Adroddiad Misol Mawrth 2014

15/04/2014

Croeso i rifyn arall o’r adroddiad ar-lein sy’n rhoi braslun o’r pethau y bûm i’n ymwneud a nhw yn fy ngwaith yn y mis a aeth heibio. Mae fy nghyfrifoldebau wedi cynyddu erbyn hyn wrth imi ddod yn gadeirydd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad. Rhwng hwnnw ac aelodaeth o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus  a’r Pwyllgor Cyllid, mae pwyllgorau’n mynd â chryn dipyn o’m hamser y dyddau hyn. 

 Pigion Dyddiadur Mawrth

1 Mawrth

Gorymdaith Gŵyl Dewi, Caernarfon

Lansiad swyddogol elusen gancr Tour de Cymru

Noson yng Nghaernarfon i ddathlu 40 mlynedd ethol Dafydd Wigley yn AS dros etholaeth Caernarfon

3 Mawrth

Cyfarfod i geisio denu pencadlys S4C i Gaernarfon

4 Mawrth

Sesiwn lawn y Cynulliad

Cyfarfod Paul Silk, Cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Cyfarfod i ddathlu Pythefnos Masnach Deg yng Nghanolfan y Mileniwm

5 Mawrth

Sesiwn lawn y Cynulliad

Darlith Diwrnod y Llyfr

6 Mawrth

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyfarfod cyhoeddus ym Mangor ynglŷn â gwasanaeth gofal dwys i fabanod yn y gogledd

7 Mawrth

Cyfarfod yn Llanberis i drafod adfywio pysgodfeydd

Siaradwr gwadd yng nghyfarfod Cymdeithas y Cymmrodorion, Llandudno

10 Mawrth

Lansiad Cymru Coastliners, bysiau newydd cwmni Arriva

Cyfarfodydd ynghylch ynni adnewyddol

11 Mawrth

Sesiwn lawn y Cynulliad.

Cymdeithas yr Iaith yn lansio’u ‘Bil Eiddo a Chynllunio’.

12 Mawrth

Sesiwn lawn y Cynulliad

Pwyllgor Cyllid

Cyfarfod panel arbenigol ar ofal dwys i fabanod

13 Mawrth

Pwyllgor Ymgyrch Plaid Cymru Arfon / Cyfarfod Cangen Caernarfon

14 Mawrth

Cyfarfod yr Athro Dean Williams, Prifysgol Bangor

Cyfarfod Huw Hughes, Cymdeithas Pysgota Seiont Gwyrfai Llyfni

Cyfarfod Ofcom

Cymhorthfa yn Abergwyngregyn

17 Mawrth

Annerch Teuluoedd yn Gyntaf, rhwydwaith sy’n helpu teuluoedd bregus  

18 Mawrth

Sesiwn lawn y Cynulliad

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

19 Mawrth

Sesiwn lawn y Cynulliad

Pwyllgor Amgylchedd

20 Mawrth

Pwyllgor Cyllid

25 Mawrth

Sesiwn lawn y Cynulliad

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Croesawu etholwyr i’r Cynulliad

Cyfarfod gyda Jane Hutt, Gweinidog Cyllid

26 Mawrth

Sesiwn lawn y Cynulliad

Pwyllgor Cyllid

27 Mawrth

Pwyllgor Amgylchedd

Cyfarfod Awr y Ddaear y WWF

Gweithdy Craffu Deddfwriaeth

28 Mawrth

Cymhorthfa ym Mhenygroes

Cyfarfod Bwrdd Codi’r To, cynllun cerddoriaeth arloesol Maesincla a Maesgeirchen

29 Mawrth

Efo Jill Evans ASE i gyfarfod Cymdeithas Bysgota Gwyrfai Seiont Llyfni

Noson gymdeithasol efo Jill Evans ym Mangor

31 Mawrth

Cyfarfod Cyngor Prifysgol Bangor

CWESTIYNAU AC AREITHIAU YN Y CYNULLIAD

4 Mawrth

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Twf Economaidd

A.Ff.J. 

Mae eich Llywodraeth wedi bod yn ymgynghori’n ddiweddar ar leihau nifer yr ystadegau yr ydych yn eu cyhoeddi. O ran yr economi, y ffigurau mwyaf diweddar sydd gennym am GDP yw rhai 2011 a’r rhai am GVA yw ffigurau 2012. Nid ydynt yn rhai y byddech yn ymfalchïo ynddynt. Onid ydych yn credu, er mwyn mesur llwyddiant eich polisïau, bod angen ffigurau mwy cyson a mwy manwl na’r rhai sydd gennym ni?

