ADRODDIAD MISOL

13/05/2014

AELOD CYNULLIAD ARFON

Alun Ffred Jones AC

EBRILL 2014

Pigion dyddiadur Ebrill

1 Ebrill

Cyfarfod llawn y Cynulliad

2 Ebrill

Cadeirio Pwyllgor yr Amgylchedd

Croesawu plant Ysgol y Garnedd, Bangor i’r Cynulliad

Cyfarfod y Gweinidog Carl Sergeant i drafod y Bil Cynllunio

3 Ebrill

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad

Pwyllgor Etholaeth, Caernarfon

4 Ebrill

Cymhorthfa, Caernarfon

7 Ebrill

Cymhorthfa, Caernarfon

8 Ebrill

Trafod gridiau gwartheg yn Fron

Cyfarfod Paul Lovelock o Gymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru

Cyfarfod Aneurin Phillips a Jonathan Cawley o Barc Cenedlaethol Eryri

9 Ebrill

Ymweld â chwmni Camu i’r Copa, Brynrefail

Llyfrgell Caernarfon i weld y prosiect Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell

10 Ebrill

Agor cynhadledd Y Blynyddoedd Rhyfeddol ym Mhrifysgol Bangor

Cyngerdd ‘Codi’r To’ yn Ysgol Glan Cegin

Cymhorthfa, Bangor

11 Ebrill

Cymhorthfa. Caernarfon

Cyfarfod Richard Foxhall o gwmni Horizon i drafod y Wylfa

14 Ebrill

Cymhorthfa, Caernarfon

15 Ebrill

Cyfarfod y Gweinidog Cyllid Jane Hutt

Agoriad swyddogol gwaith ailgylchu bwyd Llwynisaf, Clynnog Fawr

16 Ebrill

Cyfweliad teledu am sefyllfa ward Hergest, Ysbyty Gwynedd

Noddi gêm bêl-droed yng Nghaernarfon

17 Ebrill

Annerch cyfarfod Cymdeithas yr Iaith ar Gynllunio

20 Ebrill

Agoriad yr Ŵyl Delynau Ryngwladol yn y Galeri, Caernarfon, a chyngerdd agoriadol yr Ŵyl

24 Ebrill

Cyfarfodydd briffio Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad

28 Ebrill

Ymweld â chynlluniau adnewyddu tai Cartrefi Cymunedol Gwynedd ym Mhenygroes a’r Groeslon

29 Ebrill

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad

30 Ebrill

Cyfarfod cynrychiolwyr Cymdeithas MS a MacMillan Cymru

Lansiad ymgyrch Atal Anhrefn Hinsawdd

Cyfarfod swyddogion Cymdeithas y Milfeddygon, BVA

CWESTIYNAU AC AREITHIAU YN Y CYNULLIAD

1 Ebrill

Cwestiynau i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones

Uned Iaith

A.Ff.J.A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithrediad uned iaith Gymraeg y Llywodraeth? 

C.J. Mae Is-adran y Gymraeg yn gyfrifol am weithredu strategaeth y Gymraeg, ‘Iaith fyw: iaith byw’, a’r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

A.Ff.J. Pwrpas dod ag uned strategaeth yr iaith Gymraeg i mewn i Lywodraeth oedd rhoi grym y Llywodraeth y tu ôl i’r gweithredu. Ers tair blynedd, nid oes unrhyw beth ond distawrwydd llethol wedi dod o’r uned. A ydych chi’n bwriadu cynnal yr uned hon a sicrhau ei bod yn cyflawni’n weithredol?

C.J. Nid wyf yn credu bod hynny’n wir o gwbl. Nid dyna yw barn aelodau eraill o Blaid Cymru. Rwy’n credu bod gennym y gynhadledd fawr a’r gwaith sydd wedi cael ei wneud ar iaith economi...

Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths

Celfyddydau

A.Ff.J. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ennyn diddordeb yn y celfyddydau ymhlith pobl ifanc?

J.G. Mae Llywodraeth Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn gweithio gyda .  ymrwymiol i hybu diddordeb pobl ifanc yn y celfyddydau.

