PAM PLAID CYMRU?

20/03/2014

Mae rhai’n gofyn o dro i dro, ’I be mae Plaid Cymru yn da?’. Cymru ‘da’ sy’n gofyn y cwestiwn yn aml , yn amlach na pheidio. Yn y Cynulliad nos Fawrth - a fawr neb yn gwrando nac yn cymryd sylw cafwyd rhai atebion i’r cwestiwn.

Roedd yn eisteddiad hirfaith  wrth geisio, ar ôl tri eisteddiad a channoedd o welliannau, rhoi’r Bil (Deddf) Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i’w wely. Roedd o’n horwth o fesur blêr ond llwyddodd Plaid Cymru trwy ddyfal donc i gael rhai gwelliannau tyngedfennol.

Yn gyntaf ar ôl ymgyrch frwd llwyddodd Lindsay Whittle i roi cyfle i bobl ifanc mewn gofal aros gyda’u teuluoedd nes eu bod yn 21 oed yn hytrach na chael eu rhoi ar drugaredd y wlad yn 18 oed. Mae o’n gam mawr a phwysig i bobl ifanc fregus.

Yn ail cafodd Elin Jones welliant fyddai’n gorfodi’r awdurdodau i ystyried yr iaith Gymraeg wrth baratoi gwasanaethau. Gresyn bod ei angen ond o leiaf mae’n arf pellach i ddefnyddwyr gwasanaeth.

Yn olaf llwyddodd Jocelyn Davies I sicrhau bod gofalwyr yn cael digon o amser wrth ymweld â chleientiaid i gyflawni eu gwaith a’u tasgau yn iawn. Doedd o ddim yn berffaith fel amod ond yn welliant ar y sefyllfa bresennol.

Methodd gwelliant arall ganddi i ddileu cytundebau dim oriau i ofalwyr. Rhain ydi’r cytundebau sy’n clymu gofalwyr i gwmnïau gofalu heb sicrwydd oriau gwaith o gwbl  sydd yn arwain at gyflogau isel, annhegwch a diflastod ar ran gweithwyr. Ymunodd y Blaid Lafur - ie, y Blaid Lafur -  gyda’r Torïaid , i wrthod y gwelliant. A does dim un undeb llafur wedi cysylltu â Jocelyn i gefnogi ei gwelliant er bod Milliband a’r TUC yn taranu yn erbyn yr arfer yn y wasg yn gyson.

Dyna’r Blaid yn gwneud y gwaith caib a rhaw; yn cefnogi hawliau siaradwyr Cymraeg, yn cefnogi amodau teg i weithwyr a gwarchod safon gwasanaeth. A dyma’r Blaid ar Gyngor Gwynedd wnaeth ddileu y ddwy raddfa isaf o gyflogau’r gweithlu yr wythnos ddiwethaf.A dyma’r Blaid dw i’n falch o fod yn aelod ohoni.