C.J:

Mae’n bwynt teg i ddweud bod y ffigurau GDP mor hen—tair blwydd oed—ac mae’r ffigurau GVA bron yr un peth. Mae GDHI hefyd, sydd yn wahanol o ran y ffordd y mae’r ffigurau’n cael eu casglu. Mae hwn yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried, i weld a oes modd i gael ffigurau i Gymru sy’n fwy diweddar na’r ffigurau sydd wedi cael eu cyfeirio atynt hyd yn hyn. 

Cwestiynau I’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths

Toriadau yn y Gyllideb

A.Ff.J.

 Nid oes cyfrifoldeb statudol ar lywodraeth leol i gynnal canolfannau perfformio, theatrau ac amgueddfeydd. A yw’ch Llywodraeth yn mynd i sefyll o’r neilltu wrth i’r esgid wasgu dros y blynyddoedd nesaf, o gofio bod Llafur ar y lefel Brydeinig wedi dweud y bydd yn cadw at lefelau a phatrymau gwario George Osborne?

J.G.

Nid wyf yn gwybod pa un a ydym eisiau mynd yn rhy bell i mewn i wleidyddiaeth y DU yn y Siambr heddiw, ond, fel yr ydym ni wedi cyfeirio ato sawl gwaith yn sesiwn cwestiwn ac ateb hwn, mae hwn yn gyfnod anodd iawn...

5 Mawrth

Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw Lewis

 A.Ff.J.

 A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd ar draws Cymru o ran datblygu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg?

H.L.

Gwnaf, wrth gwrs. Ar hyn o bryd, mae pob awdurdod lleol yn cynnal ei ymgynghoriad statudol ar ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg drafft. Pan gaiff y cynlluniau terfynol eu cyflwyno ar ôl yr ymgynghoriad, byddaf mewn sefyllfa i arfer fy mhwerau o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 o ran cymeradwyo neu wrthod y cynlluniau hynny.

A.Ff.J.

Diolch yn fawr am yr ateb. Pe bai rhai o’r cynlluniau hynny yn annigonol ac yn ddiffygiol, beth fyddai’r Llywodraeth yn ei wneud yn ymarferol? Gwnaethoch gyfeirio at y ffaith y byddech yn gallu eu gwrthod, ond beth fyddech yn ei wneud yn ymarferol i sicrhau bod cysondeb safon a chysondeb gwasanaeth ar draws Cymru?

H.L.

Mae’r mater a godwyd gan yr Aelod dros Arfon yn un mater pwysig iawn. Pan welaf y fersiynau terfynol hynny o’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, byddaf yn ymgymryd â’m cyfrifoldebau yn wirioneddol o ddifrif...

 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart

Y Gymraeg a Datblygu Economaidd

A.Ff.J.

Un o’r argymhellion yn yr adroddiad yw y gallai’r broses gaffael gael ei defnyddio i hyrwyddo’r Gymraeg, yn rhannol trwy ddefnyddio contractwyr yn y sector cyhoeddus i ddangos eu bod yn gallu cyflwyno gwasanaeth yn ddwyieithog. Mae hyn yn cael ei ddefnyddio ar y cyfandir. A wnewch chi ystyried yr argymhelliad hwn hefyd fel rhan o’ch trafodaethau i’r dyfodol?

E.H.

Rwyf eisoes wedi cychwyn trafodaethau â’r Gweinidog Cyllid, sydd â chyfrifoldeb dros gaffael, ar yr argymhelliad penodol hwnnw yn yr adroddiad.

Dadl Plaid Cymru: Mentergarwch

A.Ff.J.

Yn fy nghyfraniad i y prynhawn yma, rwyf eisiau cyfeirio at dangyflogaeth a’i effaith ar ffigurau perfformiad Cymru—GVA Cymru—a dweud gair hefyd am syniadau Plaid Cymru ynglŷn ag ardrethi busnes.

Mae diweithdra wedi gostwng yn ddiweddar ac, o’r diwedd, wedi cyrraedd yn ôl at lefel gyfartalog y Deyrnas Unedig; wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn croesawu hynny’n fawr iawn. Ni ddylem anghofio, serch hynny, bod diweithdra ymysg pobl ifanc yn dal yn uchel. Mewn rhannau o Gymru—yn y Cymoedd yn arbennig—mae mor uchel â 40%. Nid wyf yn credu y dylem glochdar am unrhyw welliant tra bo ffigurau felly’n bodoli mewn rhannau o’n gwlad.