A.Ff.J. Diolch, Weinidog, am y datganiad hwnnw. Mae’r Athro Dai Smith wedi cynhyrchu adroddiad sy’n galw am roi gweithgarwch celfyddydol yng nghalon ein haddysg a’n hysgolion. Beth ydy barn y Llywodraeth, a phryd fyddwch chi’n gwneud datganiad ar hyn?

J.G. Mae ’Adroddiad annibynnol ar gyfer Llywodraeth Cymru ar y Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru’ Dai Smith yn arwyddocaol iawn yn wir. Rydym yn bwriadu cyhoeddi cynllun cenedlaethol ar gyfer dysgu creadigol yr haf hwn...

Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad hwn ar y maes eithriadol o bwysig hwn. Mae bob amser yn werth edrych ar ddiwedd datganiad i weld beth yn union sy’n cael ei argymell. Ar ddiwedd y datganiad hwn, dywedwch ei bod yn bryd gosod cyfeiriad clir a chamau gweithredu ar gyfer y diwydiant bwyd. Wel, ie, rwy’n siŵr y byddem oll yn cytuno, ond, hyd y gwelaf, nid oes dim yn y datganiad hwn sy’n gosod cyfeiriad clir neu unrhyw gamau gweithredu pendant ac rydym dair blynedd i mewn i oes y Llywodraeth hon.

Yn eich ymateb i Russell George, cyfeirioch at yr angen i ddatgan gweledigaeth ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, ac fe fyddem yn cytuno â chi. Felly, beth mewn gwirionedd sy’n eich atal rhag dweud beth yw’r weledigaeth honno o flaen eich camau gweithredu pendant a fydd yn dilyn rywdro yn nes ymlaen yn y flwyddyn?

O ran y cwestiynau sy’n deillio o’r datganiad, a allwch chi ddweud wrthym beth fydd ffurf y ffederasiwn hwn a pa bwerau fydd ganddo neu pa bwerau yr ydych chi’n rhagweld y bydd y ffederasiwn hwn yn eu cael?

Hefyd, rydych chi’n sôn am wella integreiddio yn y gadwyn gyflenwi. Wrth gwrs, mae a wnelo hyn yn agos iawn â’r broses gaffael, ond yr hyn yr ydym ni’n ei wybod ydy bod gwahaniaethau mawr ar hyd a lled Cymru yn arferion a chanlyniadau’r broses gaffael, er enghraifft mewn tendrau bwyd yn y sector gyhoeddus, ymhlith cynghorau sir a’r byrddau iechyd hefyd. Felly, beth yn union yr ydych chi’n credu y gellir ei wneud i wella’r sefyllfa hon a sicrhau ein bod yn cyrraedd y pwynt lle rydych chi a ni’n cytuno, lle bydd mwy o’r bwyd yr ydym ni’n ei gynhyrchu yn cael ei werthu yma yng Nghymru, heb sôn am y tu hwnt i Gymru?

Rydych chi hefyd yn cyfeirio yn eich datganiad at gydweithio mwy clos gyda Chroeso Cymru, a byddwn i’n cytuno 100% efo chi. Felly, sut ydych chi’n rhagweld y bydd hyn yn digwydd, beth yn union fydd yn digwydd ar lawr gwlad ac a oes unrhyw drafodaeth wedi bod rhwng eich swyddogion chi â Chroeso Cymru yn y cyfeiriad hwn?

Alun Davies, Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd:

Rwyf wastad yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad i ymweld â gwinllan, lle bynnag y mae, ac rwy’n siŵr bod y winllan yng nghyffiniau Eryri mor hapus ag y byddwn i’n credu ei bod. Rwy’n hapus iawn i dderbyn y fath wahoddiad...

 

2 Ebrill

Cwestiynau i’r Gwenidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis

Safonau mewn ysgolion

A.Ff.J. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i godi safonau mewn ysgolion?

H,L. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi perfformiad ysgolion ar lefel genedlaethol, lefel leol ac ar lefel ysgolion. Mae’r rhain wedi’u nodi yn y rhaglen lywodraethu.

