendant, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw beth a fyddai wedi creu problemau gyda’r berthynas.

14 Mai

Cwestiynau i Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol

Perfformiad Gwasanaethau

A.Ff.J. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad gwasanaethau a gaiff eu darparu gan awdurdodau lleol? 

Lesley Griffiths: Diolch. Mae dyletswydd ar bob awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau effeithlon o ansawdd uchel ar gyfer ei boblogaeth leol.  Mae lefelau perfformiad yn agored i’w craffu a’u herio gan gyrff rheoleiddio ac archwilio annibynnol yn ogystal â gweithdrefnau craffu’r awdurdodau eu hunain.

A.Ff.J. Diolch yn fawr, Weinidog. Mae Cyngor Gwynedd yn casglu gwastraff bwyd ei hunain, gan fynd i bartneriaeth â chwmni preifat i gynhyrchu trydan o nwy ac i gynhyrchu gwrtaith hefyd. Bydd digon o drydan i gyflenwi tua 900 o dai bob blwyddyn. A fyddech chi’n llongyfarch y cyngor ar ei flaengaredd yn y maes hwn fel llawer maes arall?

L.G. Byddwn. Gwelais y prosiect fy hun ac roedd yn bendant yn arloesol...

Rheilffyrdd: Dadl Plaid Cymru - HS2 a Chymru

A.Ff.J. Jest o ran cywirdeb, rydym ni’n cyfeirio at yr ail adroddiad, sydd yn cymryd i ystyriaeth y datblygiadau diweddaraf, gan gynnwys trydaneiddio’r rheilffordd i dde Cymru. Rwy’n dweud hynny fel bod Eluned yn deall ein bod ni wedi gwneud ein hymchwil. Roedd hi’n cyfeirio at Crossrail, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gytuno i anghytuno. Rydym ni’n ystyried Crossrail fel cynllun a oedd yn benodol i wella ac er budd Llundain ac y dylai Cymru fod wedi cael buddiant uniongyrchol o hynny drwy fformiwla Barnett.

Fodd bynnag, dau adroddiad KPMG ydy prif sail y Llywodraeth dros y gwariant anferthol hwn o dros £20 biliwn. Mae’n wir, ac rwy’n meddwl y dylem gydnabod hyn, bod pwyllgor dethol Tŷ’r Cyffredin wedi beirniadu’r ffigurau a’r manteision honedig, gan ddweud eu bod yn gorliwio’r manteision. Yn sicr, mi fydd y cynllun mawr hwn yn gwella mynediad at waith ac yn gwella cynhyrchaeth yn y canolbarth ac yn ne-ddwyrain Lloegr—fel petai de-ddwyrain Lloegr angen yr ychwanegiad hwn, sydd eisoes yn gyrru bwlch mawr rhwng yr ardal honno a gweddill Prydain, a dweud y gwir. Fy nghwestiwn i yw: beth fydd yr effaith ar Gymru? Mae adroddiad KPMG—yr ail adroddiad, i fod yn glir eto—yn ceisio mesur effaith y cynllun ar wahanol ardaloedd drwy Brydain, ac, wrth edrych ar Gymru, yn cyfeirio at y ffaith gall gogledd-ddwyrain Cymru, Wrecsam a Glannau Dyfrdwy’n benodol, gael manteision oherwydd eu bod yn weddol agos at Crewe ac yn debyg o weld enillion bach mewn cynhyrchaeth. Nid yw rhagolygon ar gyfer gweddill gogledd Cymru yn sicr o gwbl. Nid ydynt yn gallu rhagweld hynny gydag unrhyw bendantrwydd.

Yn sicr, byddai trydaneiddio’r rheilffordd ar draws y gogledd yn gallu bod yn gyfraniad sylweddol ac yn gwneud y cysylltiadau angenrheidiol, ond nid ydym wedi gweld addewid ar gyfer hynny—heb sôn am David Jones yn arwain rhyw ‘charge’ rhywle neu’i gilydd. Mae’n anodd dychmygu’r ffasiwn beth, ond, hyd oed pe bai’n gwneud hynny—. Hynny yw, gadewch i ni weld yr addewid, a gadewch i ni gael yr addewid, os mai dyna yw hi. Rwy’n cydnabod, gyda llaw, bod y Llywodraeth hon eisoes wedi gwneud cryn dipyn yn fwy na ddaru’r Llywodraeth Lafur o ran datblygiadau ar y rheilffyrdd.

Fodd bynnag, o safbwynt Cymru gyfan, mae dylanwad, yn ôl ffigurau KPMG, ar economi Cymru yn debyg o fod yn negyddol. Mae Rhun, yn ei gyflwyniad, eisoes wedi trio meintioli hynny. Rydym yn rhagweld colled gyffredinol o rywbeth rhwng £120 miliwn a £180 miliwn y flwyddyn. Dyna pam rydym yn credu y dylai fod arian yn dod i Gymru yn sgîl y datblygiad hwn. Fel y dywedais, mae maint y golled rhywle rhwng £120 miliwn a £180 miliwn. Mae angen yr arian hwnnw arnom er mwyn cryfhau’r economi yng Nghymru fel ein bod yn fwy hyfyw ac yn gallu gwrthsefyll rhai o’r dylanwadau anochel hyn sy’n digwydd drwy gynlluniau mawr fel hyn.