Fodd bynnag, mae’n werth nodi bod Cymru wedi bod yn weddol llwyddiannus o ran creu swyddi dros y ddau ddegawd diwethaf, hyd yn oed yn nyddiau Awdurdod Datblygu Cymru. Mae’r WDA wedi cael amser go galed yn ystod y diwrnod neu ddau ddiwethaf hyn, ond rwy’n cofio, yn nyddiau olaf y WDA, y cadeirydd ar y pryd yn gofyn—mewn cyfarfod yr oeddwn yn bresennol ynddo—pam, er gwaethaf llwyddiant y WDA wrth ddod â chwmnïau o Japan yn arbennig i Gymru i greu miloedd o swyddi, bod ffigurau GDP cymharol Cymru yn gostwng a gostwng? Nid oedd ganddo ateb hawdd, ond un ateb oedd nad oedd y swyddi a oedd yn cael eu creu ar y pryd yn talu cyflogau a oedd gyfuwch â’r swyddi a oedd yn cael eu colli yn y diwydiannau trwm. Ar wahân i ryw ddwy flynedd yn ystod y Llywodraeth ddiwethaf, mae’r ffigurau GVA cymharol hynny yn dal i ostwng.

Mae’n amlwg bod problemau dyfnach yn economi Cymru na diweithdra yn unig. Mae tangyflogaeth yn sicr yn broblem, fel mae Plaid Cymru wedi pwysleisio lawer gwaith. Mae nifer y bobl sy’n gweithio yn rhan amser wedi cynyddu yn sylweddol ers 2011 ac mae cynnydd hefyd yn y nifer sydd â swyddi dros dro. Yn bryderus iawn, mae llawer iawn o’r bobl hynny sydd yn gweithio yn rhan amser yn chwilio am waith llawn amser. Un ffigur na allwn ei anwybyddu yw cyflogau wythnosol cyfartalog, ac mae’r bwlch hwnnw, mae arnaf ofn, yn dal i dyfu dros y blynyddoedd, ers 1999, a dweud y gwir. Bydd lefelau cyflog yn bwysig, wrth gwrs, pan fyddwn yn derbyn y cyfrifoldeb am gyfran o refeniw treth incwm. Felly, mae tangyflogaeth a chyflogau isel yn rhan o broblemau cynhenid economi Cymru.

Dywedaf air yn y fan hon am benderfyniad Cyngor Gwynedd yn ddiweddar i ddileu’r ddwy raddfa isaf o gyflogaeth o fewn y cyngor sir, a hynny ar yr adeg anodd ariannol hon, er mwyn rhoi cyflog teg—wel, tecach, o leiaf—i gannoedd o weithwyr, amryw ohonynt yn ferched ac amryw ohonynt yn gweithio yn rhan amser. Rhoddaf her i weddill cyrff cyhoeddus Cymru i ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd o dan arweiniad Plaid Cymru.

Gair byr am ardrethi busnes: byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno ail luosydd ardrethi busnes ar gyfer busnesau mawr, â gwerth trethiannol o £35,000 neu fwy. Wrth gwrs, mae gan Loegr ddau luosydd yn barod, fel sydd gan yr Alban, felly ni fyddai’r newid hwn yn un chwyldroadol. Fodd bynnag, byddai’r arian ychwanegol a fyddai’n cael ei gynhyrchu gan yr ail luosydd hwnnw yn talu am doriad yn y lluosydd ar gyfer busnesau bach, ac rydym yn gwybod bod ardrethi busnes yn gyfrifol am ran helaeth o gost gweithredu busnesau bach, felly mae’n bwysig iawn, os y gallwn, i ni roi hwb i’r rheini. Byddem hefyd yn ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach er mwyn helpu dros 83,000 o fusnesau. O dan y polisi hwn, byddai tua 70,000 o fusnesau bach ddim yn talu ardrethi busnes o gwbl.

Nick Ramsey

Diolch am ildio. Er mwyn bod yn glir ynglŷn â hynny, Alun Ffred, a yw Plaid Cymru yn cefnogi polisi’r Ceidwadwyr Cymreig i leihau ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000?

A.Ff.J.

Rwy’n falch iawn bod y Torïaid wedi mabwysiadu polisi Plaid Cymru, i bob pwrpas. Beth bynnag yw manylion y cynlluniau, rydym yn gytûn bod angen rhoi hwb ychwanegol i fusnesau bach drwy roi mwy o help iddynt gydag ardrethi busnes. Rwy’n credu y byddai’r arian hwnnw yn hwb hefyd i gyflogaeth yng Nghymru a gobeithio y byddai’n hwb i annog rhai o’r busnesau bach hynny i dyfu a dod yn fusnesau sydd yn cyfrannu’n wirioneddol i’r economi yma yng Nghymru.

11 Mawrth

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Cyllid GIG Cymru

O ran yr £50 miliwn ychwanegol sydd wedi cael ei glustnodi ar gyfer y gwasanaeth iechyd, ar ba sail y bydd yn cael ei ddosbarthu i’r gwahanol fyrddau iechyd? A fydd hynny ar sail angen, ar sail galw, ar sail methu â chydbwyso’r llyfrau, neu beth?