A.Ff.J. Barn prifathrawon yn fy etholaeth i yw bod diflaniad Cynnal, y corff cefnogi addysg, wedi bod yn golled fawr. Y teimlad yw bod y consortiwm sydd wedi’i ddisodli yn gweithredu mwy fel rhyw fath o Estyn arall—yn barod i weld y gwendidau ond yn amharod i gefnogi. Sut gallwch chi roi sicrwydd i brifathrawon y bydd y consortia newydd yn welliant ar y drefn flaenorol?

H.L. Wrth gwrs, gŵyr yr Aelod fy mod yn anfodlon â pherfformiad y consortia pan gefais fy mhenodi i’r swydd hon. Yn sicr, roedd consortiwm y gogledd yn peri pryder ar y pryd... 

 

Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart

Ffordd Osgoi y Bontnewydd a Chaernarfon

A.Ff.J.  wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ffordd osgoi y Bontnewydd a Chaernarfon?

E.H. Fe’ch cyfeiriaf at fy llythyr dyddiedig 28 Mawrth, 2014, a ysgrifennwyd gennyf at holl Aelodau’r Cynulliad.

A.Ff.J. Diolch yn fawr am y wybodaeth honno. Mae’n dda gweld bod gwaith yn mynd yn ei flaen. A all y Gweinidog ddweud wrthym pa ymdrechion sy’n cael eu gwneud gan ei swyddogion i sicrhau bod cymaint o’r contractau a fydd yn ymwneud â’r ffordd newydd hon ag y bo modd yn dod i gwmnïau o Gymru, ac, wrth i hynny ddigwydd, sicrhau cyflogaeth leol o’r buddsoddiad mawr hwn?

E.H. Rwyf bob amser yn ei gwneud yn glir i swyddogion ein bod am sicrhau bod cynifer o bobl ȃ phosibl yn ymwneud ȃ chontractau lleol a chyflogaeth. Fodd bynnag, byddaf yn gwneud ymholiadau ynghylch y prosiect hwn yn benodol ac yn ysgrifennu at yr Aelod.

Adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr Ymchwiliad i Rywogaethau Goresgynnol Estron

 

Y Llywydd: Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnig y cynnig-Alun Ffred Jones.

 

A.Ff.J. Rwy’n falch o siarad yn y ddadl hon heddiw. Cyhoeddwyd adroddiad y pwyllgor ar rywogaethau goresgynnol estron ym mis Ionawr, yn dilyn ymchwiliad byr i gasglu tystiolaeth gan randdeiliaid a swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae rhywogaethau goresgynnol estron yn peri risgiau amgylcheddol ac economaidd sylweddol i Gymru—ar y tir ac yn y môr. O ran niwed i’r amgylchedd, maent yn cystadlu yn erbyn rhywogaethau brodorol fel y wiwer goch a llygoden y dŵr. Gall briweg y gors Awstralia, er enghraifft, orlethu pyllau a llynnoedd, gan ymyrryd ag ecosystemau sensitif, a gall arwain at leihau bioamrywiaeth. Mae rhai ohonynt yn peri risg i iechyd pobl, fel efwr enfawr. Mae rhai eraill yn peri problemau llai amlwg, fel cynyddu’r risg o lifogydd drwy erydu glannau afonydd ac arafu cyrsiau dŵr.

Trof at rai o gasgliadau allweddol yr adroddiad, sydd mewn perthynas â chydgordio ymdrechion lleol, casglu data a chodi ymwybyddiaeth, ynghyd â mynediad i dir ac arweinyddiaeth genedlaethol.

Dechreuaf gyda chydgordio ymdrechion lleol. Clywsom am enghreifftiau lleol da o fynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol estron ar draws Cymru, ond mae’r darlun cenedlaethol yn anghyson. Mae angen cysylltu’r ymdrechion lleol hyn er mwyn asesu’n gywir maint y risg sy’n cael ei greu gan y rhywogaethau, a chymryd camau i ymdrin â’r risg hwnnw. Gellid ymateb yn fwy effeithiol i geisio trechu’r risg drwy gydgysylltu’r ymdrechion ar lefel genedlaethol.

Yn ail, mae’r drefn o gasglu data yn amrywio o ran ansawdd a chwmpas daearyddol. Clywsom fod technolegau newydd ar gael i gasglu data mewn ffyrdd gwahanol ac mae’r pwyllgor yn credu y dylid parhau gydag ymdrechion i gasglu cymaint o ddata â phosibl, a rhannu’r wybodaeth honno gyda rhanddeiliaid.