Nick Ramsey

Rwy’n clywed yr hyn a ddywedwch am adroddiad KPMG ond rhaid i chi dderbyn y gallai fod ychydig o fudd i economi Cymru os ydych yn gwella seilwaith economi’r DU yn ei chyfanrwydd.

A.Ff.J.

Wel, rydym yn sôn yn y fan hon am wariant o £20 biliwn, ac rydym yn dweud gall fod ychydig bach o wahaniaeth i economi Cymru. Rwy’n dweud ein bod eisiau gweld llawer iawn yn fwy na ychydig bach o welliant hwyrach i economi un rhan o Gymru. Rwyf eisiau gweld economi Cymru i gyd yn gwella. Felly, rwy’n credu mai’r ffordd briodol o wneud hynny yw cael Barnett ‘consequential’ o’r gwariant hwn er mwyn i ni allu cryfhau’r economi drwyddi draw ym mhob rhan o Gymru er mwyn gallu cystadlu’n effeithiol gyda rhannau eraill nid yn unig o Brydain ond hefyd o Ewrop a thu hwnt.

Nid oes posibl na fyddai’r rhan fwyaf ohonom yma yn y Siambr heddiw yn cytuno â’r angen i Gymru gael cyfran deg o wariant HS2. Mae union yr un dadleuon—a dweud y gwir, dadleuon llawer iawn yn fwy cryf—â’r rhai ynglŷn â’r Olympics. Rhoddwyd addewidion ynglŷn â manteision i Gymru o’r gwariant anferth hwnnw, ond bach iawn iawn a gwelsom o ganlyniadau a manteision i Gymru. Rydym yn dadlau bod yr un peth yn fwy gwir am y cynllun drud hwn.

20 Mai

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Fferyllfeydd

A.Ff.J.

Mae rhywun yn gorfod trefnu i fod yn sâl wythnos ymlaen llaw er mwyn gweld doctor ar amser yn rhy aml y dyddiau hyn. Dyna pam y mae’r gwasanaeth fferyllol yn y gymuned yn eithriadol o bwysig o ran rhoi cyngor. Beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau dyfodol y fferyllfeydd hynny sy’n bodoli ar hyn o bryd yn y rhan fwyaf o’n pentrefi mwyaf a’n trefi ni?

Carwyn Jones:

Mae’r system o ran fferyllfeydd yn sicrhau nad oes gormod mewn un ardal...

Cwestiynau i John Griffiths, Gweinidog Diwylliant  Chwaraeon

Adfywio o dan Arweiniad Treftadaeth

A.Ff.J. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adfywio dan arweiniad treftadaeth yn y gogledd-orllewin?

:John Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i fwrw ymlaen gydag adfywio dan arweiniad treftadaeth ar draws Cymru.

A.Ff.J. Rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi wrth longyfarch y gwaith sydd wedi digwydd yng Nghaernarfon a’r gwelliannau ar y morglawdd yn yr ardal a gaiff ei galw’n ‘south of France’ o flaen muriau’r castell. Bydd hynny’n gyfraniad mawr i’r diwydiant twristiaeth yn y blynyddoedd sydd i ddod. Wrth edrych ymlaen, mewn dwy flynedd, bydd hi’n 150 mlynedd ers i’r Mimosa hwylio i Batagonia ac ers sefydlu’r cysylltiadau hanesyddol rhwng Caernarfon a Phatagonia, trwy Lewis Jones yn bennaf, ond hefyd rhwng Cymru a Phatagonia. A oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau i ddathlu hynny ac i ddefnyddio’r dathliad hwnnw i hyrwyddo twristiaeth a’n hymwybyddiaeth ni o’n treftadaeth yng Nghymru?

J.G. Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod yn gryf iawn fod y cysylltiadau hynny â Phatagonia’n rhan bwysig iawn o'n gorffennol ac, yn wir, o’n presennol a’n dyfodol...

21 Mai

Cwestiynau i Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Uwchgynhadledd NATO

Yn amlwg, mae cost diogelwch yn drwm iawn yn y materion hyn. A ydym yn gwybod beth fydd cost diogelwch ac a ydych yn gwybod a fydd Cymru neu heddluoedd Cymru yn ysgwyddo rhan o’r gost honno?

E.H. Fel y dynodais, rwy’n meddwl, digwyddiad Llywodraeth y DU yw hwn ac ni fyddwn yn hoffi gwneud sylwadau ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â diogelwch...

Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis

Celfyddydau o fewn Ysgolion

A.Ff.J. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am le y celfyddydau o fewn ysgolion? 

Huw Lewis: Diolch i’r Aelod dros Arfon. Rwyf wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yn chwarae rhan ganolog yn ein hysgolion a hefyd i waith partneriaeth agosach rhwng ein hysgolion a’n sefydliadau celfyddydol a diwylliannol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i bob un o 12 argymhelliad adroddiad diweddar yr Athro Dai Smith.

A.Ff.J. Diolch yn fawr. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr adroddiad hwn yn cael ei weithredu. Mae cynllun cyffrous o dan yr enw ‘Codi’r To!’ wedi dechrau yn nwy o ysgolion yn fy etholaeth-Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon ac Ysgol Glancegin ym Maesgeirchen ym Mangor. Cynllun hyfforddi cerddoriaeth uchelgeisiol iawn ydyw i blant yn yr ardaloedd difreintiedig hyn, ac mi hoffwn eich gwahodd i weld ffrwyth y fenter gyffrous hon rhyw dro yn ystod y flwyddyn hon.