C.J. Wel, bydd cymysgedd o ffyrdd. Wrth gwrs, bydd raid dosbarthu’r arian ynglŷn â sicrhau refeniw blynyddol, ond mae grantiau’n cael eu rhoi tuag at bethau unigol...

Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths 

Gwasanaeth Achub Mynydd

A.Ff.J.

A gaf ofyn am ddatganiad ar y gwasanaeth achub mynydd? Bob wythnos, rydym yn clywed am ddamweiniau ar fynyddoedd Cymru. Timau achub Llanberis ac Ogwen yw’r rhai prysuraf yn y Deyrnas Gyfunol. Timau gwirfoddol ydynt ond maent yn gweithio ochr yn ochr â’r heddlu, y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaeth hofrenyddion. Fodd bynnag, ychydig iawn o gefnogaeth ariannol y mae’r Llywodraeth yn ei rhoi i’r gwasanaeth hollbwysig hwn—llai na chwarter yr hyn sy’n cael ei roi yn yr Alban, er gwaethaf y gweithgarwch yma. Rwy’n gofyn am ddatganiad ar y gwasanaeth pwysig hwn sy’n gwarchod enw da Cymru, sy’n gefn i’r diwydiant twristiaeth ac sy’n arf hollbwysig i’r heddlu a’r gwasanaeth iechyd.

L.G.

Rydych chi’n codi pwynt pwysig iawn. Rwy’n cytuno â chi ynglŷn â gwasanaethau achub mynydd. Nid wyf yn meddwl ein bod yn gwneud digon i ddiolch iddyn nhw na dathlu’r hyn maen nhw’n ei gyflawni...

Gwella Caffael Cyhoeddus – Datganiad y Gweinidog Cyllid Jane Hutt

A.Ff.J.

Diolch yn fawr i’r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Mae Plaid Cymru yn ystyried caffael fel pwnc cwbl allweddol i’r economi, gan ei fod yn ffordd effeithlon o gefnogi busnesau Cymru a chefnogi swyddi yng Nghymru.

Yn anffodus, nid yw’r canllawiau sydd gan y Llywodraeth yn rhai statudol. Nid oes yn rhaid i unrhyw gorff yng Nghymru eu dilyn; dyna’r broblem y mae’n rhaid i’r Llywodraeth ei thaclo er mwyn gwireddu ei hamcanion.

Rydym yn gwybod bod y ganran bresennol—52% o gontractau sydd ar gael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn mynd i gwmnïau yng Nghymru—yn gyfrifol am bron i 100,000 o swyddi. Pe baem yn llwyddo i gynyddu’r ffigur hwnnw i rywle ar draws 75%, nad yw gyfuwch â nifer o wledydd yn Ewrop, byddai’n gallu creu hyd at 46,000 o swyddi, yn ôl ffigurau ‘Value Wales’ ei hun. Byddai hynny’n gostwng diweithdra ac yn ychwanegu at ein ffigurau GVA, hefyd. Y ffaith syml amdani yw na fyddem yn gorfod gwario ceiniog yn ychwanegol i gyflawni hynny, felly mae hwn yn faes eithriadol o allweddol.

Fel roedd y Gweinidog yn ei ddweud, mae enghreifftiau da ac enghreifftiau o arfer gwael yma yng Nghymru. O edrych ar y gogledd-orllewin, roeddwn yn sylwi y diwrnod o’r blaen bod Cyngor Gwynedd, wrth osod cytundebau ar gyfer prydau ysgol yn 2013, wedi llwyddo i roi 100% o’r cytundebau hynny i gwmnïau yn y gogledd-orllewin. Mewn cyngor sir cyfagos, rhoddwyd y cytundebau—yn union yr un fath o gytundebau—i un cyflenwr o Reading. Dyna gytundeb gwerth £1.2 miliwn yn mynd i gwmni ymhell y tu allan i Gymru. Mae’n siŵr bod rhesymau am hynny, ond dyna enghraifft o ddau gyngor sir yn gweithredu mewn ffyrdd cwbl wahanol, a hoffwn wybod sut mae’r Llywodraeth yn mynd i geisio ymateb i hynny. Wedi’r cwbl, rydych newydd sôn am rannu arferion da, a bod hwn yn rhan o gynllun gweithredu gwrthdlodi. Nid yw’n mynd i helpu neb os ydym yn gosod contractau o’r fath ymhell y tu hwnt i ffiniau Cymru.

Ddeunaw mis yn ôl y cafwyd y ffigurau diwethaf, a oedd yn awgrymu bod ychydig dros hanner ein contractau cyhoeddus yn mynd i gwmnïau o Gymru. A wnaiff y Gweinidog ddiweddaru’r Cynulliad ar y cynnydd yng nghanran y cytundebau sy’n mynd i gwmnïau Cymreig? Os nad yw’n gallu gwneud hynny, pryd y bydd mewn sefyllfa i’n diweddaru ni?