Mae’n hanfodol i godi ymwybyddiaeth ynghylch pa mor gyffredin yw rhywogaethau goresgynnol estron a pha mor hawdd y gallant ledaenu. Nid yw pobl yn sylweddoli pa mor gyffredin yw’r broblem na’r bygythiad sy’n dod yn eu sgîl. Dylid defnyddio arbenigedd pobl megis gwirfoddolwyr natur a physgotwyr i godi mwy o ymwybyddiaeth.

O ran mynediad i dir, clywsom fod problem o ran cael mynediad i dir preifat a bod hyn yn rhwystr i’r awdurdodau sy’n ceisio cymryd camau i gael gwared â rhywogaethau os na fydd perchennog y tir yn fodlon cydweithio. Roedd rhai tystion o’r farn y dylai awdurdodau gael yr hawl i fynediad i dir, ond nid oedd pawb yn cytuno â hynny. O ran arweinyddiaeth genedlaethol, mae angen hyn i gydgysylltu ymdrechion lleol a chasglu data er mwyn mynd i’r afael â’r problemau cynyddol hyn. Daeth y pwyllgor i’r casgliad mai Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn y sefyllfa orau i arwain y ffordd ar hyn. Byddem yn dymuno gweld naill ai Llywodraeth Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru’n adrodd yn rheolaidd ar y cynnydd a wnaed i wella’r sefyllfa.

O ran yr argymhellion, rydym wedi gwneud nifer ohonynt. Credwn y dylai'r argymhellion hyn gael eu gweithredu i fynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol estron yng Nghymru. Ymhlith y rhain, mae argymhellion i benodi Cyfoeth Naturiol Cymru fel y sefydliad i arwain ar y gwaith o gysylltu ymdrechion lleol i gasglu data a thaclo’r broblem; cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y goblygiadau i Gymru ar ôl i’r adolygiad o strategaeth Prydain Fawr gael ei gwblhau; ysgrifennu atom fel pwyllgor yn flynyddol i nodi’r cynnydd o fynd i’r afael â’r broblem; ystyried rhinweddau rheoli rhywogaethau goresgynnol estron ar sail dalgylchoedd afonydd—mae’n amlwg bod hon yn thema gyson yng ngwaith y pwyllgor; ystyried y broblem o ran mynediad i dir er mwyn ymdrin â rhywogaethau goresgynnol estron; ac ymateb i gynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rhywogaethau goresgynnol estron a’r goblygiadau i Gymru.

Rwy’n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb, ac rwy'n falch o nodi bod pob un o'n hargymhellion wedi eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor. Rwy’n falch bod y Gweinidog yn cydnabod bod angen cydgysylltu ymdrechion i asesu maint y risg a achosir gan y rhywogaethau hyn ac i weithredu i wrthweithio’r broblem. Hoffwn ofyn iddo am fwy o fanylion ar sut y mae’n bwriadu sicrhau hyn yn yr hir dymor. Hefyd, rwy’n falch y bydd monitro’r rhywogaethau yn rhan o gynllun gweithredu bioamrywiaeth ehangach; edrychwn ymlaen at glywed mwy am hwnnw yn y dyfodol.

Mae’r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad y dylai Cymru gael ei chynrychioli fel rhan o’r adolygiad o strategaeth Prydain Fawr. Mae’n dda i wybod am y gwaith sydd wedi ei wneud ar hwn yn barod ac am y fforwm blynyddol a fydd yn cael ei gynnal fis nesaf. Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog am ei ymroddiad i adrodd i’r Cynulliad ar y goblygiadau i Gymru o’r adolygiad o strategaeth Prydain Fawr ac i adrodd i ni fel pwyllgor yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed i daclo’r broblem. Rydym yn awyddus i dderbyn y diweddariad cyn gynted ag y bo modd.

Rydym yn deall bod y broblem o gael mynediad i dir preifat yn her fawr, ac unwaith eto, byddwn yn edrych ymlaen at weld beth sydd gan y Gweinidog i’w ddweud yn hyn o beth. Rydym yn falch bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad y dylai ymateb i gynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rhywogaethau goresgynnol estron. Arhoswn i glywed mwy am y goblygiadau i Gymru.