J.H.

Rwyf yn ddiolchgar iawn i Alun Ffred Jones am ei ymateb. Mae wedi bod yn weithgar iawn wrth hyrwyddo pwysigrwydd polisi caffael cyhoeddus ac, yn wir, wrth ddylanwadu arno...

Ail Gyllideb Atodol 2013-14

A.Ff.J.

Rydym ni’n falch iawn, yn y gyllideb wreiddiol, fod Plaid Cymru wedi llwyddo i gael cytundeb i greu 5,000 o brentisiaethau er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc. Mae’r gyllideb atodol hon, ar y llaw arall, yn dangos tuedd i gefnogi’n ariannol y byrddau iechyd a hoffwn ystyried canlyniadau gwneud hynny yn y sylwadau byr hyn. Mae perygl, fel mae’r Pwyllgor Cyllid yn nodi, fod taflu arian at y byrddau iechyd wrth iddyn nhw fethu â byw o fewn eu cyllideb yn gallu arwain at arferion gwael. Rwy’n gobeithio y gall y Gweinidog ein sicrhau bod rheolaeth ariannol o fewn y gwasanaeth iechyd yn gwella ac, yn llawn mor bwysig wrth gwrs, y bydd hynny’n arwain at ofal ac allbynnau gwell i’r cleifion maes o law.

Fy mhryder ehangach yw goblygiad diogelu gwariant y GIG ar weddill y gyllideb. Nawr, gallai fod yn ganmoladwy iawn—yn wir, efallai y byddaf yn ei gefnogi—ond mae rhai goblygiadau hirdymor difrifol i hyn pan edrychwch ar y rhagamcanion a wnaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid am ddyfodol gwariant cyhoeddus datganoledig Cymru. Yr hyn yr hoffwn ei weld y tu hwnt i’r gyllideb atodol hon yw mwy o sylwadau gan y Llywodraeth am baratoi gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y dyfodol, boed hynny drwy ymateb fel Llywodraeth i gynigion comisiwn Williams neu rywsut arall. Mae honno’n ddadl ehangach, rhaid cyfaddef, ond mae angen ymdrin â hi fel rhan o’r agenda cyllid cyhoeddus mwy hirdymor yng Nghymru.

I droi’n ôl at y gyllideb atodol, rwyf yn croesawu’r symudiadau sy’n adlewyrchu cefnogaeth i warantu’r dreth gyngor ar gyfer 2013-14. O ran cyllid llywodraeth leol yn fwy cyffredinol, un o effeithiau’r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n diogelu iechyd yw ein bod yn gweld cynnydd anochel yn y dreth gyngor i geisio achub gwasanaethau a diogelu swyddi. Mae arnom angen, rwyf yn meddwl, ymagwedd fwy gonest at y dreth gyngor yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi dweud, lle bydd awdurdodau lleol yn codi’r dreth gyngor, y dylent egluro’n glir pa wasanaethau neu welliannau y bydd y codiadau’n eu cyflenwi.

Yng Ngwynedd, er enghraifft, cafodd y dreth gyngor ei chynyddu y llynedd i roi mwy o adnoddau i’w cronfa cymorth tai i helpu i liniaru’r dreth ystafell wely a thoriadau lles eraill. Eleni, mae’r cyngor yn ei defnyddio i roi codiad cyflog i weithwyr y cyngor sy’n cael y tâl isaf. Yn 2011, amlinellodd y Gweinidog Cyllid sut y câi arian canlyniadol Barnett o rewi’r dreth gyngor yn Lloegr ei wario ar symbylu buddsoddi cyfalaf yn economi Cymru. Ar y pryd, roedd y ffocws i raddau helaeth ar roi hwb i’r economi gan nad oedd yr adferiad i’w weld o gwbl. Nid wyf yn siŵr a yw i’w weld o hyd, ond ta waeth. Fodd bynnag, yr hyn y byddwn yn ei ofyn heddiw yw: beth sydd wedi digwydd i arian canlyniadol o ganlyniad i rewi’r dreth gyngor ac a oes ffordd o gyfarwyddo’r arian canlyniadol penodol hwnnw i mewn i’r setliad llywodraeth leol?

12 Mawrth

Dadl Plaid Cymru: Yr Iaith Gymraeg

Mae hwn yn gynnig cadarnhaol gan Blaid Cymru heddiw, ond mae’n rhaid inni ei weld yn ei gyd-destun, wrth gwrs. Nid oes dwywaith y bu newid sylweddol yn y patrwm ieithyddol dros y 50 mlynedd diwethaf. Mae symudoledd pobl yn greiddiol i ddeall y gwanio a fu ar safle’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol. Dyna un o brif ganlyniadau’r gynhadledd fawr a alwodd y Prif Weinidog yn Aberystwyth beth amser yn ôl.

Mae’n ffaith o fewn fy oes i bod y tirwedd ieithyddol wedi newid yn llwyr. Bu enillion o ran addysg Gymraeg, o ran defnydd cyhoeddus ac o ran statws i’r Gymraeg, ond gwelwyd colli o ran yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn eang ac yn dal i fod yn iaith gymdeithasol. Credaf bod hynny bellach yn tanseilio hyder siaradwyr Cymraeg yn nyfodol yr iaith ac yn nyfodol eu cymunedau eu hunain. Yn sicr, mae angen newid gêr yn go bendant yn ein hymdrechion i droi’r trai yn llanw. Mae mudoledd yn gweithio ddwy ffordd, wrth gwrs—mae gennych chi bobl ifanc yn symud allan, fel arfer i chwilio am swyddi neu i hyfforddi ac i gael addysg; ac mae mewnfudo, gan fwyaf gan bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg. I ymateb i hynny, rwy’n credu bod angen rhai mesurau amddiffynnol a rhai mesurau rhagweithiol. Rydym wedi clywed cryn dipyn am y rhai rhagweithiol heddiw. Yn sicr, un maes lle mae angen gweld y Llywodraeth yn gweithredu ynddo yw cynllunio, ac, yn y Bil arfaethedig gan y Llywodraeth, bydd angen i’r iaith Gymraeg gael ei chydnabod fel ffactor wrth greu patrwm o anheddau a gwaith i’r dyfodol. Dyna yw barn arbenigwyr yn y maes hefyd, sef na fydd hi’n bosibl gweithredu yn gadarnhaol heb fod hynny’n cael ei gydnabod yn y prif ddeddfwriaeth.

Roeddwn yn falch bod cyfeiriad wedi’i wneud at Lwyddo’n Lleol. Datblygodd rhaglen Llwyddo’n Lleol o gynhadledd a gynhaliais pan oeddwn yn aelod o Gyngor Gwynedd ar ddechrau’r degawd diwethaf. Hon oedd y rhaglen a ddaeth allan o’r gynhadledd er mwyn hybu entrepreneuriaeth. Mae hynny’n hollol hanfodol a chreiddiol os ydym yn mynd i weld yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn ffynnu i’r dyfodol.

Un peth diddorol y soniodd Rhun amdano yw brandio. Un cwmni llwyddiannus iawn yn y Gymru wledig yw Llaeth y Llan. Newidiodd ei enw i Village Dairies am beth amser, ond mae wedi symud yn ôl nawr i Laeth y Llan, a hynny am ei fod yn credu bod yr enw Cymraeg yn rhoi’r USP arbennig hwnnw iddynt. Mae hynny’n newyddion calonogol, nid yn unig o safbwynt y cwmni ond o ran defnydd o’r Gymraeg ym myd busnes. Felly, rwyf am annog y Llywodraeth i edrych yn fanwl ar ganlyniadau ac argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen, ac yn arbennig ar yr argymhelliad i greu canolfannau twf. Mae’n sôn am dair prif ganolfan twf, ac rwy’n credu bod gwirionedd a grym yn ei ddadleuon, ond mae angen canolfannau llai hefyd sydd yn cynnig cyflogaeth amrywiol a bywiogrwydd diwylliannol er mwyn cadw a denu teuluoedd ifanc ar hyd ardal y gorllewin. Dyna pam yr oeddwn i mor falch o weld y datblygiad ym Mlaenau Ffestiniog gyda phobl ifanc, ar y cyfan yn bobl ifanc lleol, yn dod at ei gilydd i greu’r ganolfan beicio mynydd. Mae angen gweld mwy o’r math hwnnw o fywiogrwydd a gweithgarwch yn ein cymunedau.

Rwy’n croesawu’n fawr bwriad S4C i ddatganoli peth o’i gweithgaredd y tu allan i Gaerdydd, a phrysured y dydd y bydd mwy o gyrff cyhoeddus yn gwneud yr un peth. Mae effaith cwmnïau sy’n gweithio i S4C yn y gogledd-orllewin yn aruthrol. Yr oedd adroddiad y llynedd ar ‘Rownd a Rownd’, sy’n dathlu 20 mlynedd o wneud rhaglenni ar gyfer S4C. Nododd yr adroddiad y cyfraniad y mae’r rhaglen wedi’i wneud o ran cyflogaeth leol, gyda dros 100 o bobl yn gweithio’n gyson yno, a’i chyfraniad i economi lleol Porthaethwy a Chaernarfon . Mae angen mwy o’r math hwnnw o hwb ar yr economi yn ein cymunedau gwledig ac yn ein trefi gwledig os ydym o ddifrif am weld y Gymraeg yn ffynnu i’r ganrif nesaf.