I grynhoi, roedd yn ymchwiliad gwerthfawr, rydym yn credu, ac rydym yn gwerthfawrogi ysbryd ymatebion y Gweinidog, gan obeithio y bydd hyn yn arwain at daclo’r broblem hon, sydd wedi ehangu yng Nghymru bron heb i neb sylwi arni, mewn llawer cyfeiriad—er bod y rhai ohonom sy’n byw yn y gogledd-orllewin yn ymwybodol iawn o’r hyn sydd wedi digwydd ar fynyddoedd Eryri o ran y rhododendron. Mae’r ymdrechion sydd wedi eu gwneud yn y gorffennol, ac sy’n dal i gael eu gwneud, yn profi pa mor anodd, mewn gwirionedd, yw taclo’r broblem hon unwaith y bydd wedi cael gafael ac wedi lledaenu. Edrychwn ymlaen at ymateb y Gweinidog.

Y Dirprwy Lywydd: Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ymateb.

A.Ff.J.

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Hoffwn wneud rai sylwadau.

Dechreuodd Mike Hedges gyda pherorasiwn o gasineb yn erbyn clymog Japan. Mae’n rhyfedd faint o wybodaeth sydd ganddo am y planhigyn penodol hwn, ond mae’n iawn ei fod yn enghraifft berffaith o rywogaeth oresgynnol sydd wedi arwain at dyfiant hyll, difrod a chost enfawr. Dysgais enw newydd, ‘Sally rhubarb’. Ai dyna’r term yn Abertawe? Ie. Yn Gymraeg, ‘Canclwm’ ydyw; wel, dyna un o’r enwau amdano.

Ategodd Russell George farn Mike Hedges am y difrod a’r gost o ganlyniad i glymog Japan a’r angen i fynd i’r afael ag ef a’r angen am ddiogelwch. Cyfeiriodd at y wiwer goch, a chredaf fod honno’n stori lwyddiant, onid yw? Gwn am y sefyllfa yn Ynys Môn, lle mae wedi ailboblogi’r ynys ac yn bridio’n llwyddiannus, a bellach mae sôn am ymestyn yr ardal honno i’m hetholaeth i, ar draws yr afon.

Tynnodd William Powell sylw at ganlyniadau peidio â gweithredu o ran yr ecoleg forol, ac, unwaith eto, mae’n iawn bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn gyda’n moroedd yn ogystal â’n tir.

Roedd Dafydd Elis Thomas yn cyfeirio at reoliadau’r Undeb Ewropeaidd ac at yr angen i greu fframwaith rhyngwladol ond i weithredu’n lleol. Yn sicr, roedd yn llygad ei le wrth ddweud os nad oes gennych barhad yn y rhaglenni hyn mae’n arwain at wastraff egni ac arian sylweddol, yn ogystal â gweithredu cwbl aneffeithiol. Felly, mae’r gyllideb yn hanfodol, ac nid yn unig ar lefel genedlaethol. Dyna pam yr oedd ei gwestiynau ynglŷn â chydweithio ar lefel Brydeinig mor eithriadol o bwysig, hefyd. Mae’r ffigurau’n ddychrynllyd. Roedd y ffigurau roedd yn eu dyfynnu am gost ceisio gweithredu’r rhaglenni ar hyd Ewrop yn dychryn, ond wedyn mae’r gost o wneud dim byd hefyd yn ddychrynllyd. Ategaf sylwadau a hefyd ddiolchiadau Dafydd Elis-Thomas i’r staff a fu ynghlwm â’r ymchwiliad.

Croesawaf ymateb y Gweinidog. Mae’n amlwg bod cryn dipyn o dir cyffredin yma, ac rwy’n falch iawn o glywed y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain y gweithredu hwn, er fy mod yn credu hefyd bod rôl bwysig iawn i gyrff gwirfoddol yn y gwaith hwn o gasglu gwybodaeth ac o weithredu. Rydym wedi gweld hynny’n digwydd yn y cydweithrediad sydd wedi bod rhwng y parciau cenedlaethol a chyrff lleol.

Deuparth gwaith yw ei ddechrau, ond rydym yn edrych ymlaen at gael diweddariadau cyson gan y Gweinidog ar yr hyn sy’n digwydd a fydd, gobeithio, yn arwain at gryn wellhad yn y sefyllfa.

 

29 Ebrill

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Diogelu’r Gymraeg fel Iaith Gymunedol

A.Ff.J.  A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd yn ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddiogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol? 

C.J. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ystod o weithgareddau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a’i diogelu fel iaith gymunedol. Byddaf yn cyflwyno datganiad polisi i’r Cynulliad a fydd yn ymateb i brif ganfyddiadau adolygiadau diweddar yn y maes ac yn cynnig sail gweithredu dros y tair blynedd nesaf.

A.Ff.J. Yn y Gynhadledd Fawr y gwnaethoch ei galw yn Aberystwyth, un o’r prif ganfyddiadau oedd bod symudoledd yn ffactor bwysig yn y dirywiad yn nifer yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd. O edrych ar gynlluniau a pholisi’r Llywodraeth, rydym yn sylwi nad yw’r TAN 20 newydd, mewn gwirionedd, yn newid fawr ddim ar yr hen TAN 20. Nid oes dim cyfarwyddyd pellach wedi dod fel yr addawyd i ddangos sut y mae’r TAN i fod i gael ei weithredu, ac nid oes cyfeiriad at y Gymraeg ychwaith yn y Bil drafft cynllunio arfaethedig. Beth yw bwriad y Llywodraeth, felly, i ymateb i’r canlyniad hwn o’r Gynhadledd Fawr y gwnaethoch chi eich hun ei galw ynghyd?

C.J. Mae gwaith wedi cael ei wneud i sicrhau bod asesiad cyson ar gael i bob awdurdod lleol i’w ddefnyddio. Mae enghreifftiau da lle mae hyn wedi digwydd yn barod—er enghraifft, yng Ngwynedd...

30 Ebrill

Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Alun Davies

Bioamrywiaeth

A.Ff.J. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y gronfa a sefydlwyd i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru? 

A.D. Rydym wedi derbyn dros 460 o syniadau, ac wedi’u defnyddio yn sail ar gyfer datblygu’r gronfa natur i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth ac yn cefnogi’r gwaith o reoli tir yn gynaliadwy yn y dyfodol. Byddaf i’n cyhoeddi manylion y cyllid a’r meysydd gweithredu wythnos nesaf.

A.Ff.J. Un llwyddiant mawr sydd wedi bod, wrth gwrs, ydy gwaredu’r wiwer lwyd o Ynys Môn drwy eu lladd nhw, fel mae’n digwydd bod, ac mae’r wiwer goch bellach wedi ailsefydlu ei hun. Fodd bynnag, maen nhw’n croesi’r bont, mae’n debyg—neu’r pontydd, fe ddylwn ddweud—i sir Fôn o Arfon. Felly, y cynllun diweddaraf ydy gwaredu’r wiwer lwyd o Arfon hefyd a dod â’r wiwer goch yn ôl. A fyddech chi’n fodlon ystyried cefnogi’r ymgyrch honno drwy’r gronfa rydych chi’n mynd i’w chyhoeddi wythnos nesaf?

A.D. Mae Arfon wastad wedi achosi problemau i bobl sir Fôn. [Chwerthin.] Efallai y bydd yn rhaid i ni ystyried ehangu’r prosiect hwn yn bellach...

Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sergeant

Cynllun Swyddogion Galluogi Tai Gwledig

A.Ff.J. Mae’n ymddangos mai rhyw ddau neu dri o dai y flwyddyn—na, efallai fod ychydig yn fwy na hynny: tua 18 tŷ y flwyddyn sy’n cael eu codi drwy’r cynllun hwn. Mae nifer ohonynt ar hyd a lled Cymru ac yr wyf yn gwybod eu bod yn gwneud gwaith adeiladol a da. Ond, pam mae’r cynnydd wedi bod mor araf deg dros y blynyddoedd, o wybod am y galw sydd am dai mewn ardaloedd gwledig?

C.S. Wel, wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r anhawster yn nhermau cynllunio o gael cymunedau lleol i dderbyn cynlluniau weithiau...