18 Mawrth

Cwestiynau i’r Prif Weinidog Carwyn Jones

Cymraeg yn y GIG

A.Ff.J.

Mae’r prinder meddygon teulu sydd â sgiliau dwyieithog erbyn hyn yn argyfwng yn y gogledd-orllewin; rydym yn methu hyd yn oed â chael meddygon o’r fath i ardal fel dyffryn Nantlle. Beth sydd yn digwydd—rydych wedi sôn bod gan y byrddau iechyd strategaeth yn ei lle—ar lefel colegau meddygol yng Nghymru i geisio annog mwy o Gymry Cymraeg i ddod i astudio ac i hyfforddi yn y gogledd fel eu bod yn debycach o aros yno?

C.J.

Nid dyna’r broblem, yn fy marn i. Nid yw’n broblem o bobl nad ydynt am ddod i’r gogledd-orllewin. Un o’r problemau sydd wedi ei godi gyda mi yw’r ffaith bod pobl eisiau dod i’r ardal fel meddygon ond bod yn rhaid ffeindio swydd ar gyfer eu gwŷr neu wragedd, oherwydd eu bod hwy hefyd am gael swydd yn yr ardal...

19 Mawrth

Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert

Cyllid y Trydydd Sector

A.Ff.J.

Un o broblemau cyson cyrff y trydydd sector yw cyllid yn cyrraedd yn hwyr. Maent yn cael eu cyllido’n aml drwy gyrff statudol, fel y cynghorau sir, ac, oherwydd nad yw’r rheini’n cael cadarnhad o’u cyllid gan y Llywodraeth, mae’n golygu bod cyrff y trydydd sector yn aml iawn yn diswyddo staff, ac yn colli momentwm; yn aml, mae’n hanner ffordd drwy’r flwyddyn cyn eu bod yn gallu ail-afael yn eu gwaith. Pryd mae’r Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod y trydydd sector yn cael chwarae teg cyllidol er mwyn cyflawni ei waith yn effeithiol?

J.C.

Yn 2012-13, talwyd £323 miliwn i sefydliadau’r trydydd sector... Bellach, mae problemau o ran pryd y caiff anfonebau eu derbyn... Os ydych yn ymwybodol o sefydliadau penodol sydd â phroblemau, byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn rhoi eu manylion i mi.

Trechu Tlodi

A.Ff.J.

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i drechu tlodi yn Arfon?

Vaughan Gething, Dirprwy Weinidog:

 Mae cynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi Llywodraeth Cymru yn nodi targedau a cherrig milltir ar sut y byddwn yn trechu tlodi. Rwy’n falch bod agenda Llywodraeth Cymru yn cael ei rhannu gan bartneriaid yn y sectorau gwirfoddol, iechyd a llywodraeth leol. Ategwyd yr ymrwymiad cyffredin hwnnw yn fy nhrafodaethau diweddar â Chyngor Gwynedd ar sut y mae’n datblygu’r gwaith hwn gyda rhaglenni Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Chymunedau yn Gyntaf yn Arfon.

A.Ff.J.

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Byddaf yn annerch cynhadledd rhwydwaith Teuluoedd yn Gyntaf yng Nghaernarfon ddydd Gwener. Mae’r partneriaid i gyd wedi dod at ei gilydd. Hoffwn ofyn ichi longyfarch y tîm a’r bartneriaeth sy’n gweithio ar y cynllun ac wedi cael rhai llwyddiannau yn barod, a hefyd y cydweithio sydd wedi digwydd â thîm Judy Hutchings ym Mhrifysgol Bangor, sydd wedi gwneud cymaint o waith gyda Blynyddoedd Rhyfeddol, sy’n rhan, mewn gwirionedd, o’r un rhaglen.

Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau

A.Ff.J.

Yn fyr iawn, hoffwn ddatgan cefnogaeth amodol i Fil Darren Millar. Mae’r potensial i bobl sy’n camddefnyddio meysydd carafannau i fyw ynddynt trwy’r flwyddyn yn cynyddu, nid yn unig oherwydd y pwysau ar wasanaethau lleol, ond y posibilrwydd, yn wyneb newid yn yr hinsawdd, y bydd rhai ohonynt yn cael eu gwneud yn ddigartref, ac felly yn dod ar ofyn cynghorau lleol. Y cwestiwn yr wyf eisiau ei ofyn i Darren Millar yw hyn: a yw’n cytuno bod y sefyllfa wedi ei chymhlethu yn ddiweddar gyda’r penderfyniad cwbl afresymegol gan yr Arolygaeth Gynllunio i ddileu’r amod a oedd yn cyfyngu ar dymhorau agor meysydd carafannau? Roedd awdurdod cynllunio’r gogledd yn sicr yn gytûn wrth wrthwynebu’r apêl hon, ond fe benderfynodd yr arolygaeth, yn enw Llywodraeth Cymru, i anwybyddu’r cynllunwyr a’r drefn a oedd wedi bod yn effeithiol, neu’n weddol effeithiol, i gyfyngu ar allu pobl i ddefnyddio carafannau fel eu cartref cyntaf neu fel eu prif gartref. Felly, a yw’n cytuno bod y penderfyniad hwnnw, mewn gwirionedd, wedi gwneud sefyllfa anodd yn waeth, ac felly bod angen rhyw fath o ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â’r sefyllfa?

Darren Millar AC

Rydych yn llygad eich lle yn yr ystyr os oes gan safle drwydded 12 mis ar hyn o bryd, oherwydd y gyfundrefn drwyddedu bresennol, mae’n fwy anodd plismona yn erbyn achosion o gamddefnyddio carafannau gwyliau at ddibenion preswyl...

25 Mawrth

Maes Awyr Caerdydd

Datganiad y Prif Weinidog Carwyn Jones

C.J.

Rydym wedi gweld twf da iawn yn y maes awyr, gyda chynnydd o 9% yn y cyfnod hyd at fis Chwefror 2014. Rydym yn disgwyl gweld mwy o deithwyr yn dod drwy'r maes awyr yn y dyfodol. Mae'n cyfiawnhau’r penderfyniad i wneud yn siŵr ein bod yn sicrhau dyfodol ein maes awyr cenedlaethol.

A.Ff.J.

Fel defnyddiwr cyson o’r maes awyr, rwyf yn falch iawn o’r newyddion calonogol, er byddwn yn dweud bod ffordd bell iawn i fynd. Nid oedd un awyren yno neithiwr ar wahân i’r un roeddwn i yn glanio ynddi. Fodd bynnag, mae gennyf gwestiwn ynglŷn â staff. Rwy’n deall bod nifer o staff y maes awyr ar gytundebau ‘zero hours’. A fedrwch gadarnhau hynny i mi, ac, os yw hynny’n wir, a fyddwch yn symud i newid hynny yn wyneb eich gwrthwynebiad chi i gytundebau o’r fath?

C.J.

Gwnaf ystyried hynny. Wrth gwrs, bwrdd sydd yn rhedeg y maes awyr ei hun, nid y Llywodraeth yn uniongyrchol...

Gwasanaethau Tân ac Achub

A.Ff.J.

Rwyf innau eisiau talu teyrnged i’r gwasanaeth argyfwng a’r gwasanaeth tân. Mae’n gwneud gwaith arwrol ar draws y gogledd ac mae’r cydweithio rhwng y siroedd, a rhwng y siroedd a’r awdurdod tân, wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Sector arall sy’n cael ei alw allan yn gyson i helpu’r gwasanaeth tân a’r gwasanaethau argyfwng, ac i arwain weithiau, yw’r timau achub mynydd. Pan mae llifogydd yn digwydd, mae arbenigedd ac offer y timau achub yma yn hollbwysig i gefnogi’r gwasanaethau statudol. Mewn trychinebau ac achosion o bobl ar goll, unwaith eto, mae’r timau yn hollbwysig. Bu cydnabyddiaeth o’r gwaith mawr yn dilyn diflaniad y ferch fach April Jones, a bu timau achub mynydd yn gweithio, un am wythnos gyfan, yn cefnogi’r gwasanaethau statudol, ac yn cymryd pwysau oddi arnyn nhw. Wrth gwrs, pan mae pobl yn mynd ar goll neu yn brifo ar y mynyddoedd, er mai’r heddlu sy’n cydgordio’r gwaith ar ran y gwasanaethau argyfwng, y gwirfoddolwyr hyn sy’n gorfod mentro allan ym mhob tywydd.

Ychydig iawn o gefnogaeth ariannol sy’n dod o du Llywodraeth Cymru i’r timau achub yma. Maent yn gorfod codi y rhan fwyaf o’r arian eu hunain. Ychydig dros £100,000 yw cyfraniad Llywodraeth Cymru—yn yr Alban, mae’r cyfraniad hwnnw yn nes at £0.5 miliwn—er mai timau achub mynydd Llanberis ac Ogwen yw’r rhai prysuraf yn y Deyrnas Unedig. Felly, y cwestiwn sydd gen i i’r Gweinidog yw hwn: a yw’r Llywodraeth yn mynd i gydnabod yn deilwng rôl hanfodol y timau achub, o gofio’u pwysigrwydd wrth gefnogi’r gwasanaethau argyfwng eraill, ac er sicrhau diogelwch y cyhoedd?